Blog

Traveline Tim

Ymgyfarwyddo â’r llythyr newyddion

25 Ebrill 2014

Mae’r Pasg bellach ar ben yn swyddogol, ac rydym ni’n sicr wedi bod yn gwneud yn fawr o’r heulwen a welwyd dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Wrth i ni fynd i hwyl yr ŵyl, efallai i chi sylwi ein bod wedi lansio Cystadleuaeth Gwobrau’r Pasg y mis hwn, er mwyn diolch yn fawr i bob un ohonoch sydd wedi cofrestru i gael ein llythyrau newyddion misol. Mae ein pum enillydd lwcus wedi cael gwybod, ac rydym yn edrych ymlaen at anfon eu gwobrau Pasg atynt!

Gan fod y gystadleuaeth hon bellach wedi dod i ben, hoffem gymryd y cyfle hwn i roi gwybod i chi am y math o bethau yr ydym yn bwriadu eu cynnwys yn ein llythyrau newyddion yn y dyfodol. Gan fod cymaint o bethau’n digwydd i’n cadw ni’n brysur ac ar flaenau ein traed, mae bob amser rhywbeth y gallwn ni roi sylw iddo neu ei rannu â chi. Os ydych chi’n darllen ein llythyr newyddion yn rheolaidd, efallai eich bod wedi sylwi ein bod bellach yn eu hanfon atoch ar ddechrau pob mis. Mae hynny’n newid gwych yn ein barn ni, gan ei fod yn golygu y gallwn gynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am weithgareddau sydd ar ddod.

Gwyddom fod gallu cynllunio eich teithiau o flaen llaw yn bwysig i chi, felly rydym yn hoffi rhoi gwybod i chi bob mis am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru, a’ch cynorthwyo chi drwy roi cynghorion i’ch helpu ar hyd y daith! Wrth i’r haf nesáu, byddwch hefyd yn ein gweld ni mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch y lleoedd y byddwn yn ymweld â nhw, er mwyn i chi allu dod draw a dweud helo, ac efallai y bydd rhai rhoddion rhad ac am ddim ar gael i chi hefyd!

Bydd ein llythyr newyddion hefyd yn cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf arferol am yr hyn sy’n digwydd neu’n newid yn Traveline Cymru, felly ni fyddwch yn colli dim. Rydym yn mwynhau gallu estyn allan atoch fel hyn, ac yn ystod cystadleuaeth y Pasg roedd ein llythyr newyddion diweddaraf ym mis Ebrill yn cynnig rhai syniadau ynghylch y pethau y gallech chi fod yn eu gwneud dros benwythnos y gwyliau – o helfeydd wyau Pasg i ddigwyddiadau rygbi. Rhowch wybod i ni os oeddech chi wedi defnyddio ein Cynlluniwr Taith i drefnu eich teithiau dros y gwyliau!

Cofiwch y gallwch gael cip ar ein tudalen Rhybuddion Teithio cyn gwneud unrhyw deithiau yn y dyfodol, i weld a oes unrhyw beth yn eich ardal a allai amharu ar eich taith. Neu efallai y gall ein tudalen Digwyddiadau gynnig ysbrydoliaeth i chi o ran lleoedd i ymweld â nhw am y dydd!

Os hoffech chi gofrestru i gael ein llythyr newyddion misol, gallwch wneud hynny drwy nodi eich cyfeiriad ebost yn y blwch Cadwch mewn cysylltiad ar hafan ein gwefan, a byddwch wedi cofrestru. Edrychwn ymlaen at ysgrifennu atoch eto yn fuan!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon