Blog

Autumn Walks

Penwythnosau’n llawn anturiaethau’r hydref yn y de

18 Hydref 2018

Wrth i’r tywydd oeri’n raddol, efallai y cewch eich temtio i aros gartref a chadw’n gynnes yr hydref hwn.

Efallai bod swatio dan do yn swnio fel y dewis saff, ond mae misoedd yr hydref yn adeg ddelfrydol i fentro allan, boed hynny er mwyn adfer eich nerth a rhoi hoe i’r meddwl, neu er mwyn mynd â’r plantos am dro.

I sicrhau eich bod chi’n dal i fynd o le i le wrth i’r tywydd droi, rydym wedi llunio rhestr o deithiau cerdded hydrefol hyfryd lle cewch brofi’r golygfeydd ysblennydd sydd i’w cael yn y de. 

Felly, ewch i hôl sgarff drwchus, camera a rhywbeth bach i’w fwyta – mae’n bryd i ni ddod o hyd i antur leol...

 

Castell Coch

Byddai’n amhosib i ni sôn am yr hydref heb gyfeirio at y castell hudolus (ac eiconig) hwn. Gallwch ei weld o’r A470, ac mae’r castell yn bywiogi i gyd pan fydd y goedwig o’i gwmpas yn troi’n fôr o goch ac oren.

Mae cerdded o gwmpas y castell hudolus hwn ym mhentref Tongwynlais gyda’r plant – a mentro chwilio am y tylwyth teg – yn ffordd wych o gael ychydig o awyr iach gan fwynhau’r golygfeydd ysblennydd ar yr un pryd.

Er bod yr adeilad sydd yma heddiw’n drawiadol, cafodd y castell gwreiddiol a adeiladwyd ar y darn hwn o dir ei ddinistrio yn ystod gwrthryfel y Cymry yn 1314. Ganrifoedd yn ddiweddarach bu i John Crichton-Stuart, trydydd Marcwis Bute, etifeddu adfeilion y castell a’i ailadeiladu yn rhan o’r Adfywiad Gothig yn y 19eg ganrif.

Mae 42 erw o goetir ffawydd prydferth a phlanhigion prin yn amgylchynu’r castell hanesyddol. Gyda’r dail yn troi lliw ar hyn o bryd, gallech yn hawdd dybio eich bod, wrth gerdded i fyny am y castell, ar antur i wlad y tylwyth teg.

Mae’n  ddigon hawdd cyrraedd Tongwynlais gan ddefnyddio gwasanaethau bws Stagecoach De Cymru, a does dim rhaid cerdded yn bell o’r pentref i gyrraedd y castell!

Ffynhonnell y wybodaeth: Castell Cymru 

 

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Oes arnoch awydd mynd am dro i weld ein bywyd gwyllt brodorol? Beth am fynd am dro o gwmpas Llynnoedd Cosmeston yr hydref hwn?

Mae Llynnoedd Cosmeston yn adnabyddus am fod yn hafan i fywyd gwyllt brodorol, a dyma adeg berffaith o’r flwyddyn i ddod yma am y dydd. Gyda heidiau o adar yn dechrau ymfudo tua’r de ar gyfer y gaeaf, mae Llynnoedd Cosmeston yn fan da i weld adar dŵr megis corhwyaid, hwyaid copog, chwiwellau, hwyaid pengoch ac adar y bwn yn aros am hoe ar eu taith tua’r de.

Os nad ydych yn or-hoff o wylio adar, gallwch gamu i’r gorffennol trwy fynd am dro o gwmpas y pentref canoloesol. Mae’n lle addas iawn i gŵn hefyd, felly dewch i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan – hyd yn oed yr aelodau hynny o’r teulu sydd â chwt a phedair coes!

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Bro Morgannwg 

 

Pen-y-fan – Bannau Brycheiniog

I’r rheini ohonoch sy’n chwilio am daith gerdded hir dros yr hydref, beth am roi cynnig ar goncro un o fynyddoedd uchaf Cymru – Pen-y-fan? Os nad ydych chi’n un i wrthod her (fel ninnau), rydym yn addo na fydd yr her hon yn eich siomi.

Mae sawl llwybr gwahanol yn arwain i’r copa, sy’n amrywio o ran eu hyd a pha mor anodd ydynt. Mae’r llwybr lleiaf llafurus, y cyfeirir ato fel ‘Y Draffordd’, yn llwybr cylchol pedair milltir sy’n dechrau yng Nghanolfan Awyr Agored Storey Arms, a gellir cyrraedd y fan honno’n hawdd gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Er y gallech fod allan o bwff erbyn cyrraedd y copa, bydd y golygfeydd o’r rhostir gwyllt o’ch cwmpas yn siŵr o fynd â’ch gwynt am reswm gwahanol iawn.

Ffynhonnell y wybodaeth: Croeso Cymru 

 

Gerddi Botaneg Parc Singleton

Beth am chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich gardd trwy fynd am dro o gwmpas Parc Singleton yr hydref hwn?

Efallai nad yw gardd fotaneg ar frig eich rhestr o leoedd i fynd am dro iddynt yr hydref hwn, gan y bydd y rhan fwyaf o blanhigion yn colli eu dail a’u blodau yn ystod misoedd y gaeaf. Serch hynny, hyd yn oed dros fisoedd oer y gaeaf mae gan yr ardd hon dros 200 o wahanol blanhigion sydd wedi’u gweld yn  blodeuo yn ystod tymor y Nadolig, sy’n golygu bod yr ardd hon yr un mor brydferth yn y gaeaf ag ydyw yn yr haf.

Dyma’r man perffaith i grwydro’n hamddenol neu eistedd ac edmygu’r prydferthwch o’ch cwmpas. Dyma gyfle gwych i anghofio am fywyd go iawn am eiliad a rhoi eich ffôn i gadw (oni bai eich bod am dynnu llun i’w roi ar Instagram – allwn ni ddim â gweld bai arnoch am fod eisiau gwneud hynny!).

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Abertawe 

 

Isod, fe welwch chi rai dolenni cyswllt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich taith. Gall defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal fod yn ffordd wych o gyrraedd y ddinas a’ch arbed rhag gorfod poeni am ddod â’r car.

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith

Pob blog Rhannwch y neges hon