Blog

Catch the Bus Week 2016

Wythnos Dal y Bws 2016

04 Gorffennaf 2016

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld Wythnos Dal y Bws yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Caiff y fenter ei chynnal gan Greener Journeys, ac mae’n dathlu manteision dal y bws ac yn codi ymwybyddiaeth ohonynt.

Caiff Wythnos Dal y Bws ei chynnal rhwng 4 a 10 Gorffennaf 2016, ac mae’n gyfle arbennig i bob un ohonom ystyried y modd yr ydym yn teithio. Nod gweithgareddau Wythnos Dal y Bws yn y bôn yw ein helpu i newid ein dulliau teithio yn y tymor hwy, a hynny er gwell, drwy dynnu sylw at fanteision dal y bws.

Bydd ein tîm yn Traveline Cymru yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau’r wythnos hon i helpu i ddathlu Wythnos Dal y Bws, gan gynnwys Gŵyl Haf Rhisga ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf a’r digwyddiadau canlynol:

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf
Digwyddiad Bysiau wrth eich Bodd gyda Grŵp New Adventure Travel
10:00 – 14:00 yn Sgwâr y Brenin, Y Barri

Dydd Mercher 6 Gorffennaf
Cymhorthfa i Ddefnyddwyr Bysiau gyda Bws Caerdydd
09:30 – 13:30 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Dewch draw i’n gweld er mwyn cael help a gwybodaeth am gynllunio eich taith ar fws. Gallwn eich helpu i ddysgu sut mae dod o hyd i’r amserlenni bws y mae eu hangen arnoch, gallwn roi cyngor i chi ynghylch defnyddio ein cynlluniwr taith, a llawer mwy! Rydym o’r farn y gall teithio ar y bws helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hamgylchedd ac y gallwn, trwy ddefnyddio’r bws ambell waith, fwynhau manteision hynny.

Mae bron 2.5 miliwn o bobl ledled Prydain yn teithio i’r gwaith ar y bws, felly mae teithio ar fws yn rhan enfawr o fywyd pob dydd llawer o bobl ac yn ffordd gynaliadwy a fforddiadwy o fynd o le i le.


 

Pam y dylwn i ddal y bws?

  • Er mwyn lleihau straen a gwella eich iechyd

Mae pob un ohonom yn gwybod sut deimlad yw bod mewn traffig ar fore prysur ar y ffordd i’r gwaith, neu boeni am ddod o hyd i’r lle parcio delfrydol wrth fynd i’r dref. Drwy ddal y bws gallwch ymlacio a gadael i’r gyrrwr wneud y gwaith caled, a gallwch ddod oddi ar y bws wrth arhosfan o’ch dewis chi.

  • Er mwyn lleihau eich ôl troed carbon

Wyddech chi..? Pe bai pawb bob mis yn troi un daith mewn car yn daith ar fws, byddai hynny’n golygu un biliwn yn llai o deithiau mewn car ar ein ffyrdd ac yn arbed dwy filiwn tunnell o CO2.*Beth am ddefnyddio Wythnos Dal y Bws yr wythnos hon i weld a allwch droi un o’ch teithiau mewn car yn daith ar fws? Efallai y darganfyddwch chi ddull haws o deithio nad oeddech wedi’i ystyried o’r blaen!

  • Er mwyn arbed arian efallai

Mae llawer o weithredwyr ar hyd a lled y wlad yn cynnig tocynnau wythnos neu fis, a fydd yn eich helpu i arbed arian wrth deithio’n rheolaidd ar fws.

Ydych chi dros 60 oed? Gallwch wneud cais i’ch cyngor lleol am gerdyn teithio er mwyn cael teithio’n rhad ac am ddim ar fysiau o gwmpas Cymru!

Drwy gydol yr wythnos gallwch ddisgwyl gweld digon o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal i ddathlu’r fenter, gan gynnwys cystadlaethau, gweithgareddau, cyfleoedd i gael tocynnau am ddim, a llawer mwy. Cymerwch gip ar y wybodaeth isod i weld beth y mae rhai gweithredwyr yng Nghymru yn ei wneud yr wythnos hon a gweld sut y gallwch gymryd rhan!

 

Bws Caerdydd

Bydd Bws Caerdydd yn cynnal calendr o weithgareddau cyffrous drwy gydol yr wythnos i ddathlu Wythnos Dal y Bws.

Dydd Llun 4 Gorffennaf
Bydd cyfleoedd i ennill rhai gwobrau cyffrous ar gyfryngau cymdeithasol, a bydd Bws Caerdydd yn rhannu rhai ffeithiau diddorol am Wythnos Dal y Bws. Dilynwch y cwmni ar @Cardiffbus.

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf
Bydd Bws Caerdydd yn bresennol yng nghymhorthfa Bus Users Cymru yn Sgwâr y Brenin, Y Barri rhwng 10:00 a 14:00. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy glicio yma.

Dydd Mercher 6 Gorffennaf
Bydd Bws Caerdydd yn bresennol yng nghymhorthfa Bus Users Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd rhwng 09:30 a 13:30. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy glicio yma.

Dydd Iau 7 Gorffennaf
Bydd cyfleoedd i ennill rhai gwobrau cyffrous gan Bws Caerdydd ar gyfryngau cymdeithasol.

Dydd Gwener 8 Gorffennaf
Bydd Bws Caerdydd yn Stryd Working yng nghanol dinas Caerdydd, a bydd gan y cwmni nwyddau rhad ac am ddim i’w dosbarthu.

 


First Cymru

Ddydd Gwener 8 Gorffennaf rhwng 9am a 3pm bydd rheolwyr, gyrwyr bysiau a chynrychiolwyr diogelwch o First Cymru wrth law yng Ngorsaf Fysiau’r Cwadrant yn Abertawe i siarad â chwsmeriaid am sut mae dal bws ac aros yn ddiogel tra byddant arno. Mae First Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Age Cymru Bae Abertawe i drefnu’r digwyddiad, a bydd staff y cwmni hefyd yn esbonio sut i ddefnyddio gwefan y cwmni – er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am amserlenni a phroblemau teithio. Bydd cynrychiolwyr o Age Cymru Bae Abertawe yn defnyddio’r digwyddiad i sôn wrth bobl hŷn am sut mae defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel.

Meddai Mike Gibbons, Rheolwr Diogelwch First Cymru a threfnydd gweithgarwch y cwmni ar gyfer Wythnos Dal y Bws: “Rydym yn falch iawn o allu cymryd rhan yn Wythnos Dal y Bws. Bydd gennym dîm o bobl allan ddydd Gwener 8 Gorffennaf yn siarad â’n cwsmeriaid am ein gwasanaethau lleol a sut mae gwneud y defnydd gorau ohonynt. Mae cyfran eithaf helaeth o’r bobl sy’n defnyddio bysiau’n bobl hŷn, felly mae’r cysylltiad ag Age Cymru Bae Abertawe yn un sydd o fudd i’r ddau sefydliad. Bydd Age Cymru Bae Abertawe yn rhoi ambell air o gyngor ynghylch sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd, ac i ategu hynny byddwn ni’n esbonio sut y gall pobl wneud y defnydd gorau o’n gwefan. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn teimlo bod y digwyddiad yn ddefnyddiol.”

Meddai Nicola Russell-Brooks, Prif Weithredwr Age Cymru Bae Abertawe: “Mae llawer o bobl hŷn yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd o le i le yn eu cymunedau. Rydym yn gwybod bod y bysiau yn Abertawe yn bwysig tu hwnt i bobl hŷn yn lleol, ac y gallant fod o help mawr i gyfoethogi eu bywydau. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda First Cymru i sicrhau bod gwasanaethau bws yn Abertawe yn parhau i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn lleol.”

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma neu ewch i wefan First Cymru.


New Adventure Travel

Bydd Grŵp New Adventure Travel yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Dal y Bws er mwyn siarad â chwsmeriaid presennol ac annog defnyddwyr newydd. Bydd modd i deithwyr gwrdd â chynrychiolwyr Grŵp New Adventure Travel mewn nifer o wahanol leoliadau drwy gydol yr wythnos.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan y Grŵp.


