Blog

2019

Pethau i’w gwneud o amgylch Cymru ym mis Ionawr (na fydd yn costio llawer!)

01 Ionawr 2019

Mae’r addurniadau wedi’u rhoi i gadw am flwyddyn arall, mae gweddillion y twrci wedi diflannu ac ni fydd yn rhaid i chi wrando ar gân Nadoligaidd arall nes diwedd mis Medi, o leiaf. Gyda hwyl yr ŵyl bellach ar ben yn swyddogol, gall mis Ionawr wneud i ni deimlo’n ddiegni, yn flinedig ac yn brin o geiniog neu ddwy ar ôl ei gorwneud hi gyda holl ddathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Gallwn ni gynnig rhai syniadau am weithgareddau ar hyd a lled Cymru ym mis Ionawr, a fydd yn gallu diddanu’r teulu cyfan heb gostio llawer i chi.

 

1. Ymweld ag amgueddfa – am ddim!

Mae Cymru yn gartref i nifer o amgueddfeydd ardderchog, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe ac Amgueddfa Lechi Cymru. A’r peth gorau oll? Cewch ymweld ag unrhyw un o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn rhad ac am ddim! Mae hynny’n golygu y gallwch archwilio hanes cyfareddol Cymru, edmygu creadigaethau gweledol ysblennydd artistiaid lleol, a dysgu rhywbeth newydd – a’r cyfan heb orfod gwario’r un ddimai.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ddinas, ac mae amrywiaeth o arddangosfeydd yn cael eu cynnal yno trwy gydol y flwyddyn. Ar hyn o bryd, gallwch weld yr union long ofod a ddefnyddiwyd gan y gofodwr Tim Peake ar ei daith i’r Ganolfan Ofod Ryngwladol. Ydych chi awydd teithio i’r gofod? Ewch i fyd y sêr gyda phrofiad rhithwir yr amgueddfa, sy’n cynnwys llais Tim Peake ei hun, a chychwynnwch ar eich taith eich hun tua’r gofod. Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe rydym yn dysgu am ymateb dewr y cymunedau llechi i ymgyrch recriwtio’r Rhyfel Byd Cyntaf, a’r effaith uniongyrchol a gafodd yr ymgyrch ar y diwydiant llechi.

Mae ymweld ag amgueddfa yn ffordd wych o ddiddori’r teulu cyfan am ychydig oriau dros y penwythnos, ni waeth beth yw’r tywydd! Gallwch ddarganfod beth arall sy’n digwydd yn unrhyw un o Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru ar eu gwefan.

 

 

2. Mwynhau awel y môr

Cydiwch yn eich cot, gwisgwch yn gynnes ac ewch am dro i’r traeth! Iawn, efallai ei bod hi’n fis Ionawr. Ond gallwch fwynhau awel y môr a mynd am dro ar hyd un o draethau prydferth Cymru serch hynny (hyd yn oed os yw hi ychydig yn oer).

  • Mae traeth y de yn Aberllydan, Sir Benfro yn enwog am ei dywod gwyn diddiwedd, ac mae’n draeth delfrydol i’r teulu cyfan fynd am dro arno a’i fwynhau trwy gydol y flwyddyn.
  • Mae Mwnt yn draeth cyfrin ar arfordir godidog Ceredigion, lle gallwch fwynhau’r golygfeydd ysblennydd o ben Foel y Mwnt. Efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld rhywfaint o fywyd gwyllt y fro hefyd!
  • Mae Bae Rhosili yn y Gŵyr yng nghanol ardal o brydferthwch naturiol arbennig, ac mae’n dipyn o le. Ydych chi’n barod am her? Mentrwch ar hyd llwybr cerdded penrhyn Rhosili a mwynhewch y golygfeydd ysblennydd o’r tywod euraid islaw.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi llunio rhestr o rai o’r traethau gorau yng Nghymru. Ewch i’w gwefan i chwilio am draeth yn lleol i chi.

 

 

3. Ymgolli mewn llyfr yn eich llyfrgell leol

Peidiwch byth ag anghofio mor bwerus y gall llyfr da fod. Mae’r flwyddyn newydd yn adeg berffaith i eistedd yn ôl, ymlacio ac ymgolli mewn byd dychmygol newydd (neu fyd ffeithiol - pa bynnag un sydd at eich dant!). Ac er y gall siop lyfrau ar y stryd fawr neu siop lyfrau ar-lein fod yn lle gwych i ddod o hyd i’ch hoff lyfr nesaf, beth am alw heibio i’ch llyfrgell leol?

Yn y llyfrgell cewch fynediad i ystod eang o lyfrau, cylchgronau, erthyglau a chyfnodolion – a gallwch eu benthyg yn rhad ac am ddim! Yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud yw cofrestru i gael cerdyn llyfrgell – mae mor syml â hynny. Yn ogystal, mae’r llyfrgell yn lle gwych i gwrdd â phobl newydd yn eich cymuned leol. P’un a ydych yn ymuno â chlwb llyfrau (i blant, oedolion neu bobl ifanc yn eu harddegau), yn ymuno â grŵp rhieni a babanod neu’n cymryd rhan mewn gweithgarwch codi arian.

Mae cefnogi eich llyfrgell leol o fudd i’ch cymuned ac i chithau. Ewch i wefan eich awdurdod lleol i ddod o hyd i’ch llyfrgell agosaf.

 

 

4. Mynd am dro i’r parc

Gall prynhawniau gaeafol mis Ionawr eich temtio i aros dan do, cwtsio ar y soffa a bwyta unrhyw siocledi sy’n dal ar hyd y lle ers y Nadolig. Er bod modd treulio peth o’ch prynhawn Sadwrn yn gwneud hynny, beth am fentro i’r awyr agored a mynd am dro i’ch parc lleol (neu barc ychydig yn bellach, hyd yn oed)?

Mae cael rhywfaint o awyr iach a gwneud ymarfer corff ysgafn yn y parc yn ffordd wych o drechu diflastod mis Ionawr, a gall y teulu cyfan gymryd rhan. Rhowch eich dyfeisiau i’r naill ochr ac ewch i chwarae gêm o bêl-droed gyda’r plant a’u ffrindiau. Mwynhewch glonc gyda hen ffrind wrth fynd am dro ar hyd y llwybrau. Gallech hyd yn oed fynd â’ch cinio gyda chi a’i fwyta yn yr awyr agored wrth fwynhau’r golygfeydd – byddem yn argymell eich bod yn mynd â fflasg o de neu goffi poeth a charthen gyda chi.

Nid lle ar gyfer yr haf yn unig yw’r parc! Manteisiwch ar y mannau gwyrdd prydferth sydd ar gael yng Nghymru ym mis Ionawr eleni, a threuliwch amser gwerthfawr yng nghwmni eich anwyliaid.

 

 

Blwyddyn Newydd Dda gan bawb yn nhîm Traveline Cymru!

 

 

Os oes angen unrhyw help arnoch i gyrraedd y lleoliadau y cyfeirir atynt, mae Traveline Cymru ar gael i’ch helpu.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!

 

Mae ein ap yn ffordd wych o gynllunio eich taith wrth i chi fynd o le i le. Gallwch ddefnyddio ein hadnodd Cynlluniwr Taith, chwilio am amserlenni a dod o hyd i’ch gorsaf fysiau agosaf – y cyfan mewn un man. Os oes gennych iPhone gallwch lawrlwytho’r ap ar iTunes, neu os oes gennych ddyfais Android gallwch lawrlwytho’r ap ar Google Play. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen ynghylch yr ap ar ein gwefan.

Pob blog Rhannwch y neges hon