Blog

Happy New Year 2015 bus commute

Blwyddyn Newydd Dda 2015!

19 Ionawr 2015

Gan fod 2015 wedi hen ddechrau bellach, hoffem ddymuno Blwyddyn Newydd hapus ac iach i bob un ohonoch! Rydym yn gobeithio eich bod wedi cael Nadolig wrth eich bodd a’ch bod wedi dod yn ôl i drefn erbyn hyn.

I’r rhan fwyaf ohonom, mae hynny’n golygu teithio’n ôl ac ymlaen i’r swyddfa neu’r man lle’r ydym yn gweithio, ac efallai eich bod wedi dychwelyd i’r gwaith gyda rhestr barod o addunedau.

Mae newid ein harferion yn gallu bod yn frwydr weithiau, yn enwedig pan ddaw hi’n fater o newid ein dulliau teithio. Fodd bynnag, gall gwybod pa opsiynau sydd ar gael ein helpu i wneud hynny ac, yn y pen draw, ehangu’r modd yr ydym yn meddwl am deithio. Gall defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o’n taith i’r gwaith o ddydd i ddydd esgor ar rai manteision gwych – gall leihau ein hôl troed carbon a gall fod yn fwy cost-effeithiol; gall hefyd olygu taith sy’n achosi llai o straen oherwydd nad oes yn rhaid i chi ganolbwyntio ar yrru drwy’r traffig wrth fynd i’r gwaith yn y bore.

Tybed a allech chi rannu eich taith i’r gwaith â’ch cymdogion neu’ch cydweithwyr? Mae bob amser yn haws cyflawni addunedau’n rhan o grŵp yn hytrach nag ar eich pen eich hun, a gallai cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus yn araf bach i’ch trefn ddyddiol arferol wneud gwahaniaeth mawr i’r modd yr ydym yn meddwl am deithio yn y tymor hir.

Felly, beth gallwch chi ei wneud i ddechrau arni?

Mae digon o opsiynau ar gael pe baech yn penderfynu dechrau newid eich dulliau teithio, boed drwy ddal y bws neu’r trên i fynd i’r gwaith neu drwy ddefnyddio gwasanaethau Parcio a Theithio pan fyddwch yn mynd i siopa yn y dref dros y penwythnos. Mae ein Cynlluniwr Taith yma i’ch helpu i ddod o hyd i’r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer eich taith, ac i ddarparu’r holl wybodaeth angenrheidiol mewn un man, gan gynnwys gwybodaeth am brisiau tocynnau os yw hynny’n bosibl. Gallwch hefyd fynd i’n tudalen Chwilio am Amserlen i chwilio am wasanaethau bysiau sy’n rhedeg yn eich ardal chi. Neu, os hoffech ddefnyddio cyfleuster mwy gweledol, gallwch fwrw golwg ar fap ein Byrddau Ymadawiadau byw. Yma, gallwch chwilio am eich lleoliad neu god eich arhosfan er mwyn gweld yr arosfannau bysiau sydd yn eich ardal drwy’r map; gallwch hefyd weld amserlenni’r gwasanaethau sy’n aros wrth yr arosfannau yr ydych wedi’u dewis.

Rydym bob amser wrth law i ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych ynghylch cynllunio taith. Mae ein holl wasanaethau ar gael i’w defnyddio, ond gallwch hefyd ein ffonio ar 0871 200 22 33* er mwyn siarad ag un o asiantiaid cyfeillgar ein Canolfan Gyswllt, a fydd yn barod i’ch helpu gyda’ch cwestiynau.

Rhowch wybod os ydych wedi dechrau ar eich addunedau’n barod!

 

*Mae galwadau’n costio 10c y funud yn ogystal ag unrhyw ffïoedd y mae darparwr eich rhwydwaith yn eu codi.

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.

Pob blog Rhannwch y neges hon