Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Digwyddiadau

Latest Tweets

@TravelineCymru RT **CUSTOMER NOTICE** Due to an operational issue the 16:25 60 service from Monmouth to Newport will be running late.… https://t.co/h60ma70nc3
@TravelineCymru RT #Porth Svc Update: 122 Svc from #Tonypandy To #Cardiff @ 8:35 will resume from #Danescourt @ 9:45 due to an earlier issue.
@TravelineCymru RT #Aberdare - The 11:30 172 service from Porthcawl to Aberdare will resume service from Bridgend at 11:55 following t… https://t.co/xXgbqyrLbg
@TravelineCymru Have you followed us on Instagram yet? See what happens as the Traveline Cymru team go out and about at the events… https://t.co/8I8NSV6jPI
@TravelineCymru Ydych chi wedi dechrau ein dilyn ar Instagram eto? Mae’n gyfle i weld beth sy’n digwydd pan fydd tîm Traveline Cymr… https://t.co/AAFXJteAbe
Earth

Capsiwl Gofod Tim Peake- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, o 15 Tachwedd 2018 tan Chwefror 2019

Capsiwl TMA-19M Soyuz oedd y capsiwl gofod a ddefnyddiwyd gan y gofodwr Tim Peake a’i griw i deithio’n ôl ac ymlaen i’r Orsaf Ofod Ryngwladol. Cafodd ei lansio’n llwyddiannus ar 15 Rhagfyr 2015 a dychwelodd chwe mis yn ddiweddarach i Kazakhstan.

Bydd modd gweld y darn anhygoel hwn o hanes rhwng 15 Tachwedd 2018 a 10 Chwefror 2019 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn rhan o daith y capsiwl i bob cwr o’r DU. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i fynd yn agos i’r capsiwl a chael gweld hyd yn oed y marciau llosg sydd ar haenen allanol y strwythur, a achoswyd pan ddychwelodd y capsiwl i atmosffer y Ddaear!

Yn ogystal, gallwch chithau brofi taith 250 milltir Tim Peake yn ôl i’r Ddaear drwy eistedd y tu mewn i ddyfais lle gallwch ail-fyw’r siwrnai’n ôl o’r gofod. Caiff y profiad rhithwir hwn, ar gyfer ymwelwyr 13 oed a hŷn, ei ddisgrifio gan Tim Peake ei hun! Mae tocynnau ar gael am £6.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa ar wefan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ddinas, ac mae modd ei chyrraedd yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus. O Orsaf Fysiau Ganolog Caerdydd, ewch ar fws rhif 53 neu 85 i’r amgueddfa. O Fae Caerdydd, ewch yno ar fws baycar rhif 6. Yr orsaf drenau agosaf yw gorsaf Cathays, sydd tua 5 munud o waith cerdded o’r amgueddfa. Mae’r amgueddfa ryw 20 munud o waith cerdded o Orsaf Reilffordd Caerdydd Canolog.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

< Pob digwyddiad