Blog

Merry Christmas from Traveline Cymru

Nadolig llawen gan Traveline Cymru. Crynodeb o 2014.

19 Rhagfyr 2014

Ar drothwy’r Nadolig, hoffem ddymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi i gyd! Cafwyd llawer o ddatblygiadau cyffrous ers y Nadolig diwethaf, ac rydym am rannu rhai o uchafbwyntiau 2014 â chi.

Ddiwedd y llynedd gwnaethom ymgymryd ag un o’n prosiectau mwyaf hyd yn hyn, sef cyflwyno gwybodaeth am brisiau tocynnau i’n cynlluniwr teithiau. Roedd y broses wedi golygu llawer iawn o waith gan ein tîm a llawer o gymorth gan weithredwyr, gyda’r bwriad o ddarparu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl i’r cyhoedd sy’n dymuno cynllunio eu taith gyda ni. Eleni, mae ein gwaith caled wedi dwyn ffrwyth ac rydym yn falch iawn o fod wedi ennill gwobr y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwella Profiadau Cwsmeriaid ym mis Mai, am gyflwyno ein gwasanaeth gwybodaeth am brisiau tocynnau. Ar ôl hynny, buom yn ddigon ffodus i ennill gwobr ‘Arfer Gorau ym maes Trafnidiaeth i Deithwyr’ yng Ngwobrau Blynyddol y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth yn Llundain ym mis Hydref.

Rydym yn falch iawn bod ein prosiect gwybodaeth am brisiau tocynnau wedi cael ei gydnabod yn y modd hwn, ac mae’n atgyfnerthu’r angen i ni ddarparu gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw gan gwsmeriaid ac yn ei fodloni.

Buom yn dathlu ym mis Mehefin hefyd wrth i ni nodi 12 mis o weithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Mae pawb wedi setlo yn y swyddfa fwy o faint, ac rydym wedi bod yn ddigon ffodus i groesawu staff newydd i’r swyddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae swyddfa ein canolfan gyswllt ym Mhenrhyndeudraeth hefyd wedi’i hadnewyddu, ac mae’r staff wedi cael gwisg newydd sbon i gyd-fynd â hynny. Mae aelodau’r tîm yn mwynhau eu swyddfa ar ei newydd wedd, ac mae’r ddelwedd newydd yn helpu i amlygu brand y ganolfan gyswllt.

Buom yn ymweld â sawl digwyddiad mawr ar hyd a lled Cymru yn ystod haf 2014, gan gynnwys y Sioe Frenhinol a Sioe Sir Benfro. Mae’r digwyddiadau hyn bob amser yn llwyddiant mawr i ni oherwydd rydym yn cael cyfle i ymgysylltu â llawer o bobl wahanol, sgwrsio â nhw am ein gwasanaethau a’u helpu gyda’u hymholiadau ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus. Cawsom amser gwych, a gallwch weld rhai lluniau o’n digwyddiadau dros yr haf ar ein tudalen Facebook yma!

Wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, aeth hi’n fwyfwy prysur wrth i ni baratoi ar gyfer Uwchgynhadledd NATO ym mis Medi, a gynhaliwyd yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Gan fod disgwyl llawer o oedi a phroblemau teithio ar y ffyrdd, roedd yn gyfnod prysur i ni wrth weithio gyda gweithredwyr, cynghorau lleol a’r heddlu i baratoi ar gyfer unrhyw broblemau teithio. Fodd bynnag, roedd fel pe bai pawb wedi gwrando ar y rhybuddion ac wedi osgoi’r ffyrdd ar y diwrnod, ac roedd y strydoedd yn anarferol o wag yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Roeddem yn falch i ni lwyddo i osgoi unrhyw broblemau teithio, ac yn yr achos roedd yn ymddangos bod paratoi digon o flaen llaw wedi bod o fudd i’r cyhoedd a oedd yn teithio. Mae ein gwasanaethau ni’n gallu cael effaith wirioneddol adeg cynnal digwyddiadau mawr megis Uwchgynhadledd NATO, a gall gweithio gyda chyrff eraill sy’n darparu gwybodaeth fod yn werthfawr iawn i gwsmeriaid.

