Blog

Traveline Cymru new website and mobile app

Croeso i’n gwefan newydd!

22 Ebrill 2015

Ar ôl misoedd o ddylunio, datblygu a gwaith caled, rydym yn gyffro i gyd ac yn falch o lansio ein gwefan newydd sbon! Ar ôl gwrando ar adborth gan ein cwsmeriaid, roeddem am sicrhau bod ein gwasanaethau cynllunio teithiau mor hawdd ac mor syml ag sy’n bosibl i’w defnyddio. Mae gan y wefan rai nodweddion newydd a rhai nodweddion sydd wedi’u gwella, a bydd yn eich galluogi i gynllunio taith i unrhyw le yn y DU.

I’ch helpu i ddechrau arni, rydym wedi llunio canllaw cam wrth gam isod er mwyn dangos i chi sut mae defnyddio ein gwasanaethau a’i gwneud yn hawdd i chi ddefnyddio’r wefan:

Y wefan

C. Sut mae cynllunio taith?
A. Ewch i’n Cynlluniwr Taith sydd yn yr hafan. Nodwch fan cychwyn eich taith, pen y daith a’r dyddiad a’r amser yr ydych amdeithio. Gallwch hefyd ddewis a fyddech yn hoffi teithio ar y bws, ar y trên neu’n syth i’r lleoliad, yn ogystal â nodi eichcyflymder cerdded arferol a faint o weithiau y byddech yn fodlon newid. Yna, wrth glicio ar ‘Cynllunio fy nhaith’, fe welwchchi fanylion y llwybrau sydd ar gael ar gyfer y daith yr ydych wedi’i dewis. Cliciwch ar yr amser yr ydych yn ei ffafrio, a byddmanylion llawn y daith yn ymddangos gan gynnwys mapiau o’r daith, amserlenni, gwybodaeth am brisiau tocynnau agwybodaeth am unrhyw broblemau teithio.

Fel arall, gallwch gynllunio eich taith drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 0871 200 22 33 rhwng 07:00 a 20:00 bob dydd; bydd yr asiantiaid yno wrth law i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch teithiau. Gwasanaeth cyfyngedig sydd ar gael ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan. Mae galwadau’n costio 10c y funud yn ogystal â ffi gysylltu, sef 6c, o linell ffôn BT. Gallai cost galwadau o rwydweithiau eraill fod yn uwch, a gallai cost galwadau o ffonau symudol fod yn uwch o lawer.

C. Sut mae dod o hyd i amserlenni?
A. Ewch i’n tudalen Amserlenni lle gallwch chwilio am amserlenni’n ôl rhif y gwasanaeth neu’n ôl eich lleoliad. Panfyddwch wedi llenwi’r meysydd chwilio ac wedi clicio ar ‘Chwilio’, bydd rhestr o amserlenni sy’n cyfateb i’ch meini prawf ynymddangos. Cliciwch ar amserlen i gadarnhau eich dewis, ac yna bydd modd i chi weld yr amserlen lawn yn ogystal â map o’r llwybr. At hynny, ar waelod y dudalen, gallwch ddewis lawrlwytho’r amserlen PDF draddodiadol os oes yn wellgennych wneud hynny.

C. Sut mae defnyddio’r Chwiliwr Arosfannau Bysiau?
A. Nodwch eich lleoliad neu god yr arhosfan bysiau (os ydych yn ei wybod) yn y blwch chwilio, a bydd y map rhyngweithiol yn dangos yr arosfannau bysiau sydd yn yr ardal honno. Cliciwch ar eicon oren i ddewis arhosfan bysiau, a bydd manylion yr arhosfan yn ymddangos yn ogystal ag amseroedd y bysiau nesaf a ddylai gyrraedd yno. Caiff rhifau gwasanaeth y bysiau eu harddangos yma, a gallwch glicio arnynt i agor amserlen y gwasanaeth dan sylw.

