Blog

Happy Halloween Traveline Cymru

Manteisiwch ar bob cyfle i osgoi bwganod ac aros yn ddiogel adeg Calan Gaeaf eleni!

24 Hydref 2018

Mae Calan Gaeaf yn prysur nesáu, ac rydym yma i’ch helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus wrth i chi fentro allan i’r nos!

Mae’r tymor dathlu wedi cyrraedd ac ychydig ddiwrnodau’n unig sydd i fynd tan Calan Gaeaf, felly rydym yn edrych ymlaen at fwynhau ychydig o ias a hwyl yr ŵyl!

I’ch paratoi ar gyfer yr wythnos sydd i ddod rydym wedi creu rhestr o’n prif gynghorion ynghylch sut i ymdopi â Calan Gaeaf eleni, ac mae’n cynnwys yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i deithio’n ddidrafferth a chael penwythnos dychrynllyd o dda.

 

1. Gwybod pryd y mae eich bysiau’n mynd

Bydd llawer o weithgareddau a phartïon Calan Gaeaf yn cael eu cynnal yn ystod y penwythnos, felly gall yr ŵyl achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol weithiau a gall y strydoedd fod yn llawn o bobl sy’n chwarae ‘cast neu geiniog’ a phobl sy’n mynd allan am y noson. Oherwydd hynny, gall gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu newid er mwyn sicrhau diogelwch teithwyr (hyd yn oed y rhai sydd wedi’u gwisgo fel fampirod).

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain ar ein Dargyfeiriadau Nos Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt tudalen.

Byddwn yn ychwanegu unrhyw wybodaeth newydd am drefniadau trafnidiaeth, yr ydym yn ymwybodol ohoni, at ein tudalen Problemau teithio yma neu gallwch ein dilyn ar Twitter @TravelineCymru i gael y manylion diweddaraf wrth i chi fynd o le i le!

 

 

2. Oes angen help arnoch? Ffoniwch ni’n rhad ac am ddim ar 0800 464 0000!

Gallwch ffonio ein canolfan gyswllt ar 0800 464 00 00. Gallwch ffonio’r rhif yn rhad ac am ddim, a bydd ein tîm o asiantiaid cyfeillgar yn ein canolfan alwadau ddwyieithog wrth law i ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych ynglŷn â thrafnidiaeth.

Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd weithiau i bobl wybod yn iawn pa drefniadau sydd ar waith, felly mae ein tîm yno i roi’r sicrwydd y mae arnoch ei angen i deithio’n ddiogel.

 


3. Arhoswch yn ddiogel drwy fod â’r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen

P’un a ydych yn dal y bws neu’r trên neu’n cymryd tacsi, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn teithio yn y modd mwyaf diogel posibl.

Edrychwch ar ein tudalen Gwybodaeth am deithio’n ddiogel i weld rhai dolenni cyswllt defnyddiol a chael cyngor ynghylch cymryd gofal wrth deithio. Gallwch fynd drwy’r dudalen i gael gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd a chwmnïau tacsis, a chyngor gan weithredwyr trafnidiaeth, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a mwy.

 



4. Cynlluniwch eich taith o flaen llaw

Bydd gofalu bod amseroedd eich bysiau a’ch trenau gennych wrth law cyn i chi deithio’n rhoi hyder i chi, oherwydd byddwch yn gwybod ble mae angen i chi fod.

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

Beth bynnag yr ydych yn ei wneud i fynd i ysbryd yr ŵyl, gofalwch bod ein rhestr wirio gennych fel eich bod yn barod ar gyfer beth bynnag ddaw. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho ein ap rhad ac am ddim i’ch ffôn symudol cyn mynd allan! Mae’r ap ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android, a gallwch ei ddefnyddio i gynllunio eich taith a dod o hyd i amserlenni ac arosfannau bysiau, waeth ble’r ydych yn mynd yng Nghymru.



5. Paratowch eich adloniant ar gyfer Calan Gaeaf

Ac yn olaf ond nid yn lleiaf, ni fyddai Calan Gaeaf yr un fath heb gerddoriaeth iasol ar gyfer eich taith. Felly, cofiwch roi eich hoff draciau cerddoriaeth ar eich ffôn neu dewch â’ch hoff nofel arswyd gyda chi i fwynhau’r daith.

 

Beth bynnag fo’ch cynlluniau, cofiwch gael amser dychrynllyd o dda a chofiwch aros yn ddiogel wrth deithio!

Pob blog Rhannwch y neges hon