Blog

St David's Day competition Traveline Cymru

Dyma gyfle i ENNILL gwobr y mis hwn trwy rannu eich hanesion am bobl sy’n gwneud y pethau bychain!

01 Mawrth 2017

Drwy gydol mis Mawrth byddwn yn cymryd rhan yn ymgyrch Croeso Cymru, sy’n ein hannog i wneud y pethau bychain, ac rydym yn awyddus i glywed gennych!

A oes rhywun wedi mynd i drafferth arbennig i’ch helpu ar eich ffordd i’r gwaith? Efallai bod cyfaill wedi gwneud rhywbeth i wneud i chi wenu ar eich taith adref, neu efallai eich bod chi wedi gwneud tro da â rhywun arall. Y mis hwn, rydym am dynnu sylw at y pethau arbennig y mae pobl wedi’u gwneud i roi gwên ar eich wyneb wrth i chi deithio.

Rydym ni a Trenau Arriva Cymru wedi dod at ein gilydd i gynnig dau docyn dwyffordd AM DDIM i chi, i’w defnyddio yn unrhyw le ar rwydwaith Trenau Arriva Cymru gan ddefnyddio gwasanaethau Trenau Arriva Cymru.

I gael cyfle i ennill, rhowch wybod i ni am un peth bach caredig sydd wedi gwneud i chi wenu ar eich taith.

I roi cynnig ar y gystadleuaeth, rhannwch eich stori â ni ar Twitter, Facebook neu Instagram. Sicrhewch eich bod yn tagio @TravelineCymru yn eich sylw.

Daw’r gystadleuaeth i ben ddydd Gwener 31 Mawrth, pan fyddwn yn dewis ein henillydd lwcus.

Pob lwc!

 

Telerau ac amodau

Wrth roi cynnig ar y gystadleuaeth hon rydych yn derbyn y rheolau canlynol:

  • Rhaid i gynigion i’r gystadleuaeth gael eu cyflwyno rhwng y dyddiad dechrau a’r dyddiad cau. Ni fydd unrhyw geisiadau a gaiff eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.
  • Mae’r wobr yn rhoddedig gan Trenau Arriva Cymru a dim ond ar rwydwaith Trenau Arriva Cymru ac ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru y gellir defnyddio’r wobr, sef dau docyn dwyffordd ar gyfer teithio yn ystod oriau nad ydynt yn oriau brig. Nid oes modd trosglwyddo na newid y tocynnau na’u cyfnewid am arian parod.
  • Caiff yr enillydd ei ddewis fel y gwêl Traveline Cymru yn dda, a bydd penderfyniad Traveline Cymru yn derfynol.
Pob blog Rhannwch y neges hon