Blog

Join us for some summer events

Digwyddiadau’r haf a chyfle i ennill iPod shuffle!

13 Mehefin 2014

Mae Cymru yn hen gyfarwydd â thywydd gwlyb. Er hynny, mae tymor yr haf yn agosáu ac rydym yn fwyfwy parod i groesawu’r tywydd teg a’r haul braf.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw at yr haf eleni, oherwydd byddwn yn crwydro Cymru yn ymweld â llawer o wahanol ddigwyddiadau lle byddwn yn awyddus i siarad â chi a rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am ffyrdd o fanteisio i’r eithaf ar ddulliau cynaliadwy o deithio yn yr ardal. Dyma rai o’r lleoedd y byddwn yn ymweld â nhw dros y misoedd nesaf:

Y Parti ar y Traeth yn y Coed Duon, 28 – 29 Mehefin

Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt, 21 – 24 Gorffennaf

Gŵyl y Caws Mawr, 26 – 27 Gorffennaf

Big Welsh Bite, Pontypridd, 2 – 3 Awst

Sioe Sir Benfro, 20 – 21 Awst

Rhowch wybod i ni ar Twitter, drwy gysylltu â @TravelineTim, os ydych yn bwriadu mynychu’r digwyddiadau hyn, a chofiwch alw heibio i’n stondin i ddweud helo! Byddwn hefyd yn cynnig cyfle i chi ennill iPod shuffle ym mhob digwyddiad, felly cofiwch alw draw i’n gweld er mwyn cymryd rhan a chael cyfle i ennill! Yn nes at yr amser byddwn yn lansio cystadleuaeth newydd sbon yn ein llythyr newyddion, felly os dewch chi ar ein traws mewn digwyddiad gofynnwch am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan. Mae ein llythyr newyddion yn ffordd wych o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd o amgylch Cymru, a rhoi ambell gyngor i chi ynghylch dulliau cyfleus a chynaliadwy o deithio i’r digwyddiadau. Fyddech chi’n hoffi cael y llythyr newyddion? Gallwch gofrestru i danysgrifio iddo ar ein hafan, drwy nodi eich cyfeiriad ebost yn y blwch ‘Cadwch mewn cysylltiad’.

Ar wahân i’r digwyddiadau y byddwn ni’n ymweld â nhw, mae llawer o wyliau cyffrous eraill yn cael eu cynnal gydol misoedd yr haf, a fydd yn berffaith ar gyfer diwrnod neu benwythnos gwych i ffwrdd gyda’ch teulu neu’ch ffrindiau. Edrychwch ar y digwyddiadau isod i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi ac i gael rhagor o fanylion am sut i gyrraedd y digwyddiadau:

Ffiesta Tsilis Merthyr, 14 Mehefin

Gŵyl Gelfyddydau Eryri, 14 – 15 Mehefin

Caerffili 10K, 22 Mehefin

Ffiliffest 2014, Caerffili, 28 Mehefin

Gŵyl Wythnos Bysgod Sir Benfro, 28 Mehefin – 6 Gorffennaf

Gŵyl Redeg Cymru, Y Rhyl, 29 Mehefin

Gŵyl Adrodd Straeon Beyond the Border, Llanilltud Fawr, 4 – 6 Gorffennaf

Gŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd, 11 – 13 Gorffennaf

Yr Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli, 1 – 9 Awst

Gŵyl Ffrinj Aberhonddu, 8 – 11 Awst

Sioe Amaethyddol Môn, 12 – 13 Awst

Gŵyl y Dyn Gwyrdd, 14 – 17 Awst

Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi, 16 Awst

Ble bynnag y byddwch chi’n mynd yr haf hwn, gallwch gynllunio eich siwrnai a dod o hyd i’r llwybrau gorau a’r dulliau gorau o gyrraedd pen eich taith drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith. Mae’n bosibl y bydd gan rai digwyddiadau drefniadau teithio arbennig, megis gwasanaethau bws gwennol. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw wasanaethau trafnidiaeth ychwanegol a ddarperir ar gyfer gwyliau a digwyddiadau ar ein tudalen Digwyddiadau, felly bydd yr holl fanylion y bydd arnoch eu hangen i gynllunio eich taith ar gael yn gyfleus i chi mewn un man.

Gwnewch yn fawr o dymor yr haf, ac ymunwch â ni ar ein taith! Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn y digwyddiadau.

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon