Blog

Creative Commons- Attribution (BY): Tim Jones, National Botanic Garden of Wales

Uchafbwyntiau hanner tymor mis Chwefror: Beth sydd ymlaen yn y de?

14 Chwefror 2019

Mae gwyliau’r Nadolig wedi hen basio erbyn hyn, ac mae’n siŵr eich bod chi a’r plant yn edrych ymlaen at gael seibiant haeddiannol yn ystod hanner tymor mis Chwefror. I’ch helpu i wneud yn fawr o’r gwyliau, rydym wedi creu rhestr o weithgareddau difyr y gall y teulu cyfan eu mwynhau ar draws y de, y canolbarth a’r gogledd.

Bydd ein herthygl gyntaf am ‘Uchafbwyntiau hanner tymor mis Chwefror’ yn dweud wrthych ble y gallwch edmygu gwaith eiconig Leonardo da Vinci, crwydro drwy goetiroedd un o erddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y de!

 

Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

I nodi pumcanmlwyddiant ei farwolaeth, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi agor arddangosfa sy’n cynnwys 12 o gampweithiau darlunio pennaf Leonardo da Vinci. Bydd yr arddangosfa’n adlewyrchu yr ystod eang o ddiddordebau artistig a oedd gan Da Vinci, gan gynnwys ei ddiddordeb mewn cerfluniaeth, daeareg a pheirianneg.

Dim ond ar y diwrnod y gellir prynu tocynnau, ac maent yn costio £5 i oedolion a £4 i’r sawl sy’n gymwys i gael gostyngiad. Cynigir mynediad am ddim i blant a phobl ifanc 16 oed ac iau.

Bydd yr Amgueddfa hefyd yn cynnal gweithdai hanner tymor yn rhad ac am ddim rhwng 26 Chwefror ac 1 Mawrth. Bydd y gweithdai’n rhoi cyfle i ymwelwyr ddod i wybod mwy am fywyd a gwaith anhygoel Da Vinci, mewn cyfres o sesiynau creadigol a rhyngweithiol i’r teulu cyfan!

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ddinas, ac mae modd ei chyrraedd yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus. O Orsaf Fysiau Ganolog Caerdydd, ewch ar fws rhif 53 neu 85 i’r amgueddfa. O Fae Caerdydd, ewch yno ar fws baycar rhif 6. Yr orsaf drenau agosaf yw gorsaf Cathays, sydd tua 5 munud o waith cerdded o’r amgueddfa. Mae’r amgueddfa ryw 20 munud o waith cerdded o Orsaf Reilffordd Caerdydd Canolog.

 

 

Wythnos y Môr-ladron yng Nghanolfan Dreftadaeth Gŵyr

Ydych chi’n b-arrrr-od, blant? Rhwng dydd Sadwrn 23 Chwefror a dydd Sul 3 Mawrth, bydd Canolfan Dreftadaeth Gŵyr yn cynnal wythnos o weithgareddau gwych ar sail y thema Môr-ladron rhwng 10am a 5:30pm bob dydd.

Dewch o hyd i’r ‘X’ a chwiliwch am y trysorau cudd y mae môr-ladron y gorffennol wedi’u gadael, wrth i chi hyfforddi i fod yn fôr-leidr eich hun! Rhowch brawf ar eich sgiliau trin cleddyf gyda’r Capten Jack Sparrow. Gallwch hyd yn oed wylio rhai cartwnau am fôr-ladron yn sinema leiaf Cymru, sef La Charrette. Gallai fod yn ffordd wych o ddiweddaru eich gwybodaeth am y môr cyn cymryd rhan yn y Cwis Môr-ladron.

Mae tocynnau’n costio £8 i oedolion a £6 i blant. Mae tocynnau i deuluoedd ar gael hefyd ar wefan Canolfan Dreftadaeth Gŵyr.

