Blog

St David's Day

Crwydro Cymru a Darganfod Digwyddiadau

26 Chwefror 2014

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn agosáu ac rydym yn edrych ymlaen at y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ledled y wlad. Bydd llawer o bethau cyffrous yn digwydd ar y dydd, o garnifal a pherfformiadau theatrig yng Nghaerdydd i orymdeithiau a marchnadoedd Cymreig traddodiadol ledled y gogledd a’r canolbarth. Felly, bydd rhywbeth ar gael at ddant pawb, waeth ble’r ydych yn byw. Edrychwch ar ein tudalen ynghylch Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn eich ardal chi!

Gall adegau fel y rhain fod yn gyfle gwych i fynd i ardaloedd o Gymru nad ydych efallai wedi ymweld â nhw o’r blaen, megis parciau cenedlaethol, orielau, cestyll a llawer mwy. Felly, p’un a ydych yn awyddus i ymuno â thaith gerdded dywysedig ym mherfeddion cefn gwlad neu’n awyddus i brofi’r cyffro sy’n gysylltiedig â gwylio digwyddiad chwaraeon mawr yn y brifddinas, mae Cymru bob amser yn cynnig amrywiaeth fendigedig o brofiadau y gallwch fod yn rhan ohonynt neu’u gwylio.

I bawb sy’n hoffi chwaraeon, mae Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad wedi hen ddechrau erbyn hyn, a gwelwyd y gêm rhwng Cymru a Ffrainc yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf. Mae’r digwyddiadau hyn yn creu awyrgylch gwych ym mhob rhan o’r ddinas ac maent bob amser yn eithriadol o boblogaidd. Os gwnaethoch chi golli’r gêm ddiwethaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i weld Cymru yn chwarae yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn 15 Mawrth yng Nghaerdydd! Fodd bynnag, gall y gemau hyn olygu bod traffig yn cael ei ddargyfeirio a bod llawer o strydoedd yn cael eu cau yn y ddinas. Mae ein tudalennau ynghylch digwyddiadau yn ffordd wych o ddangos y wybodaeth ddiweddaraf am draffig yng nghyswllt digwyddiad penodol, fel y gallwch gael gafael ar yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen mewn un man. Caiff unrhyw ddigwyddiadau sy’n effeithio ar drafnidiaeth yn yr ardal eu rhestru hefyd ar ein tudalen ynghylch Rhybuddion Teithio, er mwyn i chi gael gwybod am unrhyw broblemau, hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu mynychu’r digwyddiad.

At hynny, ceir ystod eang o wahanol ffyrdd y gallwch chi gyrraedd pen eich taith pan fyddwch yn teithio ar hyd a lled y wlad. Bydd ein tudalennau ynghylch digwyddiadau yn cynnig opsiynau a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i gynllunio eich taith, a byddant hefyd yn cynnig gwybodaeth am sut i gymryd rhan mewn cynllun rhannu car, sy’n gallu bod yn ffordd wych o gyfarfod â phobl sy’n mynychu’r un digwyddiad a dod i’w hadnabod yn well. Bydd ein Cynlluniwr Taith hefyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau teithio i chi, o deithio ar drenau a bysiau i feicio a cherdded, a byddwch yn gallu dewis pa opsiwn sydd fwyaf addas i chi, yn dibynnu ar eich dymuniadau personol. Weithiau, gall fod yn anodd meddwl am roi cynnig ar ddull newydd o deithio sy’n anghyfarwydd i chi, ond dyma lle gallwn ni eich helpu. Mae gennym lawer o adnoddau i’ch helpu i gynllunio eich taith, gan gynnwys mapiau ar gyfer beicio a cherdded yng Nghymru, a bydd gwybod ble y gallwch gael gafael ar y wybodaeth y mae arnoch ei hangen yn mynd â chi gam yn nes at roi cynnig ar rywbeth newydd.

Mwynhewch y dathliadau Dydd Gŵyl Dewi y penwythnos hwn, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw mewn cysylltiad â ni ar Twitter a Facebook er mwyn gweld y rhybuddion teithio wrth iddynt gyrraedd ac er mwyn cael eich ysbrydoli i fynychu digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru.

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon