Blog

Fresher's Week 2013

Y nifer fwyaf erioed o ymholiadau am wybodaeth Traveline Cymru

23 Hydref 2013

Yn ôl ystadegau diweddar, gwelodd Traveline Cymru y galw am ei wybodaeth am deithio yn codi i’r lefelau uchaf erioed yn ystod mis Medi, pan ddarparwyd y nifer fwyaf o ddarnau o wybodaeth yn holl hanes y cwmni.

Darparodd Traveline y nifer fwyaf erioed o ddarnau o wybodaeth trwy ei wefan, ei ganolfan alwadau a’i wasanaethau symudol, ac mae’n siŵr bod y ffaith bod plant wedi bod yn dychwelyd i ysgolion ar hyd a lled Cymru a bod myfyrwyr newydd wedi bod yn dechrau mewn prifysgolion ledled y wlad wedi cyfrannu at hynny.

Eleni, aeth Tîm Marchnata Traveline Cymru i dros 20 o ddigwyddiadau mewn prifysgolion a cholegau ledled Cymru gan ddosbarthu 4,000 o fagiau llawn nwyddau a llawer iawn o wybodaeth i fyfyrwyr hen a newydd i’w helpu i deithio o amgylch eu trefi a’u dinasoedd newydd. Mae hynny, ynghyd â chyfleoedd i fynychu digwyddiadau mawr megis Sioe Frenhinol Cymru a Sioe Sir Benfro, yn rhan bwysig o weithgarwch marchnata blynyddol y cwmni.

Mae Traveline yn gallu dangos yn glir bod ffeiriau glasfyfyrwyr wedi bod yn llwyddiant gan fod y galw am wasanaethau digidol y cwmni wedi cynyddu ers y mis blaenorol. Mae’r cynnydd wedi bod yn amlwg iawn yng nghyswllt yr ap y mae’r cwmni yn ei ddarparu’n rhad ac am ddim ar gyfer ffonau iPhone ac Android, sydd wedi arwain at gynnydd o 64% yn y wybodaeth a gyrchwyd ym mis Medi eleni o’i gymharu â mis Medi 2012.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru: ‘Mae’n braf iawn gweld gwaith caled fy nhîm yn nigwyddiadau’r haf ac mewn prifysgolion yn llwyddo. Maent yn gweithio’n galed iawn ac yn teithio i bob cwr o’r wlad i roi gwybodaeth i deithwyr am wasanaethau Traveline Cymru. Rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn ein gwasanaethau, yn enwedig ein gwasanaethau digidol, ac rydym yn gobeithio gweld y cynnydd hwn yn y galw am wybodaeth yn parhau.’

Yn ddiweddar, lansiodd y cwmni wasanaeth sy’n darparu gwybodaeth am brisiau tocynnau bysiau a threnau ar ei wefan a thros y ffôn, a chyn bo hir bydd y gwasanaeth ar gael ar ei ap ar gyfer ffonau clyfar hefyd. Mae’r cwmni’n gobeithio y bydd y gwasanaeth newydd hwn yn galluogi mwy fyth o deithwyr i gael y wybodaeth y mae arnynt ei hangen i deithio ar hyd a lled Cymru.

Swyddog Marchnata Laura cynrychioli Traveline Cymru mewn digwyddiadau Glas

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon