Blog

#GetOnYourBike

Pam y dylech ystyried #MyndArEichBeic gyda Traveline Cymru dros gyfnod y Pasg eleni!

11 Ebrill 2019

  • Bydd ein Cynlluniwr Beicio yn rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam i chi ar gyfer eich taith, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol arall i’ch helpu i baratoi ymlaen llaw ar gyfer y llwybr.
  • Rhannwch eich hunluniau neu’ch lluniau o olygfeydd â ni – rhai a dynnwyd cyn neu ar ôl eich taith feicio (neu pan fyddwch yn cael seibiant ar y ffordd) – ar ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

Amcangyfrifir bod 3.27 biliwn o filltiroedd wedi’u beicio yn ystod 2017 ledled y DU, sy’n gynnydd o 29% o gymharu ag 20 mlynedd yn ôl. Mae beicio’n ffordd wych o deithio ar gyfer y sawl sy’n byw yn y wlad ac mewn dinasoedd, ac mae’r rhesymau dros hynny’n cynnwys manteision corfforol, meddyliol ac amgylcheddol teithio ar ddwy olwyn.

Dros gyfnod y Pasg eleni (ac wedi hynny!) rydym am i chi ystyried #GetOnYourBike gyda help ein Cynlluniwr Beicio. Efallai eich bod chi a’r plant am fynd ar antur beicio dros y Pasg, efallai eich bod am deithio ar y beic i’r gwaith yn y bore, efallai eich bod yn ymweld â Chymru ac am ddefnyddio ffordd wahanol o fwynhau golygfeydd hardd y wlad, neu efallai eich bod yn ystyried gadael i’r plant fynd ar y beic i’r ysgol y tymor nesaf. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, gadewch i ni eich helpu i gyrraedd y nod!

Darllenwch rai o’r prif resymau pam y dylech deithio ar y beic dros gyfnod y Pasg eleni, a sut y gall Cynlluniwr Beicio Traveline Cymru eich helpu i gynllunio eich taith yn hwylus:  

 

1. Mae’n ffordd hawdd o wneud mwy o weithgarwch corfforol bob dydd

Mae’r llywodraeth yn argymell y dylai oedolyn wneud 150 munud o ymarfer corff cymedrol bob wythnos, ac y dylai plant wneud 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd. Fodd bynnag, i lawer ohonom, efallai na fydd hynny’n ymddangos yn bosibl ynghanol prysurdeb ein bywyd o ddydd i ddydd.

Mae dewis teithio ar y beic o bryd i’w gilydd yn ffordd wych o gynnwys ymarfer corff yn nhrefn arferol eich diwrnod. Gallech deithio ar y beic i’r gwaith, gallai’r plant fynd ar y beic i’r ysgol y tymor nesaf, neu gallech fynd ar y beic i’ch stryd fawr leol neu’r parc yn ystod y penwythnos. Mae mor syml â hynny!

Mae beicio yn weithgarwch corfforol nad yw’n rhoi gormod o straen ar y corff, felly mae’n addas i bobl sydd ag ystod eang o allu a sgiliau corfforol. Mae hefyd yn fath gwych o ymarfer corff ar gyfer cadw eich calon yn iach, cryfhau eich esgyrn a’ch cyhyrau, a gwella eich sgiliau cydsymud ac ystum eich corff.

Ar Gynlluniwr Beicio Traveline Cymru, gallwch gael amcangyfrif o nifer y calorïau y byddwch yn eu llosgi yn ystod y daith. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw nodi’r man yr ydych am deithio ohono a’r man yr ydych am deithio iddo, a chewch gyfarwyddiadau cam wrth gam gennym ar gyfer eich taith. Bydd amcangyfrif o nifer y calorïau y byddwch yn eu llosgi’n ymddangos ar ochr chwith y dudalen, a fydd yn eich helpu i gadw golwg ar fanteision corfforol teithio ar y beic.

 

2. Gall ymarfer corff helpu i wella iechyd a lles meddyliol

Yn aml gall terfynau amser yn y gwaith neu’r brifysgol, arholiadau TGAU neu Safon Uwch sydd i ddod ar ôl gwyliau’r Pasg, neu broblemau bywyd o ddydd i ddydd eich llethu. Wrth i iechyd meddwl ddod yn bwnc trafod mwyfwy pwysig yn ein cymdeithas heddiw, mae manteision ymarfer corff rheolaidd o safbwynt gwella lles meddyliol yn dod yn destun trafod mwyfwy pwysig hefyd. Cymaint felly nes bod pedair gwaith yn fwy o feddygon teulu’n rhagnodi ymarfer corff fel eu prif driniaeth ar gyfer iselder ysbryd o gymharu â thair blynedd yn ôl.

Mae beicio yn weithgaredd y gallwch ei wneud ar eich cyflymder eich hun. Gallwch feicio ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, sy’n rhoi cyfle i chi dreulio ychydig o amser ar eich pen eich hun neu gymdeithasu â ffrindiau. Mae’r cyfnod pan fyddwch yn teithio ar y beic i’r gwaith neu er mwyn cwrdd â ffrindiau a pherthnasau’n adeg ddelfrydol hefyd i chi glirio eich meddwl a pharatoi ar gyfer y diwrnod sydd o’ch blaen. Y cyfan y mae’n rhaid i chi ganolbwyntio arno yw’r daith; does dim rhaid i chi feddwl am broblemau eich bywyd o ddydd i ddydd.

Hyd yn oed os taith fer yn unig yr ydych yn teimlo fel ei chyflawni er mwyn hel eich meddyliau at ei gilydd, gallwn ni eich helpu i gyrraedd y nod. Bydd gwybod popeth am y llwybr y byddwch yn ei ddilyn, cyn dechrau, gan gynnwys pryd y gallwch ddisgwyl cyrraedd pen y daith a pha mor brysur y gallai’r llwybr fod, yn eich helpu i deimlo’n hollol barod ar gyfer y daith.

 

3. Lleihau eich ôl troed carbon

Ydych chi erioed wedi meddwl faint o CO2 yr ydych yn ei gynhyrchu wrth deithio i’r gwaith yn y car? Neu wrth fynd â’r plant i dŷ ffrind? Neu wrth fynd i’r sinema dros y Pasg?

Drwy ddefnyddio ein Cynlluniwr Beicio, gallwch weld faint o CO2 y gallech ei arbed drwy fynd ar y beic. Pan fyddwch wedi nodi’r man yr ydych am deithio ohono a’r man yr ydych am deithio iddo, edrychwch ar y blwch gwybodaeth sydd ar ochr chwith y dudalen. Gallai’r canlyniadau beri syndod i chi!

Mae litr o betrol yn cynhyrchu tua 2.3 cilogram o CO2. Gall dewis teithio ar y beic (yn enwedig ar gyfer teithiau byrrach, pob dydd) helpu i leihau eich ôl troed carbon a lleihau effaith allyriadau carbon ar yr amgylchedd. Yn ogystal, mae llygredd aer yn risg enfawr i iechyd a’r amgylchedd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Ceir sy’n cynhyrchu’r lefel uchaf o lygrwyr aer, felly mae beicio’n ffordd amgen wych o helpu i leihau eich cyfraniad chi i lefelau llygredd sy’n codi, a helpu i ddiogelu iechyd cenedlaethau’r dyfodol. 

 

4. Dim rhagor o ddibynnu ar wasanaeth tacsi mam a dad!

Mae teithio ar y beic yn ffordd wych o feithrin annibyniaeth, p’un a fyddwch yn gadael i’r plant fynd ar y beic ar eu pen eu hunain i dŷ ffrind, yn cynllunio antur beicio dros wyliau’r Pasg neu’n eu hannog i fynd ar y beic i’r ysgol y tymor nesaf.

Gan ddefnyddio ein Cynlluniwr Beicio, gallwch weld manylion amrywiol a gwybodaeth ddefnyddiol am daith arfaethedig. Bydd hynny’n helpu eich plentyn i wybod sut daith y dylai ddisgwyl ei chael – a bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi. Dyma rai o’r nodweddion a fydd i’w gweld ar y dudalen sy’n rhestru’r canlyniadau yn ein Cynlluniwr Beicio:

