Blog

Mynyddoedd Eryri

Hoffech chi ddod i adnabod Cymru yn well? Os felly, dyma 5 lle y gallech fynd iddynt er mwyn gwneud hynny!

20 Mai 2019

Gan Natalie Wilson

Mae Cymru yn wlad sy’n orlawn o bethau anhygoel i’w gwneud a’u gweld – ein hardaloedd hardd o gefn gwlad, ein trefi a’n dinasoedd cyfeillgar a’n traethau trawiadol. Bydd llawer o bobl sy’n ymweld â Chymru am y tro cyntaf yn mynd oddi yma gan synnu a rhyfeddu at yr holl bethau y maent wedi cael cyfle i’w gweld a’u gwneud – a hynny am reswm da!

O draethau Llandudno i holl fwrlwm dinas Caerdydd, mae yna rywbeth at ddant pawb ym mhob cwr o Gymru. Dyma 5 lle y dylech geisio mynd iddynt os hoffech ddod i adnabod Cymru yn well!

 

Aber Afon Mawddach

Dyma leoliad delfrydol os ydych yn hoffi cerdded neu feicio. Caiff Aber Afon Mawddach yn y gogledd ei ystyried yn un o aberoedd harddaf Ewrop. Dyma lle mae Afon Mawddach yn cwrdd â’r môr, ynghanol y mynyddoedd a’r tir eang tywodlyd, ac mae yma olygfeydd godidog a digon o fannau agored i grwydro o’u hamgylch os ydych yn chwilio am antur awyr agored ar gyfer y gwyliau hanner tymor. Gall ymwelwyr ymlwybro ar hyd Llwybr Mawddach sy’n ymestyn o Ddolgellau i Forfa Mawddach. Mae’r llwybr hwn yn llwybr perffaith ar gyfer cerddwyr dibrofiad a phrofiadol fel ei gilydd, ac mae’n rhan o Rwydwaith Beicio Sustrans ar draws Cymru. Dyma’r adeg ddelfrydol i ystyried #MyndArEichBeic

Gorsaf Drenau Morfa Mawddach a Gorsaf Drenau Abermo sydd agosaf at Aber Afon Mawddach a Llwybr Mawddach; mae gwasanaeth bws T3 TrawsCymru hefyd yn gwasanaethu’r ardal gyfagos. Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i chwilio am y llwybr mwyaf cyfleus ar gyfer eich taith.

 

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol gallwch edmygu’r amrywiaeth eang o blanhigion a blodau sydd wedi’u gwasgaru ar draws 568 erw o barcdir hyfryd yn Sir Gâr. Mae’r Ardd, sy’n cynnwys cymysgedd o adeiladau hanesyddol a thra modern, wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae ei harddangosfeydd garddwriaethol, ei dolydd blodau a’i llynnoedd trawiadol yn denu ymwelwyr o bell.

Yma gallwch fynd o amgylch y byd ac ymweld â chelli coed olewydd o Sbaen, ymlwybro rhwng planhigion ffiwsia o Chile, a hyd yn oed ymweld â’r hyn sy’n weddill ar ôl tân mewn gwylltir yn Awstralia.

Mae Gorsaf Drenau Caerfyrddin 8 milltir i ffwrdd o’r Ardd, a chaiff ei gwasanaethu’n rheolaidd gan drenau sy’n mynd yn eu blaen i ardaloedd yn nwyrain a gorllewin Cymru. Mae gwasanaeth 279 a gwasanaeth T1S TrawsCymru yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r Ardd unwaith y dydd.

 

Ffynnon Gwenffrewi

Delwedd: Ffynnon Gwenffrewi

 

Os hoffech ddysgu rhywfaint am hanes lleol mae Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint yn siŵr o ddal eich sylw. Dioddefodd Gwenffrewi, a oedd yn ferch i un o benaethiaid Cymru, farwolaeth erchyll yn y flwyddyn 660 pan ddaeth ei chariad i wybod am ei bwriad i droi’n lleian, a thorri ei phen i ffwrdd.

Mewn un fersiwn o’r stori dywedir bod pen Gwenffrewi wedi rholio i lawr y bryn a bod ffynnon iacháu wedi ymddangos yn y man lle daeth ei phen i stop. Medrodd ewythr Gwenffrewi roi ei phen yn ôl ar ei chorff, ac mae wedi’i hanrhydeddu yn santes byth ers hynny.

