Blog

Winter Travel Safety Video

Teithiwch yn ddiogel gyda help Traveline Cymru a’n fideo ynghylch cadw’n ddiogel yn ystod y gaeaf!

13 Rhagfyr 2018

Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, mae’n bosibl y byddwch yn mynd i’r dref er mwyn gwneud rhywfaint o siopa Nadolig munud olaf, mynd i barti gwaith, cwrdd â hen ffrindiau dros baned o goffi, neu ddechrau ar eich paratoadau ar gyfer Nos Galan! Beth bynnag fo’ch cynlluniau dros yr ŵyl, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd ddiogel a chyfleus iawn o deithio – ac mae Traveline Cymru wrth law i helpu.

Rydym newydd greu fideo’n ddiweddar er mwyn dangos i chi sut y gall ap, gwefan a rhif Rhadffôn Traveline Cymru eich helpu i deithio y gaeaf hwn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os nad ydych wedi gweld ein fideo’n barod, cymerwch gip arno isod!

 

 

Dyma ein prif gynghorion ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus y gaeaf hwn:

1. Yn awr, gallwch ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd ar rai bysiau i dalu â cherdyn am eich tocyn – felly sicrhewch fod eich cerdyn gennych wrth law! Os byddwch yn dewis talu ag arian parod, sicrhewch fod gennych yr arian cywir gan fod hynny’n ofynnol ar lawer o wasanaethau bws. Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod eich dull o dalu gennych yn barod cyn i chi fynd ar y bws, er mwyn osgoi unrhyw oedi i’r gyrrwr.
 

2. Cofiwch fynd â’ch eiddo gyda chi pan fyddwch yn gadael y bws neu’r trên. Ynghanol prysurdeb yr adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig, mae’n hawdd gadael eich ffôn, eich waled neu’ch bag ar ôl yn ddamweiniol. Edrychwch fwy nag unwaith o amgylch y man lle’r ydych wedi bod yn eistedd, cyn gadael y bws.
 

3. Cynlluniwch eich taith o flaen llaw gan ddefnyddio Cynlluniwr Taith Traveline Cymru www.traveline.cymru. Bydd ein Cynlluniwr Taith yn dangos i chi’r llwybr cyflymaf i’r man yr ydych am deithio iddo. Nodwch fan cychwyn a man gorffen eich taith, pryd yr ydych am ymadael neu gyrraedd a sut yr ydych am deithio. Gallwch ddefnyddio ein cynlluniwr cerdded a beicio hefyd os yw’n well gennych gerdded neu fynd ar y beic. Yna, byddwn yn rhoi i chi fanylion pob rhan o’ch taith, gam wrth gam, gan gynnwys yr amseroedd a mapiau o’r llwybrau, sy’n golygu y byddwch yn gallu cynllunio eich taith o flaen llaw.
 

Bydd rhai newidiadau i wasanaethau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar ein tudalen am deithio dros y Nadolig.

 

4. Lawrlwythwch ein ap Traveline Cymru defnyddiol, dwyieithog i gael gwybodaeth wrth deithio o le i le. Mae’r ap ar gael yn rhad ac am ddim! Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith, ein tudalen Amserlenni, ein Chwiliwr Arosfannau Bysiau a’n tudalen Problemau Teithio i gynllunio eich taith wrth i chi deithio. Mae’n ffordd wych o sicrhau eich bod yn cyrraedd adref yn ddiogel, yn enwedig pan fyddwch yn teithio’n hwyr yn y nos.
 

5. Mae’n fwy diogel os oes gennych gwmni, felly osgowch gerdded adref ar eich pen eich hun, hyd yn oed os yw’n golygu gofyn i ffrind am gymwynas! Mae hynny’n arbennig o bwysig os ydych yn teithio’n hwyr yn y nos neu os ydych wedi bod yn yfed. Bydd ffrind neu gydweithiwr yn fwy na bodlon eich helpu.
 

6. Cadwch ein rhif Rhadffôn 0800 464 00 00 er mwyn i chi allu ein ffonio i gael gwybodaeth os byddwch mewn trafferth. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu i gynllunio eich taith, boed o flaen llaw neu wrth i chi deithio. Mae gwybodaeth am oriau agor y ganolfan gyswllt i’w chael yma.
 

7. Peidiwch â dilyn llwybrau byr, a chofiwch gerdded bob amser ar hyd strydoedd sydd wedi’u goleuo’n dda. Bydd hynny’n golygu y byddwch yn gallu gweld beth sy’n digwydd o’ch amgylch, ac y bydd cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd yn ymwybodol o’ch presenoldeb. At hynny, gallwch fod yn fwy effro i’r hyn sydd o’ch amgylch drwy osgoi gwneud pethau a allai dynnu eich sylw, er enghraifft gwisgo clustffonau.
 

 

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Traveline Cymru!

 

Pob blog Rhannwch y neges hon