Mae gwasanaethau bws 117 a 118, a gaiff eu rhedeg gan New Adventure Travel, yn aros y tu allan i Ganolfan Dreftadaeth Gŵyr. Yn ogystal, gall ymwelwyr gael 50% oddi ar bris mynediad i’r Ganolfan drwy ddangos y tocyn bws a ddefnyddiwyd ganddynt ar y diwrnod!

 

 

Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu (Pant – Torpantau)

Ewch â’r plant ar daith heb ei hail ar y trên, drwy dirwedd hyfryd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r rheilffordd yn dilyn rhan o lwybr Rheilffordd Fynyddig wreiddiol Aberhonddu a Merthyr, ac mae’n mynd o bentref Pant (sydd ychydig i’r gogledd o Ferthyr Tudful) i Dorpantau. Mae’r daith yn para awr a hanner ac mae’n cynnwys toriad o 25 munud ym Mhontsticill.

Yn ystod y daith byddwch yn teithio i mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ar hyd Cronfa Ddŵr Taf Fechan, cyn cyrraedd Torpantau ar ucheldir y Bannau. Cewch gyfle hefyd i ymweld ag un o’r ystafelloedd te hyfryd sydd yn y brif orsaf ym mhentref Pant, a gweld y gweithdy lle caiff y locomotifau stêm eu hatgyweirio.

I weld y dyddiadau y gallwch fynd ar y rheilffordd ac i brynu eich tocynnau, ewch i wefan Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu.

O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, mae gwasanaeth 35 Stagecoach yn rhedeg o’r orsaf fysiau yng nghanol tref Merthyr Tudful i fynwent Pant bob chwarter awr. Ar ddydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc, mae Globe Coaches yn rhedeg gwasanaeth bob awr ar lwybr 28, ar hyd yr un llwybr â gwasanaeth 35. Yn ogystal, mae gwasanaethau rheilffyrdd yn rhedeg rhwng Caerdydd a Merthyr Tudful.

 

 

Wythnos Oes Fictoria yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd

Camwch i’r gorffennol yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn ystod y gwyliau hanner tymor er mwyn cael profiad o fywyd yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

Rhwng 25 a 28 Chwefror, gall ymwelwyr gael eu tywys yn rhad ac am ddim o amgylch tir yr Amgueddfa a darganfod pa fath o fywyd oedd gan blant yn ystod y 19eg ganrif. Ar ôl cerdded ar hyd strydoedd cobl yr Amgueddfa, gallwch roi cynnig ar chwarae â rhai teganau traddodiadol o Oes Fictoria, megis y chwrligwgan a thaflu cylchyn – doedd dim ffonau symudol na llechi cyfrifiadurol i’w gweld yn unman bryd hynny!

Ar 1 Mawrth, gall ymwelwyr fwynhau diwrnod o weithgareddau celf a chrefft Fictoraidd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi (mae’r gweithgareddau’n rhad ac am ddim). Gallwch gael gwybod mwy ar wefan Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Mae nifer o fysiau’n rhedeg rhwng canol Caerdydd ac Amgueddfa Werin Sain Ffagan drwy gydol y flwyddyn. Mae gwasanaeth 32A Easyway yn aros ym mhrif faes parcio’r Amgueddfa, ac mae arhosfan gwasanaethau 320 a 321 ym mhentref Sain Ffagan. Mae’r teithiau hynny’n para tua 25 munud. Waun-gron yw’r orsaf reilffordd agosaf, sydd 2 filltir i ffwrdd, a chaiff y gwasanaethau yno eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru.

 

 

Taith Chwilota a Sgiliau Gwylltgrefft Sylfaenol yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro

Rhwng 16 Chwefror a 3 Mawrth, dewch i grwydro drwy'r coetir a’r ddôl blodau gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby, sy’n rhan o lwybr chwilota’r Ardd. Yn ystod eich taith, byddwch yn chwilio am y bywyd gwyllt sy’n byw yn yr Ardd ac yn cael gwobr ar y diwedd (os byddwch yn llwyddiannus)!

