Blog

Freshers' Week 2015

Yn frwdfrydig ac yn barod ar gyfer y brifysgol – ein hantur yn ystod Wythnos y Glas 2015!

21 Hydref 2015

Wrth i ni orfod ffarwelio â nosweithiau braf yr haf, mae’n gyfle hefyd i fwrw golwg yn ôl ar rai o’r uchafbwyntiau! Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi dechrau ar eu hantur yn y brifysgol neu wedi dychwelyd yno ar ôl seibiant haeddiannol dros yr haf. Unwaith yn rhagor, buodd ein tîm Marchnata yn teithio o gwmpas Ffeiriau’r Glas ledled y wlad drwy gydol mis Medi, yn cwrdd â’r holl fyfyrwyr newydd a oedd ar fin dechrau ar eu cyrsiau newydd.

Mae dechrau’r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr, ond gall hefyd fod yn brofiad hynod o anodd, yn enwedig i’r sawl sydd wedi symud i dref neu ddinas newydd. Mae helpu myfyrwyr newydd i ddarganfod pa opsiynau sydd ar gael iddynt o ran trafnidiaeth, a sut y gallant fynd o le i le yn ystod y cyfnod prysur hwn, bob amser yn brofiad sy’n rhoi boddhad ac nid oedd eleni’n wahanol. Aeth pethau’n well na’r disgwyl eleni eto wrth i ni ddosbarthu 4,000 o fagiau’n llawn nwyddau rhad ac am ddim a thaflenni i fyfyrwyr yn ystod yr wythnos.

Dechreuodd ein taith yn ystod Wythnos y Glas ym Mhrifysgol Caerdydd lle cawsom gwmni tîm Stagecoach Bus. Ni allai dechrau’r wythnos fod wedi mynd yn well, oherwydd roedd nifer fawr o fyfyrwyr yn awyddus i gael gwybodaeth a bagiau nwyddau gennym ni’n ogystal â llyfrynnau amserlenni defnyddiol gan Stagecoach.

Wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, aethom ninnau yn ein blaen i Brifysgol Abertawe lle cawsom gwmni tîm gwych First Cymru, Cydlynydd Cynlluniau Teithio Prifysgol Abertawe, Jayne Cornelius, a’r Cydlynydd Cynlluniau Teithio Rhanbarthol, Kay Mathias. Rydym bob amser yn mwynhau yn Ffair y Glas Abertawe gan fod llu o fyfyrwyr yn ymweld â hi dros y ddau ddiwrnod a bod pawb yn awyddus i sgwrsio â ni am y gwasanaethau trafnidiaeth sydd ar gael yn eu hardal.

Un arall o uchafbwyntiau ein taith o gwmpas Ffeiriau’r Glas oedd ein hymweliad â Phrifysgol Bangor lle’r oedd llawer o fyfyrwyr o gwmpas yn barod i sgwrsio am wasanaethau. Roedd brwdfrydedd y myfyrwyr yn ddi-ball gydol yr wythnos, ac roedd yn wych eu gweld yn awyddus i gael gwybod am ein gwasanaethau.

Meddai ein Swyddog Marchnata Digidol, Rachel Pewsey, “Mae Wythnos y Glas bob amser yn un o uchafbwyntiau’r calendr i ni. Bob blwyddyn, mae’r myfyrwyr yn awyddus i siarad â ni a chael y wybodaeth y mae ei hangen arnynt, ac mae hynny bob amser yn galonogol iawn. Roedd yn brofiad gwych cael gweithio gyda nifer o’n partneriaid yn llawer o’r digwyddiadau; roedd hynny’n golygu ein bod yn gallu cynghori’r myfyrwyr gyda chymorth rhywfaint o wybodaeth leol.”

Gallwch weld rhai o’n lluniau o’r wythnos ar ein tudalen Facebook yma.

Gan fod Wythnos y Glas wedi dod i ben erbyn hyn, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi dod i arfer erbyn hyn â’u bywydau newydd yn y brifysgol. Yn Traveline Cymru, rydym yma i helpu myfyrwyr bob cam o’r ffordd gyda’u hanghenion o ran teithio, ac felly rydym newydd lansio ein gwefan Mynd i Bob Man fel Myfyriwr!

O bori trwy’r wefan, gall myfyrwyr weld pa wasanaethau sydd ar gael iddynt – gallant ddefnyddio’r cynlluniwr taith i gyrraedd y campws neu anfon neges destun atom er mwyn cael gwybod pryd y bydd eu bws olaf adref yn gadael.

Ble bynnag y byddwch am fynd drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol, byddwn yma i’ch helpu ar hyd y ffordd! Cymerwch gip ar y wefan a rhannwch hi â’ch ffrindiau a’ch cydfyfyrwyr gan ddefnyddio’r hashnod #myndibobmanfelmyfyriwr!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.


Pob blog Rhannwch y neges hon