Blog

Find a timetable

Sut mae defnyddio’r cyfleuster darganfod amserlen

29 Medi 2014

Ers lanlwytho ein blog ‘Sut mae defnyddio’r Cynlluniwr Taith’ roeddem yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol i’r rheini ohonoch sy’n defnyddio ein cyfleuster darganfod amserlen gael canllaw cam wrth gam tebyg er mwyn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleuster. Mae’r wybodaeth am amserlenni’n gallu cael ei harddangos mewn sawl ffordd, a bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gymryd un cam ar y tro er mwyn dod o hyd i’r wybodaeth y mae ei hangen arnoch mewn modd sy’n hawdd i chi!

Gwyliwch ein canllaw fideo cam wrth gam, a ddarparwyd gan Rockadove, sy’n dangos sut i ddefnyddio’r cyfleuster darganfod amserlen, neu dilynwch y cyfarwyddiadau isod i ddarganfod beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio’r cyfleuster darganfod amserlen!

Gellir gweld y cyfleuster darganfod amserlen ar ochr chwith ein hafan, neu dan y tab ‘Eich Taith’ ar frig y dudalen.

Cam un:

I ddechrau, mae dau ddewis chwilio ar gael i chi. Os ydych yn gwybod beth yw rhif gwasanaeth y bws rydych chi’n chwilio amdano, dewiswch yr opsiwn ‘Yn ôl rhif y gwasanaeth’ a nodwch y rhif yn y bar chwilio. Yn ogystal, gallwch nodi’r amser a’r dyddiad rydych chi’n dymuno teithio a dewis gweithredwr y bws os ydych yn dymuno cyfyngu ar eich canlyniadau.

Yr ail opsiwn yw ‘Yn ôl lleoliad’. Felly, os hoffech wybod pa fysiau sy’n rhedeg yn eich ardal chi ac os hoffech gael gwybodaeth am y bysiau hynny, dewiswch yr opsiwn hwn a nodwch eich lleoliad yn y blwch.

Yna cliciwch ar y botwm ‘Edrych am Amserlen’ er mwyn mynd i’r dudalen nesaf.

Finding a timetable

Cam dau:

Yna, cewch restr o’r amserlenni sy’n cyfateb i’ch chwiliad. Er mwyn cadarnhau pa amserlen yr hoffech edrych arni cliciwch ar y gwasanaeth perthnasol ac yna cewch eich cyfeirio at y dudalen nesaf o ganlyniadau.

Timetable results

Cam tri:

Yna, byddwch yn gweld yr amserlen ar gyfer y gwasanaeth rydych wedi’i ddewis ar ffurf grid. Bydd y mannau lle bydd y bws yn aros wedi’u rhestru i lawr yr ochr chwith a bydd yr amseroedd wedi’u nodi ar bwys yr enwau lleoedd. Dan bob un o’r teithiau hyn ceir dolen gyswllt er mwyn gweld map o’r daith benodol honno.

Dan y grid sy’n cynnwys yr amserlen bydd rhestr o wybodaeth ddefnyddiol sy’n gysylltiedig â’r teithiau dan sylw, gan gynnwys enw’r gweithredwr sy’n rhedeg y gwasanaeth ac unrhyw rybuddion. Yn ogystal, fe welwch ddolen gyswllt i fersiwn PDF o’r amserlen yn y rhestr hon.

Timetable results

Gobeithio y bydd y canllaw hwn yn ei gwneud ychydig yn haws i chi ddod o hyd i wybodaeth am amserlenni. Rhowch wybod sut hwyl rydych yn ei chael arni wrth ddefnyddio’r cyfleuster hwn!

Pob blog Rhannwch y neges hon