Blog

myunijourney freshers week at university

Dyma ddechrau eich siwrnai newydd yn y brifysgol – mwynhewch bob eiliad!

20 Medi 2016

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith yn rhagor. Wrth i brifysgolion ddechrau cynnal Wythnos y Glas, bydd llawer o fyfyrwyr newydd ar hyd a lled y wlad yn siŵr o fod yn gyffro i gyd wrth iddynt baratoi ar gyfer dechrau ar bennod newydd yn eu bywydau.

Ynghanol cyffro Wythnos y Glas a’r hwyl o wneud ffrindiau newydd a dechrau ymgartrefu, rydym yn deall bod symud i ddinas neu dref newydd yn gallu bod yn brofiad brawychus i lawer o fyfyrwyr. Mae ein tîm yma yn Traveline Cymru wedi bod yn mynychu Ffeiriau’r Glas ar draws Cymru ers sawl blwyddyn, ac rydym wedi cael y pleser o siarad â myfyrwyr newydd am eu profiad o ddechrau dod i arfer â bywyd prifysgol. Mae helpu myfyrwyr i gael gafael ar yr holl wybodaeth y bydd arnynt ei hangen am drafnidiaeth gyhoeddus yn gam pwysig o safbwynt eu helpu i ddechrau ymgyfarwyddo a theithio o le i le’n ddiogel yn eu tref newydd.

Roeddem am helpu myfyrwyr i deimlo’n fwy hyderus o wybod pa opsiynau o ran trafnidiaeth sydd ar gael iddynt o gwmpas eu prifysgol newydd. Felly, ar ôl ymgynghori â’n gilydd ac ar ôl misoedd o weithio a datblygu, aethom ati i lansio ein hadnodd newydd sbon i fyfyrwyr: myndibobmanfelmyfyriwr.

Mae myndibobmanfelmyfyriwr yn adnodd yr ydym wedi’i ddatblygu ar gyfer myfyrwyr ledled Cymru, a bydd yn darparu’r adnoddau cynllunio taith a’r wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus y bydd arnynt eu hangen drwy gydol eu cyfnod yn y brifysgol. Gallwch ddarllen rhagor am lansiad swyddogol myndibobmanfelmyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yma!

myunijourneylaunch2.jpg

Fodd bynnag, roeddem am sicrhau bod myndibobmanfelmyfyriwr yn brofiad a oedd wedi’i deilwra’n fwy fyth ar gyfer myfyrwyr. Felly, dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â phrifysgolion i lansio tudalennau ‘myndibobmanfelmyfyriwr’ unigol ar y we ar gyfer pob prifysgol yng Nghymru.

Drwy fynd i wefan myndibobmanfelmyfyriwr, gallwch ddewis eich prifysgol chi o’r ddewislen a mynd i’r dudalen deithio sy’n benodol ar ei chyfer.

Mae’r tudalennau yn cynnwys cynlluniwr taith ar gyfer eich campws chi’n ogystal â rhestr o arosfannau bysiau defnyddiol yn yr ardal. Mae’r tudalennau hefyd yn llawn o gynghorion ynghylch teithio’n lleol ac maent yn cynnwys amserlenni bws defnyddiol, gwybodaeth am orsafoedd trenau a llwybrau beicio a cherdded lleol, a manylion am dacsis yn yr ardal ac unrhyw gyfleusterau parcio a theithio.

myunijourney%20aberystwyth%20university.

Rydym wrth ein bodd bod yr adnodd hwn ar gael i fyfyrwyr newydd a’r sawl sy’n dychwelyd i’r brifysgol. Mae rhai opsiynau gwych o ran trafnidiaeth ar gael i fyfyrwyr, yn enwedig y sawl sydd heb gar, ac mae’r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod modd i fyfyrwyr deithio o le i le’n ddiogel a chael gafael yn hawdd ar y wybodaeth y mae arnynt ei hangen.

Byddwn yn mynychu nifer o Ffeiriau’r Glas ar hyd a lled Cymru dros y pythefnos nesaf, felly cofiwch alw heibio i’n stondin i gael gwybod mwy am myndibobmanfelmyfyriwr a gweld sut y gallwn eich helpu!

Mae eich siwrnai newydd yn y brifysgol ar fin cychwyn – ac rydym ni yma i’ch helpu i ddechrau’n fwy hyderus arni wrth i chi ddod i arfer â’ch cartref newydd. Ewch i myndibobmanfelmyfyriwr yma i ddechrau ar eich antur!

Pob blog Rhannwch y neges hon