Newyddion

Traveline Cymru Logo

Cefnogaeth First i ddyn lleol yn rhoi hwb i’w ymdrechion i godi arian er budd elusen ganser

20 Ionawr 2014

Datganiad i’r wasg

Mae ymdrechion Gofal Canser Maggie’s i godi arian wedi cael hwb sylweddol yn dilyn taith feicio elusennol a gwblhawyd er budd yr elusen gan David Whitehead (65), sy’n ŵr lleol o Gilâ yn Abertawe.

Bu David, sydd wedi ymddeol o’i swydd ym maes llywodraeth leol ac a arferai weithio i Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cymryd rhan mewn taith feicio elusennol heriol o Baris i Barcelona yr haf diwethaf, gan godi £1,700 i Ofal Canser Maggie’s. Ers hynny, mae ei ymdrechion i godi arian wedi cael hwb gan First Cymru sydd, drwy ei Bwyllgor Elusennau a Nawdd, wedi ychwanegu £800 arall at ei gyfanswm. Bu First yn gweithio gyda David, yn ystod ei yrfa, ar faterion sy’n effeithio ar drafnidiaeth leol, ac roedd y cwmni’n falch iawn o allu ei helpu i gyrraedd ei darged cyffredinol ar gyfer codi arian.

Meddai Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru, wrth sôn am y penderfyniad i gyfrannu £800 at her feicio elusennol David: “Roedd gan David gysylltiad ers amser â First - drwy ei waith gyda Chyngor Abertawe ac, ar un adeg, drwy ei waith gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru - nes iddo ymddeol rai blynyddoedd yn ôl. Mae ein staff yn ei adnabod yn dda, ac roeddwn yn hynod o falch fy mod wedi gallu cefnogi ei gais i’n Pwyllgor Elusennau a Nawdd.

“Wrth gwblhau’r daith feicio, llwyddodd David i godi swm sylweddol o arian i Ganolfan Gofal Canser Maggie’s yn Abertawe, a bydd hynny yn ei dro’n helpu llawer mwy o bobl o’r de a’r gorllewin. Mae’r ganolfan yn darparu cymorth ymarferol, emosiynol a seicolegol i bobl y mae canser yn effeithio arnynt, a hynny mewn adeiladau cartrefol sy’n wirioneddol ysbrydoledig, ac mae’r effaith y mae gwaith y ganolfan yn ei chael yn bellgyrhaeddol. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch David ar gwblhau’r daith feicio ac ar godi cymaint o arian i achos lleol sydd mor werthfawr.”

Cwblhaodd David Whitehead y daith feicio o Baris i Barcelona yr haf diwethaf. Gadawodd Baris ar 27 Gorffennaf a chyrhaeddodd Barcelona – sydd ryw 650 milltir i ffwrdd – ar 4 Awst. Wrth sôn am ei brofiad, meddai: “Cefais fy ysbrydoli i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn gan fy meibion sy’n mwynhau heriau corfforol caled, ac ar ôl meddwl am ychydig penderfynais fy mod i’n barod ar gyfer yr antur. Doedd y daith ddim yn hawdd, ond roeddwn i’n hynod o falch fy mod i wedi cwblhau’r daith gyda grŵp o bobl a oedd mor ymroddedig, cefnogol a gofalgar, gan lwyddo i godi swm mor sylweddol o arian i elusen Maggie’s. Roedd yr holl hyfforddi a’r holl waith caled yn werth yr ymdrech, felly. Mae Canolfannau Canser Maggie’s yn lleoedd anhygoel sy’n llawn haeddu ein cefnogaeth. Rwyf i, fel llawer o bobl eraill, yn adnabod pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser, ac nid oes dim yn fwy trychinebus na chael newyddion o’r fath. Ond mae sefydliadau fel Gofal Canser Maggie’s yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yn helpu pobl i ymdopi pan fydd y newyddion mwyaf annisgwyl yn eu taro. Hoffwn ddiolch i First am y gefnogaeth a gefais, a hoffwn ddiolch hefyd i bawb arall a fu’n gweithio er budd yr achos ac a fu’n fy nghefnogi gyda fy nhaith feicio a’m hymdrechion i godi arian.”

Caiff Pwyllgor Elusennau a Nawdd First, a sefydlwyd yn 2007, ei reoli gan staff rhwydweithiau bysiau a threnau’r cwmni. Ei nod yw cefnogi grwpiau a sefydliadau sydd o fudd i blant, neu achosion sy’n ymwneud ag iechyd neu’r amgylchedd, yn y cymunedau y mae First yn eu gwasanaethu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae First wedi rhoi dros £80,000 i grwpiau ac elusennau gwerth chweil yn y DU.

Yn ogystal â chyfrannu arian drwy’r Pwyllgor Elusennau a Nawdd, mae First Cymru hefyd wedi ffurfio partneriaethau ag elusennau cenedlaethol, sef Cymorth Canser Macmillan ac Achub y Plant.

I gael rhagor o wybodaeth am First Cymru neu weld gwybodaeth am amserlenni bysiau lleol, ewch i: www.firstgroup.com/cymru. Mae gan First Cymru gyfrifon Facebook a Twitter hefyd: www.facebook.com/FirstCymrubuses a www.twitter.com/FirstCymru.


DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon