Blog

Catch the bus week

Wythnos Dal y Bws

02 Mai 2014

Mae’r sylw i gyd yr wythnos hon wedi bod ar Wythnos Dal y Bws. Nod yr ymgyrch cenedlaethol a lansiwyd gan Greener Journeys, y grŵp cludiant cynaliadwy, yw codi ymwybyddiaeth o fanteision teithio ar y bws, ac yn benodol annog pobl nad ydynt fel rheol yn teithio ar y bws i roi cynnig arni.

Mae teithio ar y bws yn cynnig ystod enfawr o fanteision i’r sawl sy’n teithio i’r gwaith, ac mae hefyd yn eich helpu i leihau eich ôl troed carbon. Nod Wythnos Dal y Bws yw ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd a’u hannog i newid eu harferion teithio a rhoi cynnig ar ddefnyddio cludiant mwy cynaliadwy.

Wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, mae nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo wedi bod yn cael eu cynnal ar draws y wlad, ac mae cannoedd o weithredwyr bysiau, awdurdodau lleol a grwpiau teithwyr wedi bod yn cymryd rhan ac wedi bod yn ymuno yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #wythnosdalybws a #catchthebusweek.

Mae llawer o’r gweithredwyr, yr awdurdodau a’r grwpiau hynny wedi bod yn annog pobl i anfon lluniau o’u teithiau ar fysiau, ac mae eraill wedi bod yn helpu i gefnogi’r ymgyrch yn eu hardal nhw. Mae’r ardaloedd hynny’n cynnwys Bannau Brycheiniog ac ardal Bws Caerdydd. Yn rhan o’r Wythnos Dal y Bws, mae Bws Caerdydd wedi bod yn cynnal ei ymgyrch ‘Rhowch gynnig arni’, sy’n herio gyrwyr i adael y car gartref a mynd i’r gwaith ar y bws am wythnos.

Mae’r ymgyrch wedi bod yn gyfle gwych i bobl ddechrau siarad â’r sawl sy’n cymryd rhan, gan hysbysu’r cyhoedd ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael a’r mannau lle gallant gael gafael ar wybodaeth. Mae cynghorau lleol megis Cyngor Bro Morgannwg, er enghraifft, wedi sicrhau bod amserlenni gwasanaethau lleol ar gael ar-lein ar un dudalen ddefnyddiol ar y we.

Mae Greener Journeys hefyd wedi bod yn annog pobl i drydar lluniau ohonynt eu hunain yn dal y bws gydol yr wythnos, gan ddefnyddio’r hashnod #CTBW, er mwyn iddynt gael cyfle i ennill un o ddau docyn blynyddol i fynd i Amgueddfa Drafnidiaeth Llundain.

Gan fod cynifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo’n cael eu cynnal ar draws y wlad, sy’n cynnwys tocynnau am brisiau rhatach a thocynnau rhad ac am ddim, mae Wythnos Dal y Bws wedi bod yn gyfle gwych i deithwyr roi cynnig ar ddefnyddio gwasanaethau bysiau a gweld a ydynt yn gweithio iddyn nhw.

Fodd bynnag, fel gyda llawer o bethau, ymddengys mai’r allwedd i sicrhau newid yw gwneud ychydig bach yn aml. Cyhoeddodd Greener Journeys flog yr wythnos hon a oedd yn archwilio’r syniad hwn, a gallwch ddarllen y blog yma! Beth am ddechrau drwy ddefnyddio’r bws yn lle’r car ar gyfer un daith yr wythnos? Y gyfrinach yw addasu ein bywydau prysur i wneud lle i ddulliau mwy cynaliadwy o deithio, sydd o fudd nid yn unig i’r amgylchedd ond i ni a’n hiechyd hefyd.

Beth yw manteision teithio ar y bws?

- Gall arwain at daith fwy effeithiol sy’n achosi llai o straen. Ni fydd yn rhaid i chi boeni am ganolbwyntio ar yrru drwy draffig. Eisteddwch yn ôl gyda llyfr da yn eich llaw, a mwynhewch y siwrnai!

- Mae’n gost-effeithiol. Mae nifer o docynnau teithio ar gael i’r sawl sy’n teithio’n rheolaidd ar fysiau. Yn y pen draw, felly, gallech fod yn gwario llai o arian ar docynnau nag y byddech wedi’i wario ar betrol.

- Bydd yn lleihau eich ôl troed carbon.

- Bydd cerdded rhwng arosfannau bysiau a phen eich taith yn hybu eich iechyd.

Mae’r ymgyrch yn annog pobl i roi cynnig ar ddefnyddio llwybrau bysiau newydd, drwy gynnig tocynnau rhatach a chynigion arbennig iddynt, ac mae’n eu helpu hefyd i ddeall y dulliau eraill o deithio y gallent eu defnyddio a chael gwybodaeth amdanynt. Gallai hynny helpu yn y pen draw i arwain pobl i newid eu dulliau o deithio yn y tymor hir.

A yw Wythnos Dal y Bws wedi eich ysbrydoli chi i roi cynnig ar ffordd newydd o deithio i’r gwaith? Ewch i’n Cynlluniwr taith i gael gweld yr holl wybodaeth y gallai fod arnoch ei hangen am lwybrau bysiau ar gyfer y daith yr ydych wedi’i dewis. Neu ewch i’n tudalen Darganfod amserlen i ddod o hyd i amserlenni bysiau ar gyfer eich lleoliad penodol.

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.



Pob blog Rhannwch y neges hon