Blog

Screwball scramble

A allwch chi guro’r cloc yn ein Her Screwball Scramble?

20 Gorffennaf 2017

Os oeddech yn un o blant y 90au, efallai eich bod yn cofio’r gêm Screwball Scramble – nod y gêm yw cael y bêl fetel o amgylch y bwrdd a chyrraedd y diwedd cyn bod eich amser ar ben!

Bydd ein tîm yn y Sioe Frenhinol drwy gydol yr wythnos, a bydd cyfle i chi ail-fyw eich plentyndod drwy gymryd rhan yn ein Her Screwball Scramble!

Ceisiwch ragori ar sgorau ein staff, a chofiwch gael ychydig o wybodaeth am deithio a nwyddau rhad ac am ddim tra byddwch yno.

Byddwn yn dosbarthu gwybodaeth am wasanaethau Traveline Cymru a’n rhif Rhadffôn yn ogystal â gwybodaeth am fyngherdynteithio, sef y cerdyn teithio rhatach i bobl ifanc 16-18 oed.

Galwch heibio i’n gweld yn Neuadd De Morgannwg – byddwn yno drwy’r wythnos!

Pob blog Rhannwch y neges hon