Newyddion

Richard Jones Express Motors

Cwmni bws yn penodi rheolwr cyffredinol cyntaf, newydd

10 Chwefror 2014

Datganiad I'r Wasg

Cwmni bws yn penodi rheolwr cyffredinol cyntaf, newydd

Mae cwmni teuluol Express Motors, Penygroes, Caernarfon newydd apwyntio rheolwr cyffredinol cyntaf newydd.

Mae cwmni Express Motors wedi apwyntio Richard Jones fel ei reolwr cyffredinol cyntaf newydd, oedd yn flaenorol yr Uwch Swyddog Cludiant Cyhoeddus i Gyngor Gwynedd a hefyd yn ddiweddar yn rheolwr cyffredinol llwyddiannus i gwmni Lloyds Coaches o Fachynlleth.

Dywedai Mr Eric Wyn Jones, perchennog Express Motors "Mae gan Richard gefndir llwyddiannus trawiadol yn niwydiant trafnidiaeth ac wedi ei gysylltu gyda nifer o wobrwyon cenedlaethol y diwydiant. Teimlwn felly y bydd Richard yn ased pwysig iawn yn symud ein cwmni ymlaen yn y ffordd y gwnaethpwyd mewn man arall".

Dywedai Richard Jones, yn enedigol o Flaenau Ffestiniog ac yn byw yn ardal Porthmadog "Roeddem wedi llwyddo cyn gymaint yng nghwmni Lloyds dros y pedair blynedd a hanner diwethaf. Cefais gynnig y swydd fel cynghorwr/datblygwr busnes yn gychwynnol yn Express Motors oedd yn galluogi i mi wario mwy o amser gyda'm teulu gan fod eu swyddfeydd yn agosach i'm cartref. Ond tuag at ddiwedd yr wythnos gyntaf gyda'r cwmni penderfynwyd fy mhenodi yn rheolwr cyffredinol newydd cyntaf y cwmni er mwyn symud y cwmni ymlaen i'r lefel nesaf fel y gwnaethpwyd yn Lloyds. Wedi chwarae rhan allweddol flaengar yn Lloyds wnes dderbyn y swydd ar unwaith gyda'r cyfle i chwarae rhan allweddol a phositif unwaith yn rhagor yn siapio dyfodol cwmni mor bwysig I Ogledd Cymru".

Bydd Richard wedi ei leoli yn swyddfa'r cwmni ym Mhenygroes. Yn barod mae gan y cwmni gyfeiriad e-bost proffesiynol newydd info@expressmotors.co.uk yn ogystal â phresenoldeb newydd ar Facebook a Twitter.

Cafodd cwmni Express Motors ei sefydlu yn 1909 gyda'r teulu presennol yn berchnogion ers 1977. Mae'r cwmni yn gweithredu fflyd gymysg o gerbydau o wneuthur Alexander Dennis ac Optare yn ogystal â fflyd fodern o gerbydau moethus sydd yn cynnwys cerbyd trawiadol 68 sedd deulawr Vanhool Altano oedd yn newydd i'r cwmni'r llynedd. Mae'r cwmni yn aros am yr ail gerbyd newydd deulawr diweddar Enviro 400 i'r fflyd fydd yn gweithredu rhwng Blaenau Ffestiniog a Bangor o'r 1af o fis Mawrth eleni.

 

 

DIWEDD


 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon