Blog

Fresher's Week 2014

Ein taith yn ystod Wythnos y Glas – Ionawr 2014

13 Hydref 2014

Mae Wythnos y Glas bob amser yn gyfle gwych i ni gael teithio ar hyd a lled y wlad a chwrdd â myfyrwyr newydd; dyma gyfle perffaith i helpu myfyrwyr sydd wedi symud i ddinas newydd i ddod o hyd i’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn gallu teithio o le i le yn hwylus, ac estyn allan i fyfyrwyr sy’n fwy cyfarwydd â’r ardal. Cawsom wythnos hynod o brysur y llynedd yn cwrdd â llawer o fyfyrwyr cyfeillgar, a doedd eleni’n ddim gwahanol.

Drwy gydol mis Medi roedd ein tîm Marchnata allan yn mynychu amrywiaeth o ffeiriau Prifysgol ar draws Cymru, yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am Traveline Cymru ac am y modd y gallant ddefnyddio ein gwasanaethau er mwyn helpu i wneud y profiad o deithio o gwmpas eu trefi Prifysgol ychydig bach yn haws. Roedd Wythnos y Glas ei hun yn llwyddiant ysgubol, ac roedd pob un o’r digwyddiadau’n fwy prysur a chyffrous na’r flwyddyn flaenorol – roedd llu o fyfyrwyr yn mynd o gwmpas y stondinau, a gwnaethom ddosbarthu 4,000 o fagiau’n llawn nwyddau yn ystod yr wythnos!

Y wybodaeth a’r nwyddau sydd ar gael gennym yn ystod Ffeiriau’r Glas

Cafwyd dechrau prysur iawn i Wythnos y Glas, wrth i’n tîm fynychu ffeiriau ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd pob un o’r ffeiriau’n hynod o brysur, ac roedd yn galonogol gweld cynifer o fyfyrwyr yn gofyn cwestiynau ac yn dangos diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau. Roedd hefyd yn gyfle gwych i ni hyrwyddo ein cystadleuaeth i fyfyrwyr, #UniTravelTips, ac annog myfyrwyr i gymryd rhan er mwyn bod â’r cyfle i ennill gwobrau mawr.

Myfyrwyr yn cael gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth

Roeddem hefyd yn falch iawn o gael cwmni ein Cynorthwy-ydd Ansawdd Gwasanaeth, Adam Keenor, mewn nifer o ddigwyddiadau trwy gydol yr wythnos; mae’n braf bod aelodau ein tîm data yn cael profiad o ddigwyddiadau prysur fel hyn ac yn cael cyfle i ryngweithio â’r myfyrwyr wyneb yn wyneb. Dyma farn Adam am ei brofiadau yn ystod Wythnos y Glas:

“Gan mai ers 4 mis yn unig yr wyf wedi bod yn gweithio i Traveline Cymru, dyma’r tro cyntaf i mi fynychu Ffeiriau’r Glas gyda’r sefydliad. Roedd yn brofiad rhyfedd ac ychydig bach yn frawychus bod y tu ôl i stondin, yn hytrach na chrwydro’r stondinau fel myfyriwr, fel yr oeddwn wedi gwneud yn y gorffennol, ond llwyddais i ymroi i’r gwaith yn fuan iawn. Roedd y myfyrwyr yn gyfeillgar iawn ac roedd gan lawer ohonynt gwestiynau diddorol iawn i’w gofyn, ond gan mai fi oedd un o’r bobl a oedd wedi lanlwytho’r data i’r wefan roeddwn i’n teimlo fy mod yn gwybod y rhan fwyaf o’r atebion. Roeddwn i wedi mwynhau’r digwyddiadau a’r sgyrsiau â phobl yn fawr iawn. Roedd yn ffordd wych o gwrdd â phobl sy’n defnyddio ein gwefan a’n ap, ac o feithrin diddordeb yn yr hyn yr ydym yn ei wneud y tu ôl i’r llenni.”

Ein Cynorthwy-ydd Ansawdd Gwasanaeth, Adam Keenor, yn siarad â myfyrwyr ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe

Wrth i’r wythnos fynd rhagddi yng nghampws Trefforest Prifysgol De Cymru daeth tîm o Stagecoach i ymuno â ni, ac roedd hynny wedi helpu i greu profiad gwych oherwydd roedd aelodau tîm Stagecoach wedi gallu ateb y cwestiynau a oedd gan fyfyrwyr am wasanaethau penodol yn fwy manwl. Un o uchafbwyntiau’r wythnos i ni oedd Prifysgol Bangor; roedd y myfyrwyr yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig iawn ac roedd yn braf clywed bod mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu’n cerdded i fynd o le i le, felly mae ein gwasanaethau ni o fudd mawr iddynt.

Yn ogystal, llwyddwyd i ragori ar ein disgwyliadau ym Mhrifysgol Abertawe, lle’r oedd y myfyrwyr wedi mynd â’n holl fagiau nwyddau erbyn canol dydd! Roeddem wedi ein lleoli mewn man ardderchog yn y ddau ddigwyddiad yma, ac roedd y myfyrwyr yn awyddus i aros i siarad â ni.

Meddai ein Swyddog Marchnata Digidol, Rachel Pewsey: “Mae wedi bod yn wych siarad ag ystod eang o fyfyrwyr hen a newydd, a sgwrsio am eu hymholiadau ynghylch teithio. Roedd yr holl fyfyrwyr yn awyddus i sgwrsio a mynd â gwybodaeth gyda nhw, sy’n gwneud y ffeiriau’n brofiad gwerth chweil!”

Gallwch gael cip ar luniau o Ffeiriau’r Glas ar ein tudalen Facebook. Mae Wythnos y Glas bob amser yn uchafbwynt i ni, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â rhagor o fyfyrwyr y flwyddyn nesaf!

Pob blog Rhannwch y neges hon