Stagecoach

Mae Stagecoach yn Ne Cymru yn cynnal rhaglen o weithgareddau hyrwyddo ar hyd a lled y de er mwyn annog pobl i roi cynnig ar ddefnyddio’r bws. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys y canlynol:

  • Cystadleuaeth luniau ar Twitter; bydd teithwyr sy’n tynnu llun ohonynt eu hunain yn teithio ar un o wasanaethau’r cwmni am wythnos, ac sy’n ei drydar at @StagecoachWales, yn cael cyfle i deithio am ddim am fis.
  • Bydd saith o leoliadau gwahanol y gellir ymweld â nhw ar y bws yn cael eu trydar bob dydd (gan gynnwys llun o’r lleoliad) er mwyn rhoi syniadau i gwsmeriaid ynghylch lleoedd y gallant deithio iddynt.
  • Bydd cynghorion Wythnos Dal y Bws yn cael eu trydar bob dydd. Dilynwch Stagecoach ar Twitter ar @StagecoachWales er mwyn dilyn ei negeseuon trydar drwy gydol yr wythnos!
  • Bydd Stagecoach yn bresennol yn nigwyddiad Cymhorthfa Bws Caerdydd ddydd Mercher 6 Gorffennaf er mwyn hybu’r arfer o ddefnyddio’r bws a thynnu sylw at y ffaith ei fod yn arfer sy’n cynnig gwerth gwych am arian.
  • Diwrnod cwrdd â’r bysiau – bydd bws gwybodaeth newydd Stagecoach yn mynd i’r lleoliadau canlynol, a bydd y cwmni’n dosbarthu nwyddau rhad ac am ddim ac yn cynnig teithiau rhatach ar y dydd.

Bydd Stagecoach hefyd ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Sgwâr y Farchnad, Coed-duon ddydd Llun 4 Gorffennaf
  • Stryd y Felin, Pontypridd ddydd Iau 7 Gorffennaf.

Bu’r ymchwil a gynhaliwyd gan Stagecoach yn gynharach eleni’n ystyried cost oddeutu 35 o lwybrau allweddol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i’r sawl sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith. Bu’n cymharu pris wythnosol defnyddio’r bws â chost tanwydd a pharcio ar gyfer yr un teithiau.

Canfu’r ymchwil y gallai’r sawl sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith arbed oddeutu £1,000 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy ddal y bws yn lle teithio mewn car – er bod prisiau tanwydd yn gostwng. Yn ôl yr astudiaeth, mae teithio ar fws yn costio oddeutu 55% yn llai na theithio mewn car ar gyfer yr un daith, gan arbed dros £90 y mis ar gyfartaledd i deithwyr.

Manteision i’r economi

  • Mae bysiau’n un o’r ffactorau hollbwysig sy’n hybu twf economaidd yn y DU. Mae pob £1 a fuddsoddir mewn seilwaith bysiau’n cynhyrchu hyd at £7 o fantais economaidd.
  • Mae defnyddwyr bysiau’n cynhyrchu gwerth £64 biliwn o fanteision i economi’r DU.
  • Mae tagfeydd yn costio o leiaf £11 miliwn y flwyddyn i economi’r DU.

Manteision i iechyd

  • Mae teithio ar y bws yn dda i’ch iechyd. Mae’n achosi tair gwaith yn llai o straen na theithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith mewn car.
  • Mae mynd ar y bws yn golygu eich bod yn rhydd i wneud rhywbeth arall â’ch dwylo a’ch ymennydd. Mae’n gyfle i chi wneud tasgau gweinyddol, darllen llyfr neu chwarae gemau ar eich ffôn symudol, wrth i chi deithio.
  • Ar gyfartaledd, gall cerdded i’r arhosfan bysiau eich helpu i wneud hanner y 30 munud o ymarfer corff dyddiol a argymhellir gan y Llywodraeth.

