Gwybodaeth ynghylch data ar gyfer rhanddeiliaid

Mae gan ein tîm Data ffeiliau TransXchange ffisegol yr ydym yn eu darparu ar gyfer nifer o randdeiliaid, er mwyn i’r ffeiliau gael eu cynnwys mewn systemau trydydd partïon fel rheol. Mae’r ffeiliau hyn yn cynnwys yr holl ddata gofynnol, o safbwynt amserlenni a mapiau, ar gyfer pob gwasanaeth unigol yng Nghymru.

Mae’r ffeiliau TransXchange ar gael i chi, ond os hoffech gael mynediad iddynt dylech gysylltu â’n tîm Data yn y cyfeiriad e-bost canlynol: data@tfw.wales. Yna, gallwn drefnu’r dull gorau o’u trosglwyddo i chi.

 

Adnoddau pellach:

I gael rhagor o wybodaeth am TransXchange, dilynwch ddolen gyswllt yr Adran Drafnidiaeth yma: https://www.gov.uk/government/collections/transxchange

I gael gwybodaeth am fynediad i’r Set Ddata Genedlaethol, NaPTAN ac NPTG, ewch i wefan Traveline Data yma http://www.travelinedata.org.uk/.