Blog

Share Cymru

Lansio Share Cymru, y Cynllun Rhannu Teithiau yng Nghymru

31 Mawrth 2014

Cafodd Share Cymru, sef yr unig gynllun dwyieithog a’r cynllun cyntaf o’i fath ar gyfer rhannu teithiau yng Nghymru, ei lansio yn Stadiwm Liberty yn Abertawe ddydd Mawrth 18 Chwefror.

Cafodd cynllun newydd Share Cymru ei gynllunio gan Carbon Heroes ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae’n cymryd lle pedwar cynllun rhannu ceir a oedd yn gynlluniau rhanbarthol a fodolai ar wahân i’w gilydd hyd at fis Ionawr 2013. Yn dilyn adborth a oedd yn nodi bod y cynlluniau hynny’n achosi rhywfaint o ddryswch, mae gwefan Share Cymru yn awr yn darparu un pwynt cyswllt canolog ar gyfer pawb ledled Cymru a allai fod am rannu car.

Bwriad y cynllun yw helpu i baru teithiau pobl er mwyn iddynt allu teithio gyda’i gilydd. Mae rhannu ceir yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg gyrwyr ceir a’u cyd-deithwyr o amgylch y byd. Fodd bynnag, yr hyn sy’n gwneud Share Cymru yn unigryw yw’r ffaith mai nid cynllun i’r sawl sy’n rhannu ceir yn unig ydyw. Gall y sawl sy’n defnyddio’r cynllun ddewis rhannu dulliau eraill o deithio hefyd, er enghraifft gallant ddewis beicio gyda’i gilydd, rhannu tacsi neu hyd yn oed gerdded gyda’i gilydd. Drwy fynd ar wefan newydd Share Cymru, gallwch nodi’r teithiau y byddwch yn eu gwneud unwaith yn unig neu’ch teithiau rheolaidd, a dod o hyd i bobl eraill sy’n gwneud yr un teithiau â chi.

Ar ôl i bawb gyrraedd, cafwyd anerchiad gan Claire Bennett o Lywodraeth Cymru a groesawodd y gwesteion ac a gyflwynodd gynllun Share Cymru. Mae’n bosibl bod defnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio yn rhywbeth yr hoffai pawb wneud mwy ohono, ond mae’n anodd weithiau osgoi’r ffaith mai defnyddio’r car yw’r opsiwn mwyaf ymarferol ar gyfer rhai teithiau. Dyna pryd y mae rhannu car yn gallu helpu i ddarparu opsiwn arall ar gyfer defnyddwyr ceir, gan eu galluogi i deithio’n fwy cynaliadwy. Yn y pen draw, mae’r cynllun yn helpu i leihau achosion lle mae unigolyn yn teithio ar ei ben ei hun mewn car, mae’n lleihau tagfeydd ac mae hefyd yn helpu pobl i wario llai ar betrol. Esboniodd Claire nad bwriad y cynllun yw cael pobl i rannu ceir yn lle defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ei fwriad, yn hytrach, yw cynnig dull ychwanegol o deithio i bobl sy’n gweld mai defnyddio’r car yw’r opsiwn mwyaf ymarferol iddynt o hyd.

Yna darparodd Craig Barrack, Rheolwr Gyfarwyddwr Carbon Heroes, rywfaint o wybodaeth gefndirol am y gwaith ymchwilio a dylunio a wnaed ar gyfer gwefan Share Cymru. Yn ogystal â’ch galluogi i gofrestru eich taith, mae’r wefan hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i ddefnyddwyr, megis gwybodaeth am arbedion o ran carbon ac o ran cost yn ogystal â gwybodaeth am ddiogelwch.

Cafwyd gair neu ddau wedyn gan Jayne Cornelius o Gonsortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru, a ddangosodd sut i ddefnyddio Share Cymru a sut i gofrestru taith. Bu’n ymdrin hefyd â’r ffaith y gallai rhai pobl fod yn teimlo nad yw rhannu car yn ddiogel, ac esboniodd yr arferion gorau a’r arferion mwyaf synhwyrol y dylid glynu wrthynt wrth drefnu i gwrdd â phobl eraill y bwriedir rhannu car neu daith â nhw. Anogodd bawb i sôn wrth eu ffrindiau a’u cydweithwyr am y cynllun er mwyn codi ymwybyddiaeth ohono a darganfod pobl y gallent ddechrau rhannu car neu daith â nhw. Gallai dod o hyd i rywrai y gallant gerdded adref gyda nhw fod yn ateb delfrydol i rywun sydd, er enghraifft, yn gweithio sifftiau nos ac yn teimlo ei bod yn fwy diogel ac yn fwy synhwyrol iddynt gael cwmni i gerdded.

Jayne: "Share Cymru yw’r cynllun dwyieithog cyntaf ar gyfer Cymru gyfan, sy’n paru gyrwyr a theithwyr â’i gilydd ar gyfer unrhyw deithiau y maent yn eu gwneud, boed unwaith yn unig neu’n rheolaidd. Manteision y cynllun yw y byddwch yn arbed arian ac yn cymdeithasu ar yr un pryd. Os nad ydych am deithio mewn car gallwch gofrestru fel cyfaill beicio neu gyfaill cerdded."

Anogodd Jayne ni hefyd i rannu straeon am unrhyw brofiadau yr ydym wedi’u cael o rannu teithiau; gall y cynllun fod yn ffordd wych o ddod â phobl ynghyd ac o ofalu am yr amgylchedd, felly beth am gofrestru eich taith heddiw a gweld beth fydd yn digwydd?

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cliciwch yma i ddarllen taflen wybodaeth Share Cymru neu ewch i’r wefan i ddechrau arni!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon