Blog

Make your summer extra bright with our newsletter giveaway

Cyfle i ennill gwobrau yn llythyr newyddion yr haf!

11 Gorffennaf 2014

Mae’n anodd credu mor gyflym y mae’r misoedd yn gwibio heibio, ond gan fod yr haul a’r tywydd cynnes wedi cyrraedd, rydym yn mwynhau holl hwyl yr haf.

Gyda chynifer o bethau’n ein cadw ni’n brysur ar hyn o bryd, rydym yn awyddus i rannu cymaint ag y gallwn â chi; felly, rydym wedi penderfynu gwneud eich haf ychydig yn fwy braf drwy lansio cystadleuaeth newydd sbon yn llythyr newyddion yr haf i’n holl ddarllenwyr hyfryd!

Dim ond i chi gofrestru i gael ein llythyr newyddion electronig a gaiff ei gyhoeddi’n fisol cyn dydd Iau 7 Awst bydd cyfle i chi ennill gwobr ddirgel! Bydd gwobr yr un ar gael i 10 enillydd lwcus, felly cofrestrwch ar unwaith i gymryd rhan.

Bydd yr enillwyr yn cael gwybod drwy ebost ddydd Gwener 8 Awst, pan fyddwn yn trefnu bod eich gwobr yn cael ei hanfon atoch.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru i gael ein llythyr newyddion ac os ydych yn awyddus i wybod ychydig yn fwy amdano, dyma flas ar y math o bethau y byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanynt:

- Unrhyw beth sy’n amharu ar drefniadau teithio neu’n arwain at newid trefniadau teithio ar hyd a lled y wlad.

- Digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru, a dulliau o deithio yno.

- Unrhyw ddarnau o wybodaeth ddiweddaraf gan Traveline Cymru er mwyn gwneud yn siŵr na fyddwch chi’n colli dim.

Beth amdani? Os hoffech chi gofrestru, gallwch wneud hynny drwy ymweld â hafan ein gwefan a nodi eich cyfeiriad ebost yn y blwch ‘Cadwch mewn cysylltiad’.

Rydym yn mwynhau gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sy’n digwydd bob mis. At hynny, bydd ein tîm yn ymweld â llawer o ddigwyddiadau dros fisoedd yr haf a byddant yn barod i roi unrhyw wybodaeth ddefnyddiol y gallai fod ei hangen arnoch, ynghyd â rhai rhoddion yn rhad ac am ddim (bydd cyfle i ennill iPod Shuffle hyd yn oed! Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn drwy ddarllen ein blog ar ddigwyddiadau’r haf.)

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y digwyddiadau y byddwn yn ymweld â nhw yn ein llythyrau newyddion nesaf, felly byddwch chi’n gwybod yn union ble mae dod o hyd i ni!

Unwaith yn rhagor, diolch i’n holl ddarllenwyr, a phob lwc!

Tîm Traveline Cymru

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon