Blog

Traveline Cymru Age Cymru Afan Nedd

Ar y ffordd gyda…chlwb cinio Afan Nedd

10 Awst 2017

Er mwyn helpu i hyrwyddo ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 0000, buom yn cydweithio ag Age Cymru ar brosiect celfyddydau yn y gymuned ac yn ymweld â chlybiau cinio lleol dros yr haf er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r modd y gall ein rhif Rhadffôn newydd helpu’r sawl y mae arnynt angen cyngor ynghylch teithio.

Buom yn hel atgofion gydag aelodau o glwb cinio Afan Nedd, a fuodd yn ein difyrru â straeon am eu teithiau mwyaf cofiadwy ar fysiau a threnau. Yn ogystal, cawsom gwmni rhai o gantorion dawnus côr o’r enw Splott Local Vocals ar y diwrnod, a fu’n codi canu!

Roedd cael clywed cynifer o straeon diddorol gan y grŵp yn ysbrydoledig, ac roedd gan lawer ohonynt atgofion melys am deithiau gyda theulu a ffrindiau. Dyma rai o’r atgofion a gafodd eu rhannu â ni yn Afan Nedd:

 

“Ro’n i’n arfer teithio ar y trên o Bort Talbot i Ynys y Barri yn yr haf; un tro cymerodd fy chwaer ormod o amser i baratoi a chollodd y trên, gan ein gadael ni i ofalu am y plant i gyd! R’yn ni’n credu iddi gymryd gormod o amser yn bwrpasol er mwyn gallu cymryd ei hamser i ddod yn barod a chael llonydd i wisgo ei cholur.”  (Audrey, 83)

 

“Ro’n ni’n arfer mynd ar y trên i Barc Aberdâr i fwynhau’r pwll nofio awyr agored. Ro’n ni’n arfer creu ein pop sherbet ein hunain drwy gymysgu sherbet o Woolworths â dŵr. Roedd yn hyfryd o felys a blasus!”  (Dienw)

 

“Fy hoff daith i oedd taith annisgwyl i Landudno a drefnwyd gan fy ngŵr i ddathlu ein pen-blwydd priodas. Roedd wedi trefnu bod fy merch yno fel syrpréis i mi. Roedd yn ddiwrnod bendigedig!” (Dienw)  

 

“Rwy’n cofio teithio ar fws deulawr yng nghanol yr haf gyda’r ffenestri ar agor; ro’n ni’n teithio ar hyd lôn gul heibio i ffermydd a chaeau gwair – daeth chwythwm mawr o wynt i lawr y lôn ac ar draws y caeau a gorchuddio’r holl deithwyr o’u pen i’w sawdl â gwair a llwch! Dim ond 7 neu 8 oed oeddwn i!” (Dienw)

 

“Rwy’n cofio’r swyddogion yng ngorsaf drenau Caerdydd, a oedd mor barod i helpu. Fe wnaethon nhw fy helpu pan ddes i oddi ar y trên gan feddwl bod angen i mi ddal trên arall i fynd i Portsmouth. Buan y gwnaethon nhw fy helpu drwy ddweud bod angen i mi aros ar yr un trên. Rwy’n un o 11 o blant, felly ro’n i’n arfer dilyn fy mrodyr hŷn! Ro’n i’n teithio ar fy mhen fy hun i Portsmouth.” (Joan)

 

“Ro’n i’n arfer teithio ar fws o Cascade yng Nghwm Rhymni i Ynys y Barri, a byddwn yn mwynhau crwydro o’r naill gaffi i’r llall dan y bwâu sy’n edrych dros y traeth. Rwy’n defnyddio fy sgwter i fynd o le i le erbyn hyn.” (Yvonne)

 

“Roedd fy nhad yn löwr, a phan oedd e’n ddi-waith a phan oedd bywyd yn anodd byddai’r pwyllgor lles lleol yn mynd â’r wyth ohonon ni blant ar drip i Bort Einon, a byddem yn cael pop a brechdanau i’w mwynhau.” (Joan, 88)

 

“Byddem yn aml yn mynd i Fae Baglan ar y trên, a byddai ’nhad yn gofyn i’r swyddog stopio’r trên yn arbennig i ni wrth ymyl y traeth, fel na fyddai’n rhaid i ni gerdded ymhell. Rwy’n credu ei fod yn adnabod y swyddog yn dda, oherwydd dwi ddim yn credu bod y trên i fod i aros yno!” (Dienw)

 

“Ro’n ni’n arfer dal bws o Fargam i Bort Talbot. Dim ond ceiniog roedd e’n ei gostio!” (Rita, 88)

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Age Cymru am bob cymorth a gafwyd ar y diwrnod. Cofiwch, os oes angen gwybodaeth arnoch am drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch ein ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 464 0000. Mae ein Canolfan Gyswllt ar agor bob dydd rhwng 7am ac 8pm.

Pob blog Rhannwch y neges hon