Blog

Catch the Bus Week 2015

Wythnos Dal y Bws 2015

29 Mehefin 2015

Mae Wythnos Dal y Bws yn cael llawer o sylw unwaith eto’r wythnos hon! Nod yr ymgyrch cenedlaethol, a gaiff ei gynnal gan Greener Journeys ledled y DU, yw annog pobl nad ydynt fel rheol yn defnyddio’r bws i fynd allan a rhoi cynnig arni! Mae Wythnos Dal y Bws yn cael ei chynnal am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac mae’n gyfle gwych i deithwyr gymryd rhan yn yr ymgyrch a rhoi cynnig ar ddefnyddio eu gwasanaethau bws lleol er mwyn gweld pa rai a allai hwyluso bywyd iddynt.

Yn rhan o’r ymgyrch, rydym wedi lansio ein cystadleuaeth Hunlun ar Fws! I gael cyfle i ennill, tynnwch hunlun ohonoch yn dal y bws ac anfonwch ef atom ar Twitter ar @TravelineCymru gan ddefnyddio’r hashnod #WDYB2015. Byddwn yn rhoi gwerth £100 o dalebau i’w gwario yn siopau’r stryd fawr i bwy bynnag sy’n anfon yr hunlun gorau, felly ewch ati i fod yn greadigol a dangoswch eich lluniau gorau i ni!

Yn ôl ein Rheolwr Marchnata, Jo Foxall: “Mae Wythnos Dal y Bws yn fenter wych i hybu dulliau cynaliadwy o deithio, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn rhoi cynnig arni ac yn cymryd rhan yn ein cystadleuaeth. Dydyn ni ddim yn gofyn i bobl roi’r gorau i ddefnyddio eu ceir yn gyfan gwbl, ond rydym yn eu herio i weld a allant adael eu car gartref yn ystod yr wythnos.”

Bydd pobl sy’n defnyddio bysiau’n rheolaidd eisoes yn gwybod bod teithio ar fysiau’n gallu cynnig llawer o fanteision, sy’n amrywio o leihau eich ôl troed carbon i arbed arian, a llawer mwy. Rydym yma’r wythnos hon i helpu i’ch annog i newid eich arferion teithio a rhoi cynnig ar fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth.

Meddai Claire Haigh, Prif Weithredwr Greener Journeys: “Mae’r wythnos hon yn gyfle hollbwysig i dynnu sylw at yr holl ffyrdd y mae bysiau o fudd i Brydain, o’r modd y maent yn helpu pobl i gynnwys gweithgarwch corfforol hanfodol yn eu bywydau prysur i’r modd y maent yn helpu i leihau tagfeydd sy’n niweidio economïau lleol.”

Felly, pam y dylech chi ddal y bws?

 

  • Gall arbed arian i chi. Mae nifer o docynnau teithio ar gael i bobl sy’n teithio ar fysiau’n rheolaidd, a gallech weld yn y pen draw eich bod yn gwario llai ar docynnau bws nag y byddech wedi’i wneud ar betrol.

 

  • Mae’n helpu’r amgylchedd. Wyddech chi..? Mae 13% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU yn deillio o’r defnydd a wneir o geir!* Drwy wneud rhywbeth mor syml â mynd ar y bws o dro i dro, gallwch helpu i wneud gwahaniaeth mawr nid yn unig i’r amgylchedd ond hefyd i’ch iechyd.

 

  • Gallwch wella eich iechyd a’ch ffitrwydd corfforol wrth i chi gerdded rhwng yr arosfannau bysiau a’r mannau yr ydych am fynd iddynt. Wyddech chi..? Drwy ddal bws, rydych yn gyffredinol yn anadlu traean yn llai o lygredd na phobl sy’n defnyddio ceir.* Dyna reswm arall dros neidio ar y bws a theimlo’n fwy iach a heini!

  • Gall olygu taith sy’n achosi llai o straen i chi. Mae ymchwil yn dangos bod teithio ar fws yn achosi traean yn llai o straen na theithio mewn car. Nid oes angen i chi boeni am yrru drwy lawer o draffig; eisteddwch yn ôl gyda’ch hoff lyfr neu’ch hoff gerddoriaeth a mwynhewch ychydig o amser hamdden!

 

 


Fodd bynnag, p’un a ydych yn rhywun sy’n defnyddio bysiau’n rheolaidd neu’n rhywun sydd newydd ddechrau eu defnyddio, rydym yn deall y gall newid eich arferion teithio fod yn gam mawr. Drwy wneud newidiadau bach yn raddol, gallwch ddod o hyd i’r opsiynau gorau ar gyfer eich trefn ddyddiol chi. Mae Wythnos Dal y Bws yn gyfle gwych i roi cynnig arni a defnyddio llwybr bysiau ar gyfer un o’ch teithiau.

Beth am adael y car gartref un diwrnod yr wythnos hon a theithio i’r gwaith ar y bws? Os nad yw defnyddio’r bws i fynd i’ch gwaith yn bosibl, beth am ddal y bws i fynd i’r dref neu’ch siopau lleol (a thynnwch hunlun ar gyfer cystadleuaeth Traveline ar yr un pryd!)? Trwy deithio unwaith yn unig ar y bws yr wythnos hon, efallai y dewch chi o hyd i lwybr newydd nad oeddech wedi’i ystyried o’r blaen. Gyda chynifer o bobl ledled y wlad yn cymryd rhan, gallai’r Wythnos olygu bod pobl yn newid eu harferion teithio er gwell yn y tymor hir.

Gallwch gymryd rhan yn Wythnos Dal y Bws mewn sawl ffordd, ac mae nifer o sefydliadau’n cymryd rhan er mwyn ein helpu i wneud yn fawr o’n gwasanaethau bws lleol. Ewch i wefan Wythnos Dal y Bws i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, a chofiwch chwilio am weithgareddau a chystadlaethau y gallwch gymryd rhan ynddynt!

Os ydych am gael y manylion diweddaraf am ddigwyddiadau’r wythnos, dilynwch yr hashnod #WDYB2015 neu #CTBW2015 ac ymunwch yn y sgwrs – ni fu dal y bws erioed yn gymaint o hwyl, a byddem yn hoffi gweld sut hwyl rydych chi’n ei chael arni.

Ydych chi’n barod i ddechrau? Ewch i’n cynlluniwr taith ar frig y dudalen a nodwch fanylion eich taith er mwyn gweld rhestr o’r llwybrau bysiau sydd ar gael!

Rhowch wybod i ni a yw Wythnos Dal y Bws wedi eich ysbrydoli i ddefnyddio eich gwasanaethau lleol! Cofiwch drydar eich hunluniau ar fysiau i @TravelineCymru gan gynnwys yr hashnod #WDYB2015. Pob lwc!

Ffeithiau a gafwyd gan Greener Journeys, y grŵp trafnidiaeth gynaliadwy sy’n cynnal Wythnos Dal y Bws. Mae Greener Journeys yn gweithio gyda gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol a busnesau i’w gwneud yn haws ac yn fwy hwylus i bobl newid i ddefnyddio bysiau yn hytrach na’u ceir. I gael rhagor o wybodaeth am waith y grŵp, ewch i’w wefan.



Pob blog Rhannwch y neges hon