  • Faint o amser y bydd y daith yn ei gymryd. Mae hynny’n golygu y byddwch yn gwybod pryd y dylai eich plentyn gyrraedd pen ei daith (ac y gallwch gysylltu ag ef os bydd wedi anghofio anfon neges destun i ddweud y bydd yn hwyr!) ac mae’n golygu y bydd yn gallu neilltuo digon o amser ar gyfer ei daith.
  • Pa mor brysur yw’r llwybr. Yn dibynnu ar oedran eich plentyn a’i hyder ar gefn beic, mae’n bosibl nad llwybr prysur fydd yr opsiwn gorau ar gyfer ei daith. Bydd cael y wybodaeth honno ymlaen llaw’n golygu y gallwch gynllunio a gwneud trefniadau amgen.
  • Beth yw proffil y llwybr o ran uchder y tir. Mae’n dangos faint o ddringfeydd neu ddisgynfeydd sydd ar hyd y llwybr. Gallech sgwrsio â’ch plentyn i weld a fyddai’n teimlo yn gyffyrddus yn beicio ar hyd llwybr serth tu hwnt neu lwybr sy’n cynnwys sawl bryn a goleddf.

Gallwch deimlo’n hyderus felly y bydd yn gwybod yn union ble i fynd, drwy ddilyn ein cyfarwyddiadau cam wrth gam y bydd modd iddo eu hargraffu (gyda map o’i lwybr) a mynd â nhw gydag ef.

Y llynedd buom yn cydweithio â Nation Radio ar gyfer ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel’ yr orsaf er mwyn hybu diogelwch ar y ffyrdd. Yn rhan o’r cydweithio hwnnw, aethom ati i greu blog er mwyn rhannu ein cynghorion ynghylch diogelwch wrth deithio ar y beic yn ystod y gaeaf. Efallai mai misoedd cynnes y flwyddyn sydd o’n blaen, ond mae’r cynghorion ynghylch diogelwch yn union yr un fath! Gallwch ddarllen y blog yma. 


5. Arbed amser ac arian i chi

Yn ystod traffig yr oriau brig, gall teithio ar y beic fod ddwywaith yn gynt na theithio yn y car, a bydd hynny’n eich galluogi i dreulio mwy o amser ar bethau sy’n wirioneddol bwysig i chi (nad ydynt yn cynnwys gwrando ar y plant ac oedolion eraill yn gofyn ‘ydyn ni bron yna?’ o gefn y car bob pum munud!). 

Gwnewch yn fawr o’r amser rhydd sydd gennych dros gyfnod y Pasg ac ymunwch â’ch ffrindiau, eich perthnasau a’ch cymdogion ar antur epig yn yr awyr agored. Cydiwch yn eich helmedau beicio, gwisgwch eich dillad llachar, a dewiswch drip ar y beic yn hytrach nag yn y car! P’un a oes arnoch awydd teithio o amgylch Caerdydd ar un o feiciau Nextbike neu ddilyn llwybr gwledig sy’n cynnig mwy o olygfeydd hardd drwy Fannau Brycheiniog neu Eryri, gallwn ni eich helpu i wneud hynny!

Gallwch hefyd osgoi’r drefn arferol ddiflas o fynd rownd a rownd y maes parcio’n chwilio am le i’r car, a pharcio eich beic yn saff yn un o’r rheseli niferus sydd ar gael mewn adeiladau a mannau cyhoeddus ledled Cymru. Dim car, dim problemau parcio, dim cost! Bydd cyflawni’r teithiau hyn ar gefn beic yn eich helpu hefyd i arbed arian ar betrol, ac yn eich galluogi i wario’r arian yn hytrach ar sbwylio’r plant (neu chi eich hun!).

 

Byddem yn hoffi gweld a chlywed sut hwyl yr ydych yn ei chael ar ddefnyddio Cynlluniwr Beicio Traveline Cymru dros gyfnod y Pasg eleni, a gallwch gysylltu â ni mewn sawl ffordd! Rhannwch eich hunluniau neu’ch lluniau o olygfeydd â ni – rhai a dynnwyd cyn neu ar ôl eich taith feicio (neu pan fyddwch yn cael seibiant ar y ffordd) – ar ein sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Os ydych yn defnyddio Twitter neu Instagram, defnyddiwch yr hashnod #GetOnYourBike a thagiwch ni @TravelineCymru

Os ydych yn defnyddio Facebook, gallwch anfon neges atom gyda lluniau ohonoch yn beicio, drwy ein tudalen ar gyfer Traveline Cymru.

Fel arall, gallwch anfon ebost atom yn feedback@traveline.cymru

 

Byddwn yn rhannu rhai o’n hoff luniau ar draws ein ffrydiau ar gyfryngau cymdeithasol!

 

Pasg Hapus i bawb oddi wrth y tîm yn Traveline Cymru!

 

Pob blog Rhannwch y neges hon