Yna ym mis Medi cynhaliwyd llu o Ffeiriau’r Glas, ac aeth ein tîm marchnata i bob cwr o Gymru i annog myfyrwyr newydd a myfyrwyr presennol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac i gynnig cyngor ynghylch sut y gallwn eu helpu i gynllunio eu taith. Mae ffeiriau’r glas bob amser yn uchafbwynt mawr i ni, ac nid oedd eleni’n eithriad – roedd y myfyrwyr naill ai eisoes yn defnyddio ein gwasanaethau neu roeddent yn awyddus i ddechrau arni drwy lawrlwytho’r ap. O droi at ein blog gallwch ddarllen rhagor am ein taith o gwmpas Ffeiriau’r Glas yn 2014 a gweld beth buom yn ei wneud!

Cawsom ymateb ardderchog yn ystod Wythnos y Glas – roedd llu o fyfyrwyr yn mynd o gwmpas y stondinau ac roeddent yn awyddus i siarad â ni a chael gwybodaeth. Gwelsom gynifer o fyfyrwyr brwd, nes i ni ddosbarthu 4,000 o fagiau’n llawn nwyddau a gwybodaeth yn ystod yr wythnos!

Wrth i fyfyrwyr ddechrau yn y Brifysgol roedd yn gyfle da i ni hyrwyddo ein cystadleuaeth i fyfyrwyr, #UniTravelTips. Drwy gydol digwyddiadau’r Glas buom yn annog myfyrwyr i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu eu cynghorion gorau ynghylch teithio er mwyn cael y cyfle i ennill gwobrau wythnosol, ac enillodd un fyfyrwraig lwcus Kindle Fire HD newydd sbon am ei chyngor arbennig! Roedd yn gyfle i fyfyrwyr rannu’r wybodaeth sydd ganddynt eisoes a’u cynghorion ar gyfer yr ardal, gan helpu myfyrwyr newydd i ymgyfarwyddo â’u dinas newydd ac annog myfyrwyr presennol i roi cynnig ar ddulliau newydd o deithio ar yr un pryd.

Rydym hefyd wedi cael cyfle eleni i barhau i weithio gyda nifer o fusnesau gwahanol, yn darparu sesiynau hyfforddiant ynghylch teithio. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle arbennig i ni helpu cwmnïau i weld sut y gall ein gwasanaethau fod o fudd iddynt, ac mae hefyd yn gyfle i ni drafod y problemau y maent yn eu hwynebu yng nghyswllt trafnidiaeth gyhoeddus yn y gweithle.

Unwaith yr oedd tymor y digwyddiadau wedi dod i ben ac wrth i’r flwyddyn dynnu at ei therfyn, bu i ni ffarwelio â’n Cadeirydd Alan Kreppel ym mis Tachwedd, a oedd yn ymddeol ar ôl blynyddoedd o wasanaeth. Rydym yn dymuno’n dda iddo ac yn diolch iddo am flynyddoedd o ymroddiad a chefnogaeth. Yna bu i ni roi croeso cynnes i’n Cadeirydd newydd, Richard Workman, a fydd yn darparu arweiniad a chyfeiriad i’r bwrdd cyfarwyddwyr yn rhan o’i rôl newydd.

Mae’r gaeaf wedi dod ac mae’r gwyntoedd oer a’r glaw yn arwydd o’r cyfnod pan fydd y cyhoedd sy’n teithio yn cadw llygad allan am wybodaeth sy’n newid dros gyfnod yr ŵyl. Mae ein tudalen Teithio dros y Nadolig yn dal yn fyw ar ein gwefan, lle’r ydym wedi rhannu gwybodaeth ynghylch pa wasanaethau sy’n rhedeg pryd dros gyfnod y Nadolig. Gallwch hefyd ddod o hyd i oriau agor ein canolfan gyswllt dros y Nadolig yma, felly cofiwch wirio’r dudalen cyn ffonio’r ganolfan gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch cynllunio eich taith.

Gan edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, cadwch lygad allan am ein gwefan newydd a’n ap ar ei newydd wedd; nod yr ailgynllunio yw helpu i wneud eich profiad o gynllunio taith gyda ni yn brofiad mwy hwylus eto, ac rydym yn gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn helpu i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid yn well byth.

Felly wrth i ni gyrraedd diwedd blwyddyn arall hoffem ddymuno Nadolig llawen iawn i chi, ac edrychwn ymlaen at ddechrau ar brosiectau newydd gyda chi i gyd yn ystod 2015.

Pob blog Rhannwch y neges hon