C. Sut mae cofrestru i agor cyfrif, a beth mae’n ei wneud?
A. Yn y gornel dde ar frig ein gwefan, cliciwch ar y botwm ‘Mewngofnodi’. Yna, gallwch lenwi’r ffurflen gofrestru er mwyn agor cyfrif. Bydd cael cyfrif yn eich galluogi i gadw eich hoff arosfannau, teithiau ac amserlenni, sy’n golygu y bydd modd i chi gael gafael arnynt yn hawdd ac yn syth o’ch cyfrif. Yn ogystal, byddwch yn gallu gweld y problemau teithio sy’n berthnasol i’r gwasanaethau yr ydych wedi’u dewis fel ffefrynnau.

C. Sut mae cadw fy hoff deithiau, amserlenni ac arosfannau bysiau?
A: Pan fyddwch wedi dod o hyd i daith, amserlen neu arhosfan bysiau drwy’r wefan, bydd opsiwn ‘Ychwanegu at fy ffefrynnau’ i’w weld ar y dudalen. Drwy glicio ar y botwm hwn bydd y daith, yr amserlen neu’r arhosfan bysiau’n ymddangos yn eich cyfrif.

C. Sut mae chwilio am broblemau teithio?
A. Ewch i’n tudalen ar gyfer problemau teithio, a bydd yr holl broblemau teithio a ddisgwylir ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, yr ydym yn ymwybodol ohonynt, wedi’u rhestru yno. Yn ogystal, gallwch ddewis chwilio am broblemau teithio yn ôl rhif y gwasanaeth a’r gweithredwr, a hidlo’r canlyniadau er mwyn gweld y rhai sy’n berthnasol i chi.

C. Beth yw ‘Problemau teithio sy’n berthnasol i mi’?
A. Pan fyddwch wedi cadw hoff daith, amserlen neu arhosfan bysiau yn eich cyfrif, bydd yr adran ‘Problemau teithio sy’n berthnasol i mi’ yn dangos y problemau teithio sy'n gysylltiedig â’ch ffefrynnau’n unig.

C. Ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth am brisiau tocynnau?
A. Gellir gweld gwybodaeth am brisiau tocynnau drwy ganlyniadau ein Cynlluniwr Taith. Pan fydd manylion y daith wedi’urhestru, ceir opsiwnGweld prisiau tocynnau’. Cliciwch ar y botwm hwn, a bydd rhestr o’r tocynnau sydd ar gael a’uprisiau yn ymddangos. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Prisiau tocynnau. Fel arall, gallwch gysylltu â’nCanolfan Gyswllt ar 0871 200 22 33.

 

Ap newydd ar gyfer iPhone a dyfeisiau Android

Mae’r fersiwn ddiweddaraf o ap Traveline Cymru ar gyfer dyfeisiau symudol bellach yn cynnwys fersiwn well o’r cynlluniwr taith, a byddwch hefyd yn gallu dewis chwilio am amserlenni. Wrth ddefnyddio’r ap, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau a gweld a oes unrhyw broblemau teithio’n berthnasol i’r gwasanaethau yr ydych wedi’u cadw.

Mae’r ap ar gael ar hyn o bryd ar iPhone a dyfeisiau Android. Dylech sicrhau eich bod yn diweddaru eich fersiwn chi o’r ap os ydych wedi’i lawrlwytho eisoes!

I lawrlwytho’r ap ar gyfer iPhone, ewch i iTunes App Store.
I lawrlwytho’r ap ar gyfer dyfeisiau Android, ewch i Google Play.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r nodweddion newydd ac y byddwch yn gallu dod o hyd i’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch!

Byddem yn gwerthfawrogi cael eich barn am y nodweddion newydd a’r nodweddion sydd wedi’u diweddaru. Os oes gennych unrhyw adborth yr hoffech ei roi, cysylltwch â ni drwy lenwi ein ffurflen adborth yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

 

*Bydd galwadau’n costio 10c y funud yn ogystal ag unrhyw ffïoedd a godir gan eich darparwr rhwydwaith.

Pob blog Rhannwch y neges hon