Blog

Fresher's Week 2013

Darganfod Arwyr Traveline: Wythnos y Glas yng nghwmni Traveline Cymru

31 Hydref 2013

Mae Wythnos y Glas yn gyfle gwych i ni recriwtio Arwyr Traveline newydd. I fyfyrwyr sy’n symud i ddinas newydd, gall fod yn gyfle delfrydol iddynt ddarganfod y ffyrdd gorau o gyrraedd y mannau lle mae angen iddynt fod. Hyd yn oed i fyfyrwyr sy’n adnabod yr ardal, gall dechrau tymor newydd fod yn adeg berffaith iddynt ddod o hyd i ffyrdd mwy cyfleus a chynaliadwy o deithio.

Yn ystod mis Medi bu Laura, ein Swyddog Marchnata, allan yn recriwtio Arwyr Traveline newydd ledled y wlad, gan ymweld â llawer o wahanol Ffeiriau’r Glas ac annog myfyrwyr newydd i ddarganfod mwy am Traveline Cymru a’r modd y gallant ddefnyddio ein gwasanaethau. Roedd yr holl broses yn llwyddiant ysgubol, a dosbarthwyd llawer iawn o wybodaeth. Cymerodd llawer o fyfyrwyr ran yn ein cystadleuaeth i Arwyr hefyd er mwyn cael cyfle i ennill rhai o nwyddau rhad ac am ddim Traveline, ac roedd yn ffordd wych o gael pobl i ddechrau ymwneud â’r cwmni.

Mae ein Arwyr Traveline yn barod i ysgubo fyny fyfyrwyr newydd

Dechreuodd siwrnai Traveline Cymru yn Ffair y Glas Coleg Gwent ddydd Gwener 30 Awst 2013. Ein hymgyrch i ddod o hyd i Arwyr Traveline oedd agwedd amlycaf ein stondinau hyrwyddo, gyda Laura a’n gweithwyr dros dro wedi eu gwisgo fel Arwyr Traveline yn barod i ddenu pobl i ymwneud â’r ymgyrch. Cafodd y myfyrwyr a ymwelodd â’n stondin fagiau llawn nwyddau a oedd yn cynnwys pinnau ysgrifennu, pinnau aroleuo, cylchoedd allweddi a’n taflenni gwybodaeth. Ar gyfartaledd cafodd 400 o fagiau eu dosbarthu ym mhob digwyddiad; roedd y myfyrwyr yn croesawu’r hyn a oedd gennym i’w gynnig ac roedd yn galonogol gweld eu bod yn awyddus i gasglu gwybodaeth.

Yn Ffair y Glas Aberystwyth ddydd Llun 23 Medi, cawsom gwmni tîm Trafnidiaeth Canolbarth Cymru. Roedd y Ffair yn un brysur iawn, ac roedd yno lawer iawn o fyfyrwyr brwdfrydig a oedd yn awyddus i gael ein taflenni a’n nwyddau. Cafodd y digwyddiad ei gynnal mewn pabell fawr yn hytrach nag mewn neuadd chwaraeon, lle’r oedd llawer o’r ffeiriau eraill yn cael eu cynnal, ac roedd trefniant o’r fath yn ddefnyddiol gan fod y myfyrwyr yn gallu mynd o’r naill stondin i’r llall yn hwylus, a oedd yn golygu ei bod yn haws i ni ddechrau sgwrsio â’r sawl a oedd yn dod atom.

Yn Ffair y Glas Aberystwyth

Ym Mhrifysgol Abertawe, roeddem wrth ein bodd o gael cwmni Consortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru a’n Cynorthwy-ydd Data am Docynnau, Heidi Rees. Roedd hwn yn ddiwrnod gwych arall, ac roedd yn braf cael aelod o’n tîm Data yn cymryd rhan ac yn gweld â’i llygaid ei hun mor brysur oedd y digwyddiad, gan fwynhau’r profiad yn fawr iawn!

Aethom i rai ffeiriau a oedd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd hefyd. Un ffair gofiadwy oedd Ffair Glasfyfyrwyr Lleol Caerdydd lle daethom i ben â dosbarthu’r holl fagiau a’r holl nwyddau a oedd gennym i fyfyrwyr brwdfrydig.

Fodd bynnag, rhaid mai Ffair y Glas Prifysgol Bangor oedd uchafbwynt ein siwrnai – cafodd dros 600 o fagiau llawn nwyddau a thaflenni eu casglu gan y myfyrwyr, a oedd yn fwy o lawer na’r nifer yr oeddem yn ei disgwyl! Roedd brwdfrydedd y myfyrwyr yn wych, ac roedd yn braf gweld cynifer o bobl â diddordeb go iawn mewn ymwneud â’r gwasanaethau a oedd gennym i’w cynnig iddynt.

Ffair y Glas Prifysgol Bangor

Daeth siwrnai Traveline Cymru i ben ar nodyn calonogol iawn yn Ffair y Glas Coleg Merthyr. Roedd llawer o’r myfyrwyr a oedd yn bresennol eisoes yn gyfarwydd â defnyddio’r bws, felly roedd y wybodaeth yr oeddem yn gallu ei rhoi iddynt yn ymddangos yn ddefnyddiol. Drwy gydol gweddill mis Ffeiriau’r Glas, parhau i dyfu wnaeth nifer y bobl yr oeddem yn llwyddo i’w recriwtio. Roedd mynd allan a gallu siarad â’r myfyrwyr yn bersonol o help gwirioneddol o safbwynt dangos iddynt sut y gallant wneud y defnydd gorau o’n gwasanaethau a’u cael i ddeall beth yw manteision trafnidiaeth gyhoeddus.

Dyma a oedd gan Laura i’w ddweud am y profiad: “Mae Wythnos y Glas bob amser yn gyfnod prysur i ni. Mae’n braf cael ymweld â Phrifysgolion a Cholegau o amgylch Cymru a helpu myfyrwyr newydd neu fyfyrwyr presennol gyda’u hymholiadau ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd y digwyddiadau a gynhaliwyd eleni’n llwyddiant ysgubol. Cafwyd cyfanswm o 2,754 o geisiadau ar gyfer cystadleuaeth Arwyr Traveline, a chafodd 4,000 o fagiau llawn nwyddau eu dosbarthu!”

Gellir gweld yr holl luniau a dynnwyd o’r digwyddiadau ar ein tudalen Facebook. Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon