Astudiaethau achos

Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Mae Prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd (PRhC) yn fenter gyffrous a dynamig er mwyn cynllunio, cydlynu a chyflwyno gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, treftadaeth a thwristiaeth ar draws Cymoedd De Cymru. Gan weithio mewn cydweithrediad â rhaglenni adfywio Llywodraeth Cymru yn y Cymoedd, mae’r prosiect yn gweithio i newid realiti a dirnadaethau am yr ardal, a thrwy Ymgyrch Calon ac Enaid y Cymoedd i hyrwyddo’r rhanbarth fel lle deniadol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Mae mwy na 40 o bartneriaid yn gyfrifol am drosglwyddo prosiect PRhC, am gydweithrediad effeithiol traws-sector a thraws-ffiniol. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i gyflawni’r amcan terfynol, sef ehangu a hyrwyddo asedau amgylcheddol a diwylliannol anhygoel y Cymoedd. Gall y Llysgenhadon bellach gynghori eraill ar sut i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Un o elfennau pwysicaf y rhaglen PRhC yw’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Cymunedol. Mae’r cynllun hwn yn annog gwirfoddolwyr ledled y Cymoedd i dderbyn hyfforddiant achrededig, rhad ac am ddim gan ddatblygu i fod yn westeiwyr croesawgar ac yn ffynhonnell o wybodaeth am eu cymuned. Ar ôl derbyn hyfforddiant, bydd Llysgennad yn cynnig croeso cynnes i ymwelwyr gan rannu hanesion ac amlygu’r dreftadaeth leol. Yn ychwanegol i hyn, mae modiwlau arbenigol eraill ar gael megis celf, crefydd, gweithgareddau awyr agored, treftadaeth a’r amgylchedd.

‘Amgylchedd Ein Cymoedd’ oedd y modiwl cyntaf o ddiddordeb arbennig, gyda’r gweithdy wedi’i gynllunio i gynyddu gwybodaeth y Llysgenhadon o’r hyn sy’n gwneud amgylchedd y Cymoedd mor arbennig a deniadol i ymwelwyr ac i hyrwyddo cludiant cynaliadwy i drigolion ac ymwelwyr. Mynychodd nifer o siaradwyr gwadd o fewn trafnidiaeth, gan gynnwys SWWITCH, Traveline Cymru a Sustrans. Fel rhan o ddatblygiad a hyrwyddiad cyfleusterau a gweithgareddau yn gysylltiedig ag amgylchedd y Cymoedd, mae Rhaglen PRhC yn dymuno amlygu pwysigrwydd yr ymwybyddiaeth deithio i drigolion lleol ac ymwelwyr.

Mae Traveline Cymru yn argymell bod llysgenhadon yn defnyddio ac yn hyrwyddo eu gwasanaethau i ymwelwyr. Mae’n bwysig bod gan y Llysgenhadon wybodaeth ac ymwybyddiaeth am gludiant cynaliadwy fel y gallant rannu’r wybodaeth; ac mae hefyd yn bwysig cael dolen gyswllt o bartneriaid PRhC i Traveline Cymru. Mae cynyddu ymwybyddiaeth am ddewisiadau cludiant cyhoeddus o fewn ardaloedd gwledig yn Y Cymoedd yn hynod werthfawr. Yna, gall aelodau o’r gymuned fod yn ymwybodol o’r ystod o wasanaethau sydd ar gael yn yr ardal a rhannu’r wybodaeth gyda thrigolion ac ymwelwyr!