Blog

Focus Wales

Beth sy’n digwydd yng Ngŵyl Arddangos Ryngwladol FOCUS Wales

10 Mai 2019

Cafodd yr ŵyl gerddoriaeth ryngwladol ei lansio’n ôl yn 2010 gan Focus Wales, sy’n sefydliad dielw. Cafodd y digwyddiad ei greu i arddangos doniau newydd a chyffrous yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, ac erbyn hyn cydnabyddir mai hwn yw’r digwyddiad cerddoriaeth mwyaf o’i fath yng Nghymru.

Bob gwanwyn, bydd miloedd o ymwelwr yn tyrru i dref Wrecsam yn y gogledd i weld rhai o’r doniau newydd gorau sydd gan Gymru i’w cynnig ar gyfer y llwyfan rhyngwladol, yn ogystal â rhai o’r artistiaid gorau o bedwar ban y byd. Bydd dros 200 o fandiau yn ymddangos yn yr ŵyl eleni a byddant yn perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau cerddoriaeth ar draws 20 o lwyfannau.

At hynny, bydd amserlen lawn dop o sesiynau rhyngweithiol i’r diwydiant, perfformiadau gan gomedïwyr, digwyddiadau celf ynghyd â ffilmiau i ymwelwyr eu mwynhau. Ymunwch ag ystod o arbenigwyr cerddoriaeth mewn cyfres o sesiynau panel lle byddant yn trafod amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth heddiw.

Bydd y pynciau dan sylw’n cynnwys dyfodol lleoliadau annibynnol, iechyd meddwl a lles, trefniadau fisa i artistiaid ar ôl Brexit, hawlfraint, artistiaid a repertoire, a chyfansoddi ar gyfer byd y ffilm. Bydd mwy na digon o ddewis ar gael i chi! Isod ceir rhai o uchafbwyntiau’r digwyddiad:

 

Dydd Iau 16 Mai

  • 'Dyfodol Lleoliadau Cerddoriaeth Annibynnol yng Nghymru a’r DU’ – a fydd yn cynnwys Adam Williams (Clwb Ifor Bach a Gŵyl Sŵn), Beverly Whitrick (Yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth), Chris Hawkins (BBC Radio 6 Music), John Fischer (The Old Blue Last/ Vice) a Samantha Dabb (Rheolwr Le Public Space).
  • Araith gyweirnod: ‘Ruud Berends (Eurosonic Noordeslag)’ – Pennaeth cynhadledd Eurosonic, rheolwr ETEP a sefydlydd Networking Music, Ruud Berends (o’r Iseldiroedd) yn sgwrsio â golygydd Cylchgrawn IQ, Gordon Masson.

 

Dydd Gwener 17 Mai

  • ‘Fisâu Artistiaid: Teithio yn yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd’ – a fydd yn cynnwys Eluned Haf (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru), Joe Frankland (Sefydliad PRS), Mar Perez Unanue (Catala Arts/Llywodraeth Catalonia) a Matthew Covey (Tamizdat).
  • Araith gyweirnod: ‘20 mlynedd o Gerddoriaeth yng Nghymru gyda Bethan Elfyn a Huw Stephens’ – Huw Stephens (BBC Radio 1, 6Music, Radio Cymru) a Bethan Elfyn (BBC Radio Wales) yn sôn am 20 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

 

Dydd Sadwrn 18 Mai

  • ‘HMUK: Cynnal Lles ym maes Cerddoriaeth' – a fydd yn cynnwys Liam Hennessy (Help Musicians UK), Matt Hill (Cerddor, Quiet Loner), Phil Bridges (The Mind Map) a Rachel Jepson (Counselling for Musicians).
  • Araith gyweirnod: ‘Ben Barlow - Neck Deep’ – Ben Barlow, prif leisydd Neck Deep, yn sôn am y profiad o gael dau albwm yn y 10 uchaf yn y DU a’r Unol Daleithiau ac am chwarae mewn lleoliadau enwog ledled y byd, a’r rheini dan eu sang, ac yntau ond yn 24 oed.

Rydym yn hynod falch o noddi’r digwyddiad arbennig hwn a fydd yn arddangos rhai o’r doniau newydd gorau sydd gan Gymru i’w cynnig, ac a fydd yn trafod rhai o’r materion pwysig y mae’r diwydiant cerddoriaeth yn eu hwynebu heddiw.

Bydd tîm Traveline Cymru yn y digwyddiad ddydd Gwener a dydd Sadwrn, felly dewch draw i’n stondin i ddweud helo! Gallwch ddysgu mwy am sut y gallwn eich helpu i gynllunio eich teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan ddefnyddio’r amrywiaeth o wasanaethau yr ydym yn eu cynnig, Mae’r rheini yn cynnwys ein gwefan, ein ap a’n rhif Rhadffôn.

 

Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?

Isod, fe welwch chi rai dolenni cyswllt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich taith i’r digwyddiad. Gall defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal fod yn ffordd wych o gyrraedd y ddinas a’ch arbed rhag gorfod poeni am ddod â’r car.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!

Pob blog Rhannwch y neges hon