Yn ogystal, gall plant roi cynnig ar ddysgu Sgiliau Gwylltgrefft Sylfaenol yn ystod sesiwn sgiliau goroesi gyda’r arbenigwr, Chris Harvey-Jones, ar 26 a 28 Chwefror. Byddwch yn dysgu sut mae cynnau tân a sut mae creu lloches gan ddefnyddio deunyddiau o’r coetir. Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i blant sydd wrth eu bodd yn chwilota! Bydd tair sesiwn yn cael eu cynnal bob dydd ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Ewch i dudalen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynghylch digwyddiadau i gael gwybod mwy a chadw eich lle.

Yn Amroth y mae’r arhosfan bysiau agosaf ar gyfer Gardd Goedwig Colby. Caiff yr arhosfan ei wasanaethu gan wasanaeth 351 sy’n rhedeg rhwng Dinbych-y-pysgod a Phentywyn ac sydd hefyd yn gwasanaethu arosfannau yn Saundersfoot a Chilgeti. Mae’r orsaf drenau agosaf yng Nghilgeti sydd 2½ filltir i ffwrdd.

 

 

Gweithgareddau hanner tymor mis Chwefror yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gâr

Rhwng 23 Chwefror a 3 Mawrth, bydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn eich annog i arddio gyda chymorth llwyth o weithgareddau garddio y gall y teulu cyfan eu mwynhau. Dewch i chwilio am arwyddion o’r gwanwyn, dilyn cyrsiau tyfu tatws, chwilio am gennin Pedr a mwynhau sesiynau celf a chrefft rhwng 11am a 3pm bob dydd. Gallwch hyd yn oed ddarganfod sut i hau eich gardd fach eich hun a gofalu amdani!

Tra byddwch yno, gallwch hefyd ymweld â’r Tŷ Gwydr Mawr i ddysgu popeth am wenyn, glöynnod byw a chwilod eraill, a chael cyfle i gwrdd â rhai ohonynt. Mae’r sesiynau rhyngweithiol hyn yn ffordd wych o ddifyrru’r sawl sy’n dwlu ar bryfetach. Ond os byddwch yn ymweld â’r Ardd ar 1 Mawrth, cofiwch wisgo eich gwisg Gymreig orau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi!

Mae modd cyrraedd yr Ardd ar fysiau uniongyrchol o Abertawe a Chaerfyrddin. O Abertawe, gall ymwelwyr ddal gwasanaeth T1S o’r tu allan i Orsaf Drenau Abertawe. Mae’r gwasanaeth hwn yn teithio i’r Ardd unwaith y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn am 12:20, ac mae’r daith yn cymryd rhyw 40 munud. Mae’r bws yn ôl i Abertawe yn gadael am 16:24.
O Gaerfyrddin, gallwch ddal bws rhif 297 yn yr orsaf drenau. Mae’r daith yn cymryd 20 munud ac yn mynd â chi i fynedfa’r Ardd.

 

Ydych chi am wybod beth sydd ymlaen yn y canolbarth a’r gogledd? Gallwn ni eich helpu. Cliciwch yma i ddarganfod rhai o’r ffyrdd y gallwch dreulio eich hanner tymor yno.

 

Os oes angen unrhyw help arnoch i gyrraedd y lleoliadau y cyfeirir atynt, mae Traveline Cymru ar gael i’ch helpu.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!

 

Mae ein ap yn ffordd wych o gynllunio eich taith wrth i chi fynd o le i le. Gallwch ddefnyddio ein hadnodd Cynlluniwr Taith, chwilio am amserlenni a dod o hyd i’ch gorsaf fysiau agosaf – y cyfan mewn un man. Os oes gennych iPhone gallwch lawrlwytho’r ap ar iTunes, neu os oes gennych ddyfais Android gallwch lawrlwytho’r ap ar Google Play. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen ynghylch yr ap ar ein gwefan.

Pob blog Rhannwch y neges hon