Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud

Ffoniwch ni: 0800 464 00 00

Digwyddiadau

Latest Tweets

@TravelineCymru RT From 3 March, most Neath Port Talbot College services will have new - EARLIER - times to morning journeys on routes… https://t.co/s3VxTkEgxj
@TravelineCymru RT ***Routes 12/13/4S Chester depot *** Broughton Hall Road will be closed for 2 weeks as of Monday 25th February, b… https://t.co/CBfNNDmufo
@TravelineCymru RT #Aberdare the 10:45 172 service Bridgend to Porthcawl is not running due to technical difficulties. also the 11:30… https://t.co/Ak5sKe1HyY
@TravelineCymru RT ***SERVICE UPDATE*** The 10.45 X13 Ammanford to Swansea is currently running 19 mins late. Apologies for the inconvenience.
@TravelineCymru RT Don't forget! Service changes from 3 March will affect some services in Swansea, Neath Port Talbot and Bridgend. Fu… https://t.co/YO7rve0PNc
Rhyl 10 Mile Run

Ras 10 Milltir y Rhyl - 23 Chwefror 2019

Bydd Ras 10 Milltir y Rhyl yn cael ei chynnal ar hyd y darn godidog hwn o arfordir y gogledd ar 23 Chwefror 2019. Gan ddechrau am 10am, bydd y rhedwyr yn gallu anadlu aer y môr a mwynhau golygfeydd ysblennydd o’r arfordir wrth iddynt ddilyn y llwybr o’r SeaQuarium tuag at Glwb Golff Prestatyn, cyn troi’n ôl i groesi’r llinell derfyn.    

Mae’r cwrs yn un gwastad a chyflym sy’n golygu bod y ras yn ddelfrydol i redwyr profiadol a dechreuwyr fel ei gilydd. Mae’r ffi ar gyfer cymryd rhan yn y ras yn amrywio o £24 i £26 ac mae’n cynnwys medal a chrys-T. Rhaid i redwyr fod yn 17 oed neu’n hŷn, a gallwch gofrestru ar gyfer y Ras 10 Milltir ar wefan y digwyddiad.

Os nad ydych yn teimlo’n barod i redeg 10 milltir eto, beth am gymryd rhan yn y Ras Hwyl? Bydd y ras hon, sy’n fyrrach, yn dechrau am 9:15am a gall rhedwyr o bob oed gymryd rhan ynddi. Gallwch gofrestru ar y dydd, a’r ffi yw £3 y pen. Rhaid i blant sy’n 9 oed neu’n iau gael cwmni oedolyn i redeg y ras.

Mae croeso i bobl ddod i wylio’r rasys ac annog y rhedwyr yn eu blaen. Ewch draw i ddangos eich cefnogaeth!

 

Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?

Mae gorsaf fysiau a gorsaf drenau’r Rhyl o fewn pellter cerdded byr i bencadlys y rasys, yng Ngorsaf Bad Achub yr RNLI, ac i linell gychwyn a llinell derfyn y rasys.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

< Pob digwyddiad