Blog

Christmas adverts

Naws y Nadolig ar y cyfryngau cymdeithasol

13 Rhagfyr 2013

Mae mis Rhagfyr wedi cyrraedd, ac mae’n anodd credu bod y Nadolig ar ein gwarthaf yn barod! Er hynny, mae rhai cwmnïau wedi llwyddo i gael pob un ohonom i fynd i hwyl yr ŵyl dros y mis diwethaf gyda’u hysbysebion Nadolig hudol a hapus. Felly, pa ffordd well o groesawu’r cyfnod cyn y Nadolig, na chyflwyno ein hoff hysbysebion Nadolig sydd ar y teledu eleni?

Rydym wedi dewis yr hysbysebion hyn am reswm arbennig, cofiwch; erbyn hyn mae gan gyfryngau cymdeithasol ran bwysig i’w chwarae wrth hyrwyddo hysbysebion, ac mae’r hysbysebion hyn yn arbennig wedi defnyddio tactegau cymdeithasol ar-lein i sicrhau ein bod ni’n teimlo’n rhan o’u hymgyrchoedd.

 

Gŵyl y Gaeaf Marks and Spencer

Ddechrau mis Tachwedd, bu i Marks and Spencer ddatgelu ei hysbyseb Nadolig, sydd â thema chwedl dylwyth teg. Mae’r hysbyseb lawn sy’n para dwy funud wedi’i dylanwadu gan Alice in Wonderland a’r Wizard of Oz, ac mae’n dangos merch yn rhedeg ar ôl ei daeargi cyn syrthio i lawr twll (tebyg i’r un a geir yn Alice in Wonderland) a chrwydro drwy fyd ffantasi tanddaearol. Cyn i’r hysbyseb lawn gael ei dangos ar y teledu, lansiodd M&S ragflas ar-lein er mwyn ennyn diddordeb. Ymddangosodd y rhagflas hwn ar dudalen Facebook y cwmni 48 awr cyn i’r hysbyseb gael ei lansio’n llawn ar y teledu, ac ymddangosodd ar Twitter drwy neges hysbysebu arbennig. Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gynnig rhagflas o’i hysbysebion, a bu’r arbrawf yn llwyddiannus iawn. Rhan o’r ymgyrch a oedd yn gysylltiedig â’r hysbyseb oedd gofyn i ddilynwyr ar Twitter ddewis enw’r daeargi bach drwy bleidleisio o blaid Magic neu Sparkle, gan ddefnyddio’r hashnod #MagicorSparkle. Llwyddodd yr ymgyrch i ennyn trafodaeth ymysg y gynulleidfa a chynnwys y gynulleidfa’n rhan o’r brand, gan lwyddo ar yr un pryd i gyflwyno holl hud y Nadolig yr oedd y cwmni am ei ail-greu ar gyfer ei gynulleidfa.

Gwyliwch yr hysbyseb yn llawn isod!

 

Hysbyseb yr arth a’r ysgyfarnog gan John Lewis

Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan John Lewis, mae hysbyseb yr arth a’r ysgyfarnog yn hysbyseb wedi’i hanimeiddio sy’n codi calon ac sy’n canolbwyntio ar y thema o ddod o hyd i’r anrheg berffaith ar gyfer rhywun yr ydych yn ei garu. Mae gan John Lewis enw am greu hysbysebion Nadolig arbennig sy’n cyffwrdd y galon, felly nid yw’n syndod bod y gymuned ar Twitter yn awyddus i fynegi barn ar yr hysbyseb newydd. Cafodd y cwmni ei ymateb mwyaf erioed ar Twitter, wrth i nifer anhygoel o negeseuon trydar - 86,300 - gael eu hanfon dros y penwythnos cyntaf wedi i’r hysbyseb ymddangos. Yn ogystal, diolch i’r hysbyseb enillodd John Lewis 7,000 o ddilynwyr newydd ar Twitter, 12,000 o ddilynwyr newydd ar Facebook a 4,600 o danysgrifwyr newydd ar YouTube yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf ar ôl i’r hysbyseb gael ei rhyddhau. Yn dilyn llwyddiant yr hysbyseb, mae gan yr arth a’r ysgyfarnog eu cyfrifon Twitter eu hunain erbyn hyn, ac mae ganddynt dros 11,000 o ddilynwyr yr un!

