Blog

Business Services

Gwasanaethau Busnes Traveline Cymru – Sut y gallwn ni helpu eich sefydliad?

21 Ionawr 2019

Yma yn Traveline Cymru, rydym yn awyddus i helpu ein cwsmeriaid i allu teithio’n hwylus ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gan weithio mewn partneriaeth â gweithredwyr ac awdurdodau lleol rydym yn darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bws a thrên, yn ogystal â gwybodaeth am lwybrau cerdded a beicio. Ond nid dyna’r unig beth y gallwn ei gynnig.

Rydym yn rhedeg ystod eang o Wasanaethau Busnes rhad ac am ddim y gall sefydliadau eraill eu mabwysiadu a’u defnyddio er budd eu gweithwyr a’u partneriaid, sy’n eu helpu nhw i deithio’n gynaliadwy hefyd!

 

A yw maes parcio eich swyddfa’n mynd braidd yn llawn? Neu a ydych yn gweithio yng nghanol dinas brysur? Mae’r ateb i’r broblem i’w weld isod:

 

Wijet Cynlluniwr Taith y mae modd ei lawrlwytho a’i deilwra:

Efallai y byddwch wedi gweld y Cynlluniwr Taith ar hafan ein gwefan, sy’n eich galluogi i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus i’r man yr hoffech deithio iddo. Gyda’n wijet y mae modd ei lawrlwytho, gallwch gael yr adnodd hwn ar eich gwefan chithau hefyd!

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw clicio ar y ddolen gyswllt ar gyfer lawrlwytho’r wijet, a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir ynghylch ei osod (mae’n hawdd iawn).

Pan fydd defnyddiwr yn llenwi tabl y Cynlluniwr Taith, bydd yn cael ei ailgyfeirio i’w gynllun taith personol ar ein gwefan ni a bydd yn gallu cadw neu argraffu’r cynllun fel y myn.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim.

Lawrlwytho yma.

 

Hyfforddi’r Hyfforddwr:

Mae ein rhaglen ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ yn hyfforddi hyrwyddwyr mewn sefydliadau i ddosbarthu gwybodaeth am wasanaethau Traveline Cymru i staff, ymwelwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb ynddynt.

Mae’r pecyn ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ yn darparu sleidiau, deunydd darllen a deunydd hyrwyddo ategol ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant yn y dyfodol, sy’n dangos gwasanaethau Traveline Cymru a’u manteision i gyfranogwyr.

At hynny, gallwn gynnig gweithdai a gaiff eu cynnal yn eich gweithle.

Cafodd sesiynau ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ eu treialu gyda Llamau a Remploy yng Nghaerdydd ac maent yn paratoi staff i gyflwyno sesiynau hyfforddiant Traveline Cymru eu hunain. Mae hynny’n galluogi hyrwyddwyr i gyrraedd cynulleidfa ehangach yn eu sefydliad a dangos sut y gall Traveline Cymru helpu’r staff i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ers dechrau’r cynllun, rydym wedi cyflwyno hyfforddiant i staff Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Canolfan Byd Gwaith Cymru a llawer o fudiadau elusennol.

Gallwch anfon ebost atom yn marketing@traveline.cymru

 

Deunydd Hyrwyddo:

Mae gennym stoc o ddeunydd hyrwyddo wrth law bob amser yn Traveline Cymru, ac rydym yn hoffi ei rannu! Mae gennym daflenni, cardiau ‘Z’ bach, pinnau ysgrifennu wedi’u brandio, cylchau allweddi a phosteri, a diben y cyfan yw annog eich staff, y sawl sy’n ymweld â chi neu fyfyrwyr i ystyried sut y maent yn teithio.

Gallwn anfon y cyfan atoch yn rhad ac am ddim.

Gallwch ofyn am ddeunydd hyrwyddo drwy anfon ebost atom yn marketing@traveline.cymru

Pob blog Rhannwch y neges hon