Blog

Car sharing

5 cam tuag at ddewis rhannu car wrth deithio

19 Ionawr 2017

‘Blwyddyn newydd, dechrau newydd..?’

Os ydych wedi dweud y geiriau hyn wrthych chi eich hun yn ystod y mis yma, mae’n siŵr nad chi yw’r unig un i wneud hynny. Gall y flwyddyn newydd fod yn gyfle gwych i ni fyfyrio ynghylch y 12 mis diwethaf a meddwl am yr hyn yr hoffem ei gyflawni wrth symud ymlaen, un cam ar y tro.

Y llynedd buom yn ystyried pam y dylai defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn un o’ch addunedau chi ar gyfer 2016, a’r ffaith bod hynny’n ffordd wych o drawsnewid y modd yr ydych yn teithio – yn ogystal â’ch helpu i leihau eich ôl troed carbon, mae hefyd yn gallu arbed arian i chi ar hyd y ffordd.

Fodd bynnag, rydym yn deall nad yw trafnidiaeth gyhoeddus bob amser yn opsiwn ymarferol ar gyfer eich teithiau. I berchnogion ceir yn enwedig, gall weithiau fod ychydig yn anos newid eich trefn ddyddiol arferol a dechrau defnyddio’r bws neu’r trên os nad yw’r llwybrau’n addas.

Felly, beth gallwch chi ei wneud? Buom yn sgwrsio â Deborah Stux, Cydgysylltydd Cynllun Teithio Llywodraeth Cymru ar gyfer y De-ddwyrain, am ei phrofiadau hi o rannu car. Er mwyn torri’r garw, mae ganddi hi, fel un sy’n rhannu car ei hun, ambell air o gyngor i’w roi ynghylch sut i ddechrau arni, a sut y gallwch chi roi cynnig ar rannu car eleni:

  1. Ble mae dechrau?

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu car, un ffordd dda o ddechrau arni yw drwy sgwrsio â’r bobl sy’n gweithio yn yr un man â chi. A oes gan eich gweithle gynllun rhannu ceir eisoes? Os felly, efallai y byddwch yn gallu ymuno â’r bobl sydd eisoes yn rhannu ceir yn eich man gwaith.

A wyddoch chi? Yn ôl adroddiad yr Adran Drafnidiaeth yn 2016 ynghylch ystadegau am ddefnyddio’r ffyrdd, teithio i’r gwaith sydd i gyfrif am 1 o bob 6 taith mewn car preifat.


Neu efallai eich bod yn eistedd yn yr un swyddfa â rhywun sy’n byw mewn ardal debyg i chi? Gallai dechrau’n fach a rhannu teithiau â phobl yr ydych yn eu hadnabod eich helpu i ddechrau ar ddull newydd o deithio.

  1. Ddim yn teithio i’r gwaith? Gofynnwch i’ch ffrindiau!

Mae rhannu ceir yn gallu bod yn brofiad gwych wrth ymgymryd â theithiau eraill hefyd – mae cyd-deithio â’ch ffrindiau pan fyddwch yn mynd allan am y dydd yn gyfle i chi osgoi gorfod poeni am gael gafael ar fwy nag un lle parcio, ac mae’n lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.

  1. Gwnewch yr hyn sy’n bosibl i chi

Ni waeth pa adduned y byddwch yn penderfynu ymrwymo iddi eleni, y ffordd orau o sicrhau ei bod yn dod yn rhan o’ch trefn ddyddiol arferol yw dod o hyd i’r hyn sydd orau ac yn fwyaf ymarferol i chi.

Efallai y gallech geisio rhannu car un diwrnod yr wythnos? Os byddwch yn gweld bod hynny’n gweithio’n dda, yna gallech geisio cynyddu’r diwrnodau yn ôl yr hyn sy’n addas i chi a’r sawl yr ydych yn rhannu car ag ef.

  1. Peidiwch â gadael i wefannau rhannu ceir eich rhwystro

Un agwedd ar rannu ceir sy’n gallu rhwystro pobl neu sy’n gwneud iddynt deimlo’n nerfus ynghylch rhannu ceir yw’r syniad o deithio gyda rhywun nad ydych yn ei adnabod. Fodd bynnag, does dim rhaid i’r profiad o ddod o hyd i rywun sy’n teithio i’r un lle â chi fod yn brofiad brawychus.

Mae Liftshare a Share Cymru yn ddwy wefan rhannu ceir y gallwch eu defnyddio i’ch helpu i ddod o hyd i berson arall sy’n gwneud yr un daith â chi. Yn ogystal â theithiau rheolaidd, gallwch hyd yn oed chwilio am deithiau y byddwch yn eu gwneud unwaith yn unig; gall y gwefannau hyn fod yn ddelfrydol os ydych yn teithio i ddigwyddiad ar eich pen eich hun ac yn dymuno dod o hyd i rywun arall sy’n mynd i’r un man y gallwch rannu car ag ef/hi.

Mae gwefan Liftshare yn cynnwys sylwadau gwych gan bobl sy’n rhannu ceir ynghylch eu profiadau, sy’n cynnwys straeon am deithiau yn syth o lygad y ffynnon er mwyn helpu i roi tawelwch meddwl i chi! Mae’r gwefannau hefyd yn cynnwys cynghorion defnyddiol ynghylch diogelwch a chyngor defnyddiol i’ch helpu i ddechrau arni’n ddiogel. Mae’r rhain ar gael i’w darllen yma.

  1. Mwynhewch y daith a’r cyfle i wneud ffrindiau newydd!

Yn y pen draw, gall rhannu ceir fod yn ffordd hwyliog a chymdeithasol o deithio; gallech hyd yn oed wneud rhai ffrindiau newydd ar hyd y ffordd a dod i adnabod pobl sydd â’r un diddordebau â chi – beth am roi cynnig ar rannu car â rhywun newydd sy’n mynd i’r un digwyddiad neu gyngerdd â chi? Gallai fod yn gyfle gwych i ddechrau sgwrs a dechrau dod i adnabod pobl eraill sy’n rhannu ceir.

Rhowch wybod os ydych wedi rhoi cynnig ar rannu ceir, neu os ydych wedi’ch ysbrydoli! Mae’n gyfle gwych i ailystyried y ffordd yr ydym yn teithio, ac mae’n rhoi cyfle i ni leihau ein hôl troed carbon heb orfod ffarwelio â’n ceir yn gyfan gwbl.

Pob blog Rhannwch y neges hon