Manteision i’r amgylchedd

  • Llwyddodd bysiau â lefelau isel o allyriadau carbon i arbed bron 70,000 tunnell o CO2 yn 2015, o’u cymharu â bysiau diesel arferol cyfatebol.
  • Mae bysiau’n hanfodol i wella ansawdd aer. Mae’r modelau diweddaraf yn allyrru 95% yn llai o NOx na modelau bysiau 2009.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, wrth sôn am Wythnos Dal y Bws: “Mae mynd ar fws yn lle gyrru’n arwain at fanteision amgylcheddol amlwg – ond gall teithio ar fws arbed arian i bobl hefyd a lleihau’r straen y mae gyrru a pharcio mewn trefi a dinasoedd prysur yn ei achosi. Ein nod yw annog mwy o bobl yn Ne Cymru i adael eu ceir gartref, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau Wythnos Dal y Bws 2016.”

Meddai Claire Haigh, Prif Weithredwr Greener Journeys: “Unwaith eto, rydym wrth ein bodd o weld y sector bysiau cyfan yn dod ynghyd i hybu manteision dal y bws. O gwmnïau dawns ar fysiau i sioeau radio’n cael eu darlledu’n fyw o lawr uchaf bysiau, rydym bob amser yn synnu ac yn rhyfeddu at ehangder a maint y creadigrwydd sydd i’w weld yn ystod yr wythnos, ac ni fydd 2016 yn wahanol. Mae’r bws yn wasanaeth hanfodol i’r bobl ieuengaf a’r bobl hynaf yn ein cymdeithas, felly mae’n wych gweld bod ei werth yn cael ei ddathlu mewn modd mor gyffrous.”

Darparwyd yr holl wybodaeth gan Stagecoach yn Ne Cymru.

 


Ym mha ffyrdd eraill y gallaf i gymryd rhan yn Wythnos Dal y Bws?

Mae Greener Journeys yn galw ar bawb i gymryd rhan yn Wythnos Dal y Bws, ac mae digon o ffyrdd cyffrous o wneud hynny!

  • Dewch at eich gilydd fel criw o ffrindiau neu gydweithwyr i gynnal eich ymgyrch eich hunain ar gyfer Wythnos Dal y Bws – gallech gynnal cystadleuaeth i weld pwy sy’n gallu defnyddio’r bws amlaf erbyn diwedd yr wythnos?
  • Cysylltwch â’ch cwmni bysiau lleol i gael rhagor o wybodaeth am ei weithgareddau a sut y gallwch gymryd rhan.
  • Ymunwch â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #CTBW a dilynwch @GreenerJourneys ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf drwy gydol yr ymgyrch.

I gael rhagor o syniadau a gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, ewch i wefan Wythnos Dal y Bws yma i weld popeth y mae arnoch ei angen i ddechrau arni!

 

Fyddwch chi’n rhoi cynnig ar ddal y bws yr wythnos hon?

Byddwch? Wel, rydych wedi dod i’r man iawn! Drwy ddefnyddio ein cynlluniwr taith yma, byddwch yn gallu cynllunio eich taith a gweld yr holl lwybrau bysiau y gallwch eu cymryd, manylion am arosfannau ac amseroedd, a map rhyngweithiol o’r daith fel y gallwch weld i ble’n union y mae angen i chi fynd.

Ydych chi’n gwybod rhif y bws yr ydych am ei ddal? Gall ein tudalen amserlenni eich helpu i ddod o hyd i’r amserlen lawn y mae arnoch ei hangen ar gyfer gwasanaeth penodol; gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn PDF o’r amserlen er mwyn ei hargraffu a mynd â hi gyda chi ar eich taith os ydych yn dymuno.

Rhowch wybod i ni ar Twitter, @TravelineCymru, os ydych yn bwriadu rhoi ambell gynnig ar deithio ar y bws yn ystod Wythnos Dal y Bws, a chofiwch ddefnyddio’r hashnod #CTBW!

 
*Cafwyd y ffeithiau gan Wythnos Dal y Bws.

 

 

Pob blog Rhannwch y neges hon