Blog

Cardiff Bay Dr Who

Yn y fan a’r lle: dod o hyd i leoliadau ffilmio yng Nghymru a dod i wybod mwy amdanynt

18 Mawrth 2014

Mae Cymru yn gartref i nifer fawr o wahanol gynyrchiadau ffilm a theledu, er nad yw hynny efallai’n amlwg i bawb, ac mae rhai o’n hoff raglenni, o Gavin and Stacey i Y Gwyll / Hinterland, sef y rhaglen dditectif a ddarlledwyd yn ddiweddar ar S4C a’r BBC, wedi’u ffilmio yn ein hardaloedd hardd ac unigryw.

Dr Who Tardis at Cardiff Bay

Image from Visit Wales

Mae rhaglenni megis Dr Who a Torchwood wedi cyfrannu’n fawr at sicrhau sylw i’r brifddinas. Gan fod y rhan fwyaf o’r ffilmio’n digwydd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ac yn ardaloedd y Cymoedd, ymddengys fod lleoliadau yn ne Cymru i’w gweld yn fwy rheolaidd o lawer ar deledu cenedlaethol Prydain erbyn hyn. Mae rhaglenni megis Gavin and Stacey wedi llwyddo o ran hynny hefyd. Mae’r rhaglen wedi’i lleoli yn nhref fach y Barri, ac mae’n galluogi pobl i weld rhywle arall yng Nghymru heblaw lleoliadau yng Nghaerdydd. Mae dramâu amlwg megis Dr Who a Torchwood wedi cael cryn ddylanwad o safbwynt sicrhau bod Cymru yn dod yn fwy cyfarwydd ac yn fwy amlwg ar deledu cenedlaethol Prydain. Fodd bynnag, nid yw llwyddiant y rhaglenni hyn wedi tanseilio twf cynyrchiadau teledu llai o faint yng Nghymru, sydd hefyd yn rhoi llwyfan i amgylchedd unigryw ein gwlad.

Ers llwyddiant Gavin and Stacey, mae awdur y gyfres - Ruth Jones - wedi creu’r gyfres Stella yn fwy diweddar, a gaiff ei ffilmio’n bennaf yng Nglyn Rhedynog yn Rhondda Cynon Taf. Ond nid dyma’r unig gynyrchiadau sydd wedi’u ffilmio yng Nghymru; mae tirwedd y wlad wedi’i defnyddio mewn amrywiaeth o ffilmiau a rhaglenni poblogaidd eraill hefyd, gan gynnwys y canlynol:

  • Cafodd trydedd gyfres rhaglen deledu BBC Three, Being Human, ei ffilmio ar Ynys y Barri.
  • Cafodd rhai o’r golygfeydd yn Harry Potter and the Deathly Hallows eu ffilmio ar draeth Freshwater West yn Sir Benfro!
  • Caiff ffantasi ganoloesol y BBC, Merlin, ei ffilmio ledled Cymru gan gynnwys ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Castell Coch, Caerffili a Chastell Cas-gwent.

Ydych chi’n defnyddio Pinterest? Dilynwch ni yma, ac ychwanegwch rai o’ch hoff olygfeydd chi a ffilmiwyd yng Nghymru!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Mae sicrhau bod Cymru yn dechrau cael mwy o sylw drwy’r rhaglenni hyn yn dod yn ffordd wych o ddenu ymwelwyr i drefi a lleoedd eraill ym mhob cwr o’r wlad. Beth am dreulio diwrnod yn ymweld â rhai o’r lleoliadau ffilmio, gan fwynhau’r golygfeydd unigryw sydd i’w gweld o amgylch Cymru? Mae’r gwanwyn yn agosáu, a gall hynny fod yn gyfle gwych i adael y car gartref a manteisio ar ddulliau eraill cynaliadwy o deithio er mwyn ymweld â’r lleoedd yr ydych yn awyddus i’w gweld. Efallai y byddwch am feicio o amgylch rhai o’r lleoliadau, neu gerdded ar hyd rhai o’r llwybrau sydd yng nghefn gwlad Cymru. Ar gyfer teithiau sydd ychydig yn hirach, gall trenau neu fysiau fynd â chi drwy ardaloedd hardd, gan roi cyfle i chi fwynhau’r golygfeydd yn hytrach na gorfod canolbwyntio ar yrru. Mae ein cynlluniwr taith yn cynnwys ystod o opsiynau teithio, a gall eich helpu i ddewis y llwybr gorau ar gyfer y daith yr ydych wedi’i dewis!

Gallwch deithio o amgylch Cymru yn ddidrafferth mewn amryw ffyrdd, a gallwch ddewis o blith llawer o opsiynau. Mae gan Croeso Cymru wybodaeth ardderchog am deithio ar fysiau ac ar drenau, neu mae’r holl gynghorion y bydd eu hangen arnoch i ddechrau arni i’w gweld ar ein tudalen Gwybodaeth Teithio.

Ymddengys fod ffilmio yng Nghymru yn dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i nifer gynyddol o bobl ddarganfod y tirweddau unigryw sydd i’w cael ledled y wlad. Mae Y Gwyll / Hinterland, rhaglen dditectif ddwyieithog newydd S4C a’r BBC, yn enghraifft wych o hynny. Mae’r rhaglen wedi’i lleoli yng Ngheredigion ac wedi’i ffilmio yn Aberystwyth a’r cyffiniau, ac mae’n dangos lleoliadau nad oedd llawer o bobl wedi’u gweld o’r blaen. A oes unrhyw un wedi bod i weld y rhaeadrau ym Mhontarfynach? Cafodd pennod gyntaf Y Gwyll / Hinterland ei ffilmio yno, ac mae’r lleoliad yn un o lawer o fannau rhagorol ac unigryw y gall ymwelwyr fynd iddynt am y diwrnod. Pa leoliad y byddech chi’n hoffi ymweld ag ef?



Pob blog Rhannwch y neges hon