Mae’r ffynnon wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers tua 1300 o flynyddoedd, ac ni all yr un ffynnon arall ym Mhrydain ei churo o ran hynny. Mae ymwelwyr yn tueddu i ymweld â’r capel gan fynd i’r gysegrfa sanctaidd, y ffynnon a’r pwll ymdrochi. Yn y pwll mewnol saif Maen Beuno â chanopi bwaog uwch ei ben. Credir i’r maen gael ei osod yno gan Margaret Beaufort (mam Harri’r VII). Y tâl mynediad rhataf yw 60c ac mae’r elw a wneir o bob tâl mynediad yn mynd tuag at ofalu am y gysegrfa a’r ffynnon.

Caiff yr ardal ei gwasanaethu’n dda gan nifer o lwybrau bws, gan gynnwys gwasanaethau 11M ac 11G Arriva Cymru a gwasanaethau 18 ac 19 P&O Lloyds.

 

Castell Penfro

Delwedd: Castell Penfro Facebook

 

Dylai pawb ymweld â Chastell Penfro rywbryd neu’i gilydd. Cafodd y castell ei adeiladu gan y Norman, Roger de Montgomery, yn ôl yn 1093 wedi iddo ddechrau rheoli’r dref. Yma y ganwyd Harri Tudur, a dioddefodd y castell lawer o ymosodiadau milwrol yn ystod y Rhyfel Cartref.

Yn 1928 cafodd y castell ei brynu gan yr Uwchfrigadydd Syr Ivor Philipps, cyn-filwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf a enillodd fedalau lawer, a dechreuodd adnewyddu ac ailddatblygu’r castell yn helaeth. Ni fyddai’r un ymweliad â Chastell Penfro yn gyflawn heb gyfle i fynd o amgylch yr ystafelloedd arddangos, a dyma un o’r lleoedd gorau i ddysgu am hanes Cymru, diolch i’r murluniau, y panelau a’r cerfluniau. Mae’r castell hefyd yn cynnal digwyddiadau tymhorol drwy gydol y flwyddyn, felly cofiwch edrych beth sydd ymlaen pan fyddwch yn cynllunio eich ymweliad!

Mae Gorsaf Drenau Penfro 15 munud o waith cerdded o’r castell. Mae arhosfan bysiau y tu allan i fynedfa’r castell hefyd, sy’n gwasanaethu gwasanaeth 348 (Hwlffordd – Monkton drwy Johnston a Doc Penfro), gwasanaeth 349 (Hwlffordd – Dinbych-y-pysgod) a gwasanaeth 356 (Aberdaugleddau – Monkton drwy Ddoc Penfro).

 

Mynyddoedd Eryri

Bydd pawb sy’n hoff o’r awyr agored wrth eu bodd yn ymweld ag Eryri. Fyddwch chi ddim yn brin o syniadau i gael hwyl gyda’r teulu neu ryfeddodau byd natur i’w hedmygu ynghanol yr holl dirweddau gwyllt, y llwybrau cerdded a beicio, a’r rhaeadrau a’r llynnoedd naturiol.

Mae’n debyg y bydd pawb sy’n meddwl am Gymru yn meddwl am Eryri a’i chadwyn hardd o fynyddoedd yng Ngwynedd. Mae’r gadwyn yn cynnwys 14 o gopaon sydd dros 3,000 troedfedd o uchder, a’r enwocaf yn eu plith yw’r Wyddfa, wrth gwrs, sy’n ymestyn 3,546 troedfedd uwchlaw’r ddaear. Gallwch gyrraedd y copa ar drên os nad ydych am ddefnyddio eich egni i gerdded.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn oddeutu 823 milltir sgwâr o faint, sy’n golygu ei fod yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y DU ar gyfer y sawl sy’n hoffi cerdded a dringo. Os hoffech fynd ar daith fwy hamddenol drwy olygfeydd godidog ewch ar drên bach yr Wyddfa, sy’n 100 oed ac sy’n teithio ar gyflymder o 5 milltir yr awr yn unig.

Gallwch gyrraedd Parc Cenedlaethol Eryri drwy gysylltiadau mewndirol ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy’n mynd drwy’r Parc i Fetws-y-coed a Blaenau Ffestiniog. Mae gwasanaethau bws Sherpa’r Wyddfa yn ffordd wych o deithio o amgylch y Parc ar ôl i chi gyrraedd.

 

Mae Natalie Wilson yn awdur llawrydd sy’n arbenigo ar deithio, a gall gynnig cyngor ynghylch unrhyw beth o hanfodion pacio i drysorau cudd. Pan na fydd yn ysgrifennu, gellir gweld Natalie yn darllen llyfr da dros baned neu’n cynllunio ei thaith i’w chyrchfan nesaf. Bu’n gweithio yn flaenorol i gwmnïau megis yr Arolwg Ordnans, SmartSave ac IAS. Gallwch gysylltu â hi ar Twitter @NatWilson976.

Pob blog Rhannwch y neges hon