Blog

Traveline Cymru Fares Launch

Lansiad swyddogol gwasanaeth darganfod prisiau Traveline Cymru

21 Hydref 2013

Roedd dydd Llun 7 Hydref yn ddiwrnod pwysig i ni yma yn Traveline Cymru, oherwydd dyna pryd y cynhaliwyd lansiad swyddogol y gwasanaeth darganfod prisiau sydd ar ein gwefan. Cafodd y lansiad ei gynnal ar Gampws y Ddinas Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd.

Ar ôl cynnal ymchwil i’r farchnad ac arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid, gwelsom fod nifer gynyddol o bobl yn awyddus i gael gwybodaeth ychwanegol i’r wybodaeth yr oeddent yn ei chael yn barod. Cyflwyno prisiau i’n cynlluniwr taith oedd y cam rhesymegol nesaf i’w gymryd er mwyn gwella’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i’n cwsmeriaid. Roedd adborth parhaus gan gwsmeriaid yn cadarnhau mai’r wybodaeth bwysicaf y mae ei hangen ar deithiwr wrth gynllunio taith yw cost y daith honno. Bellach, mae ein gwasanaeth prisiau newydd yn golygu ei bod yn fwy cyfleus fyth i gwsmeriaid gynllunio eu taith gyda ni.

Daeth tyrfa dda iawn i’r lansiad, gan gynnwys llysgennad Traveline Cymru a’r cyflwynydd teledu, Iolo Williams, a Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Edwina Hart. Dechreuodd y lansiad wrth i’n Rheolwr Cyffredinol, Graham Walter, groesawu’r gwesteion a chyflwyno ein Cynorthwy-ydd Prisiau, Tansy Appleby. Mae Tansy wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod modd i’r cyhoedd ddechrau defnyddio’r gwasanaeth darganfod prisiau. Yna cafwyd cyflwyniad gan Tansy a fu’n esbonio sut y dechreuodd y prosiect prisiau, a chafodd ganmoliaeth dda gan y gwesteion.

Tansy Appleby esbonio'r gwasanaeth Tocynnau

Yna lansiwyd y prosiect yn swyddogol gan Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Edwina Hart. Soniodd rywfaint am fanteision cefnogi prosiectau sy’n helpu i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyfleus a bod gwell defnydd yn cael ei wneud ohoni. Meddai:

“Rwy’n falch o allu lansio’r gwasanaeth newydd hwn gan Traveline Cymru heddiw. Bydd gallu cael mynediad i amserlenni a gwybodaeth am brisiau mewn un man yn golygu bod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn haws ac yn fwy cyfleus. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau tebyg i hwn er mwyn annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus i wella mynediad i swyddi a gwasanaethau a lleihau dibyniaeth ar geir.”

Edwina Hart yn lansio prosiect yn swyddogol

Y nesaf i siarad oedd Iolo Williams. Roedd ar ei orau, a bu’n adrodd rhai straeon doniol am y profiadau cadarnhaol y mae ef wedi’u cael o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ochr yn ochr â’r chwerthin, roedd ei neges yn ddiffuant ac yn galonogol wrth iddo esbonio sut y gall defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyfoethogi ein bywyd: mae’n gyfle i gyfarfod â phobl ddiddorol a lliwgar; yn gyfle i weld golygfeydd godidog na fyddech fel rheol yn eu gweld; ac yn gyfle i gael ychydig o amser i chi eich hun yn ystod taith i ddarllen neu ymlacio. Anogodd bobl i sôn am wasanaethau Traveline Cymru wrth eraill, yn y gobaith y bydd rhagor o bobl yn ceisio cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus yn eu bywyd pob dydd, ac y bydd pobl yn aros i feddwl ‘A oes angen i mi ddefnyddio’r car?’ cyn gwneud eu taith.

Iolo Williams yn dod i ben y lansiad

Cawsom rai lluniau ardderchog o’r digwyddiad gyda chymorth Jodie Phillips o JamJar PR gydol y dydd. Roedd y lansiad yn ddigwyddiad hynod o gadarnhaol a atgyfnerthodd yr angen am wasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, sy’n adnabod ac yn diwallu anghenion cwsmeriaid.

Meddai ein Rheolwr Cyffredinol, Graham, “Mae’r prosiect hwn wedi golygu llawer o waith ac amser ac mae wedi cyflwyno sawl her dechnegol, ond mae’r canlyniadau’n golygu bod yr holl waith wedi bod yn werth yr ymdrech ac rydym yn falch iawn o allu lansio’r gwasanaeth darganfod prisiau. Bydd yn gwneud mwy i helpu ein cwsmeriaid ledled Cymru i gael mynediad yn fwy effeithiol i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus.”

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon