Blog

Easter Travel Tips and Information from Traveline Cymru

Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus dros y Pasg!

01 Ebrill 2015

Er y byddwn yn troi’r clociau ymlaen awr y penwythnos hwn a bod y nosweithiau’n dechrau goleuo, mae’r Pasg fel pe bai wedi cyrraedd yn sydyn eleni. Mae hi braidd yn oer y tu allan o hyd, felly ni fyddem yn gweld bai arnoch am gynllunio teithiau i ffwrdd dros benwythnos hir y Pasg er mwyn manteisio ar yr heulwen!

Serch hynny, mae cyfnod y Pasg yn gallu golygu rhai newidiadau i lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, os ydych yn ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros benwythnos y Pasg, rydym yma i’ch helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich taith. Rydym, felly, wedi dod ynghyd ac wedi crynhoi ein prif gynghorion i’ch helpu (isod) er mwyn hwyluso eich teithiau.

1. Cymerwch gip ar ein tudalen am deithio dros y Pasg

Efallai y bydd rhai gwasanaethau’n defnyddio amserlenni gwahanol ar rai diwrnodau, felly cofiwch edrych ar ein tudalen am deithio dros y Pasg i gael yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen am y trefniadau ar gyfer gwasanaethau yn eich ardal chi.
 

2. Ffoniwch ni ar 0871 200 22 33

Os nad ydych yn siŵr ynghylch unrhyw newidiadau, gallwch ein ffonio ar 0871 200 22 33 a bydd tîm cyfeillgar ein Canolfan Gyswllt wrth law i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am eich taith.

Rydym yn deall bod siarad â rhywun yn bersonol yn gallu tawelu eich meddwl. Felly, os ydych yn cynllunio eich taith neu os ydych allan yn y dref ac yn chwilio am y bws nesaf adref, gwnewch yn siŵr bod ein rhif wedi’i gadw yn eich ffôn, rhag ofn. (Bydd galwadau’n costio 10c y funud ynghyd ag unrhyw dâl a godir gan eich darparwr rhwydwaith.)

Fel arall, gallwch hefyd fynd i’n tudalen Dolenni defnyddiol i gael gwybodaeth am weithredwyr a allai eich helpu ymhellach.
 

3. Dilynwch ni ar Twitter, @TravelineCymru

Rydym yn mwynhau defnyddio cyfryngau cymdeithasol wrth grwydro o le i le! Os oes angen gwybodaeth arnoch yn sydyn wrth deithio dros y penwythnos, gallwch ein dilyn ar Twitter, @TravelineCymru, lle byddwn yn aildrydar y wybodaeth ddiweddaraf dros y Pasg wrth i bethau godi. Mae croeso i chi ddefnyddio Twitter i anfon unrhyw gwestiynau atom ac fe wnawn ni ein gorau glas i helpu. Beth am drydar llun o’ch dathliadau Pasg atom ar yr un pryd?
 

4. Cynlluniwch eich teithiau dros y Pasg!

Ble bynnag yr ydych yn bwriadu mynd yn ystod gwyliau’r Pasg eleni, gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ffordd wych o fynd o le i le. Gan fod llawer ohonom yn ystyried manteisio i’r eithaf ar y penwythnos hir, gallai defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus arbed yr ymdrech o orfod teithio drwy lawer o draffig a cheisio dod o hyd i le parcio. Gallwch eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau’r daith!

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, gall ein Cynlluniwr taith eich helpu i ddod o hyd i’r llwybrau gorau o ran trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eich taith, a rhoi amserlenni bysiau, mapiau, gwybodaeth am brisiau tocynnau a mwy i chi. Gwyliwch ein canllaw ar ffurf fideo isod i gael cyfarwyddyd cam wrth gam ynghylch sut i ddefnyddio’r cynlluniwr taith, os nad ydych yn siŵr ynghylch unrhyw un o’i nodweddion.

Mwynhewch y Pasg a theithiwch yn ddiogel, ble bynnag y byddwch yn mynd!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.

Pob blog Rhannwch y neges hon