Blog

Y storm ym mis Hydref: Effaith y cyfryngau cymdeithasol

22 Tachwedd 2013

Mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf ohonom yn cofio dydd Llun 28 Hydref fel diwrnod y ‘storm fawr’. Roedd disgwyl i dywydd garw daro’r rhan helaeth o Gymru a Lloegr gyda gwyntoedd cryfion a phryderon y byddai glaw trwm yn achosi llifogydd a difrod.

Ar adegau fel hyn mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gweithio ar eu gorau. Roedd rhybuddion am y storm a oedd ar fin taro yn ddefnyddiol wrth i bobl baratoi ar gyfer y problemau teithio a oedd yn siŵr o ddigwydd. Fodd bynnag, mae’n amhosibl rhagweld beth fydd yn digwydd nes y daw’r amser. Bydd gwybodaeth am achosion o oedi’n aml yn cyrraedd yn sydyn a phob yn dipyn, sy’n golygu mai llwyfannau megis Twitter yw’r ffordd orau i ni gael y wybodaeth i chi, y cyhoedd, cyn gynted ag y gallwn.

Mae Twitter yn llwyfan arbennig yn ystod digwyddiadau o’r fath, a doedd dydd Llun 28 Hydref ddim yn eithriad. Roedd modd i ni aildrydar gwybodaeth gan weithredwyr eraill yn ogystal â chyhoeddi ein gwybodaeth ein hunain. Yn ystod y dydd gwelwyd gweithredwyr a chwmnïau gwybodaeth yn cyd-dynnu ar-lein fel tîm er mwyn darparu gwybodaeth gyfredol ac amser real am deithio wrth iddi ddod i law, sy’n rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosibl heb lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

twitterfacebook

Mae chwyldro’r cyfryngau cymdeithasol yn cydio, ac mae’n hawdd gweld pam. Mae pobl yn fwyfwy awyddus i gael gwybodaeth yn gyflym wrth iddynt deithio, ac oherwydd y datblygiadau ym maes technoleg ddigidol symudol, bellach mae angen i gwmnïau allu darparu’r gwasanaeth hwn i’w cwsmeriaid wrth i’r galw barhau i gynyddu. Roedd arolwg diweddar gan eMarketer yn awgrymu bod un o bob tri o bobl yn y DU bellach yn defnyddio llechen yn rheolaidd (o leiaf unwaith y mis). O gofio mai yn ddiweddar y cyflwynwyd y llechen ddigidol, mae’r ystadegyn hwn yn awgrymu bod nifer y bobl sy’n berchen ar lechen yn cynyddu’n gyflym; mae’r cyfleustra o gael gwybodaeth ar flaenau’ch bysedd yn ddeniadol i lawer, yn enwedig gan fod technoleg symudol o’n cwmpas ym mhob man ac ar gael mor hwylus erbyn hyn.

Mae’r datblygiad hwn yn newyddion gwych i’n cwsmeriaid, ac mae hefyd yn newyddion gwych i ni. Fel cwmni, mae gallu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnodau o dywydd cyfnewidiol, megis y storm, yn golygu bod modd i ni fod mewn cysylltiad amser real â chi. Gallwch ofyn cwestiynau i ni wrth i chi deithio, a gallwn ymateb iddynt.

Fodd bynnag, nid y cyfryngau cymdeithasol yw’r unig elfen i ffynnu yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi bod ein canolfan alwadau ym Mhenrhyndeudraeth wedi cael bron i 1,000 o alwadau ar ddydd Llun 28 Hydref, sef dwbl nifer y galwadau y mae’n eu cael fel rheol ar ddydd Llun. Mae darparu gwybodaeth gyfredol i’n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni, ac rydym yn ymdrechu i ddarparu amrywiaeth o ddulliau i chi gysylltu â ni yn y modd sydd fwyaf addas i chi, boed hynny dros y ffôn neu ar-lein.

Mae bob amser yn anodd rhagweld sut y bydd y tywydd yn troi, ond mae grym y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y tywydd garw wedi ein galluogi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau i drafnidiaeth wrth iddynt ddigwydd. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych ymlaen at barhau i’w wneud wrth i’r gaeaf ddod ar ein gwarthaf.

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion diweddaraf drwy ein dilyn ar Twitter a thrwy hoffi ein tudalen Facebook.

Visit Traveline Tim's profile on Pinterest.

Pob blog Rhannwch y neges hon