Blog

myunijourney launch

Lansiad swyddogol myndibobmanfelmyfyriwr: y wefan drafnidiaeth i fyfyrwyr

27 Ebrill 2016

Yn y llun uchod: Heidi Smith, Rheolwr Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe; Jayne Cornelius, Cydlynydd Cynllun Teithio Prifysgol Abertawe; Craig Nowell, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Prifysgol Abertawe a Laura Thomas, Swyddog Marchnata Traveline Cymru

Ers mis Hydref y llynedd rydym wedi bod yn gwneud gwaith y tu ôl i’r llenni ar ddatblygiad cyffrous, a gafodd ei lansio yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe ddydd Mercher 13 Ebrill: myndibobmanfelmyfyriwr.

Mae myndibobmanfelmyfyriwr yn adnodd yr ydym wedi’i ddatblygu ar gyfer myfyrwyr ledled Cymru, i’w helpu i gael gwybod am y gwahanol opsiynau sydd ar gael iddynt o ran trafnidiaeth gyhoeddus yn nhref neu ddinas eu Prifysgol. Ein nod yw i bob Prifysgol yng Nghymru gael eu gwefan fach eu hunain, wedi’i theilwra â gwybodaeth benodol am drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal honno. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Phrifysgol Abertawe dros y misoedd diwethaf i ddatblygu gwefan fach myndibobmanfelmyfyriwr, a gafodd ei harddangos gennym yn y lansiad fel enghraifft o’r modd yr ydym yn rhagweld y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn Prifysgolion ar hyd a lled y wlad.

Cynhaliwyd y lansiad yng Nghampws y Bae, sef campws prydferth Prifysgol Abertawe, a chroesawyd amryw o sefydliadau o bob rhan o dde Cymru i’r digwyddiad. Craig Nowell, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Prifysgol Abertawe a Jo Foxall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru fu’n gyfrifol am agor y lansiad gan groesawu’r gwesteion a chyflwyno’r prosiect.

Craig Nowell, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Prifysgol Abertawe

Esboniodd Jo sut yr oedd Traveline Cymru wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr ers sawl blwyddyn, drwy fynychu amrywiaeth o Ffeiriau’r Glas a digwyddiadau ar hyd a lled y wlad. Yr hyn yr oeddem yn ei glywed yn aml gan fyfyrwyr dros y blynyddoedd oedd bod y wybodaeth yn hynod ddefnyddiol, ond y bydden nhw wedi hoffi ei chael cyn iddynt symud i’w tref neu ddinas newydd i ddechrau ar eu bywyd yn y Brifysgol. Felly, nod myndibobmanfelmyfyriwr yw bod ar gael i fyfyrwyr newydd, yn ogystal â myfyrwyr presennol, gan roi iddynt y wybodaeth am drafnidiaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn iddynt deimlo’n ddiogel yn mynd i le i le o’u diwrnod cyntaf yn y Brifysgol.

Jo Foxall, Swyddog Marchnata Traveline Cymru

 Yna bu ein Swyddog Marchnata, Laura Thomas, yn sôn yn fanylach am myndibobmanfelmyfyriwr, gan ddangos sut y mae’r gwasanaeth yn gweithio a’r mathau o wybodaeth y bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad iddynt. Mae Laura wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r asiantaeth ddylunio limegreentangerine a Jayne Cornelius, Cydlynydd Cynllun Teithio Prifysgol Abertawe, i greu gwefannau a rhoi cynnwys arnynt.

Mae gwefan myndibobmanfelmyfyriwr yn llawn gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ac adnoddau i’r myfyrwyr eu defnyddio, ac mae’r wefan ar gyfer Prifysgol Abertawe yn llawn gwybodaeth am yr ardal leol.

Meddai Laura “Rydym am annog myfyrwyr – rhai newydd a rhai sydd wedi bod yn y brifysgol ers peth amser – i wneud yn fawr o’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd yn eu hardal, ac rydym am eu helpu i ddarganfod pa opsiynau sydd ar gael iddynt wrth iddynt ddechrau ymgyfarwyddo â'r ddinas neu’r dref.”

Laura Thomas, Swyddog Marchnata Traveline Cymru

Laura Thomas yn sôn am y prosiect myndibobmanfelmyfyriwr

Yn ogystal, bu Laura yn trafod ein nodau a’n gweledigaeth ar gyfer y prosiect, sy’n cynnwys ei gyflwyno ar draws pob Prifysgol yng Nghymru a datblygu ar y cysylltiadau hyn. Rydym hefyd yn gweld potensial i fyfyrwyr ychwanegu eu cynghorion personol eu hunain i myndibobmanfelmyfyriwr, sef y pethau y maent yn eu darganfod yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol; bydd hyn yn golygu ei fod wir yn wasanaeth gan fyfyrwyr i fyfyrwyr.

Aeth Jayne Cornelius, Cydlynydd Cynllun Teithio Prifysgol Abertawe, ymlaen i drafod y cydweithio cadarnhaol yr ydym wedi’i gael â Phrifysgol Abertawe ar y prosiect hwn.

Meddai Jayne “Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Traveline Cymru ar y fenter myndibobmanfelmyfyriwr. Mae’n hollbwysig i ni bod ein myfyrwyr yn gwybod sut i fynd o le i le pan fyddant yn teithio o gampws i gampws ac o amgylch yr ardal ehangach.

Mae llawer o fyfyrwyr am wybod pa opsiynau sydd ar gael iddynt o ran trafnidiaeth, ac mae gwefan myndibobmanfelmyfyriwr yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol o ddod o hyd i’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt. Roeddem wedi mwynhau croesawu gwesteion i’r digwyddiad lansio yng Nghampws y Bae er mwyn dangos yr adnodd newydd ardderchog hwn iddynt.”

Jayne Cornelius, Cydlynydd Cynllun Teithio Prifysgol Abertawe

Roedd tîm Traveline Cymru hefyd wrth law gyda llechi iPad i ddangos i’r gwesteion sut mae defnyddio’r wefan. Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn o fod wedi lansio myndibobmanfelmyfyriwr a darparu gwasanaeth i fyfyrwyr a fydd yn eu helpu i deithio o gwmpas eu prifysgol, gan wybod bod y wybodaeth y mae ei hangen arnynt ar gael yn hawdd.

Ar ôl siarad â myfyrwyr dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld angen cynyddol i helpu i roi gwybod iddynt am wasanaethau bws lleol ac unrhyw docynnau rhatach sydd ar gael iddynt. Crëwyd myndibobmanfelmyfyriwr â’r weledigaeth y byddai myfyrwyr yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt yn hawdd mewn un man. Mae’r cyfnod yn y Brifysgol yn un cyffrous i lawer o fyfyrwyr, er y gall fod ychydig yn frawychus i’r sawl sy’n symud i le newydd. Rydym yn gobeithio y bydd myndibobmanfelmyfyriwr yn gallu cael gwared â rhywfaint o’r ansicrwydd, drwy helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo â’u hamgylchedd a rhoi’r anogaeth iddynt helpu ei gilydd i wneud yn fawr o’r drafnidiaeth leol sydd ar gael iddynt.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan, sef myndibobmanfelmyfyriwr.traveline.cymru neu gallwch gysylltu â’n Swyddog Marchnata, Laura Thomas, ar laurathomas@traveline.cymru.

Mae Traveline Cymru wrthi’n gweithio gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru mewn ymgais i gyflwyno’r fenter ar draws Cymru.

Jayne Cornelius a Laura Thomas gyda gwefan myndibobmanfelmyfyriwr

Pob blog Rhannwch y neges hon