Mae’n bosibl bod y don hon o ddilynwyr newydd a sylwadau wedi’i chreu o ganlyniad i’r gwaith o hyrwyddo’r hysbyseb o flaen llaw. Yn yr un modd â Marks and Spencer, cafodd pytiau byr o’r hysbyseb eu dangos rai diwrnodau cyn i’r hysbyseb lawn ymddangos ar ITV am y tro cyntaf, ac roedd y pytiau hyn yn cynnwys yr hashnod #sleepingbear. Dim ond am ryw 5 eiliad yr oedd y rhagflas yn para, ond roedd yn ymddangos bod hynny’n ennyn chwilfrydedd pobl ar-lein ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch.

 

Y ddwy hysbyseb hyn oedd ein ffefrynnau o’r holl hysbysebion. Mae’n ddiddorol gweld bod modd defnyddio technegau bach ar gyfryngau cymdeithasol i’n cynnwys ni yn fwy nag yr ydym yn sylweddoli. Mae cynnig cip bach o hysbyseb a darparu fawr ddim mwy na hashnod yn deffro ein chwilfrydedd ac yn ein hannog i chwilio am yr hashnod ac ymuno â chymuned o bobl sy’n ysu am weld yr hysbyseb lawn yn cael ei datgelu.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn parhau i brofi eu gwerth, wrth i gynulleidfaoedd ddangos eu diddordeb dro ar ôl tro mewn ymgysylltu â’r gwasanaethau hyn. Bu i astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan y Ganolfan Hysbysebu ar y Rhyngrwyd ddarganfod bod pob £1 a gaiff ei gwario ar waith ym maes y cyfryngau cymdeithasol, yn gallu cynhyrchu £3.34. Ond yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw’r modd y mae cyfryngau cymdeithasol yn galluogi cwmni i gynnal sgyrsiau dwy ffordd ystyrlon a’i gynulleidfa; gall pobl deimlo eu bod yn rhan o daith y cwmni, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym ni am i chi, ein cynulleidfa ni, barhau i’w deimlo.

Roedd ein hymgyrch #ArwyrTraveline yn ffordd wych o’n galluogi ni i gyfathrebu â’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, a chlywed pa wasanaethau y maent wedi elwa o’u defnyddio. Yn yr un modd â’r hysbysebion Nadolig, roedd cynnwys technegau’n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol, megis yr hashnod, yn golygu ei bod yn llawer haws dod â phawb at ei gilydd i rannu straeon a lluniau, ymysg llu o bethau eraill. Rydym yn ymwybodol iawn bod pobl wrth eu bodd yn ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol, ac rydym yn bwriadu parhau i fuddsoddi ein hamser yn yr hyn yr ydym yn ei wneud ar-lein er mwyn bod yno ar gyfer ein cwsmeriaid, waeth sut y byddant yn dewis cysylltu â ni.

Wrth i’r gaeaf ddechrau gafael, mae cyfryngau cymdeithasol yn dod yn bwysicach i ni. Mae llawer o bobl yn dewis troi at ein cyfrif Twitter yn ystod y cyfnod hwn gan fod y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf yn ymddangos mewn amser real pan fydd arnynt eu hangen fwyaf. Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol dros yr ŵyl hefyd yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach sy’n gallu defnyddio ein gwasanaethau. Gall fod yn anodd gwybod pa newidiadau sydd wedi’u gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y gwyliau, pan all y wybodaeth newid yn sydyn iawn. Bydd y ffaith ein bod ar-lein yn ymateb i negeseuon ac yn cyhoeddi gwybodaeth newydd yn syth yn golygu bod pobl yn teimlo’n fwy hyderus wrth ymweld â’n tudalennau ar gyfryngau cymdeithasol, gan wybod eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol gan un person.

Rydym yn mwynhau gallu siarad â’n cwsmeriaid ac ymgysylltu’n uniongyrchol â’ch anghenion chi; mae pawb yn gwerthfawrogi’r cysylltiad personol bach hwnnw, boed hynny drwy ymgyrchoedd megis y rhai uchod neu drwy gysylltu â phobl ar-lein, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r gwasanaeth hwn dros gyfnod y gwyliau a thu hwnt.

Pa hysbyseb Nadolig sydd wedi aros yn y cof i chi eleni? A welsoch chi’r hashnodau? Os ydych chi eisoes yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, neu os ydym ni wedi’ch ysbrydoli chi i fynd ar-lein, dilynwch ni ar Twitter, sef @TravelineTim, ac ar Facebook er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf y bydd ei hangen arnoch dros y Nadolig, wrth iddi ein cyrraedd ni!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon