Newyddion

CILT Award win

Traveline Cymru yn cipio un o wobrau cenedlaethol y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) ar gyfer 2014

14 Mai 2014

Ddydd Gwener 9 Mai, roeddem yn bresennol yn y seremoni ar gyfer cyflwyno Gwobrau Cenedlaethol Trafnidiaeth a Logisteg 2014 CILT yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwella Profiadau Cwsmeriaid, ar ôl i ni gyflwyno ein gwasanaeth gwybodaeth am brisiau tocynnau.

Mae’r prosiect wedi golygu llawer iawn o waith caled gan y tîm, yn ogystal â chefnogaeth gan gwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Ar ôl gwrando ar adborth gan bobl sy’n teithio yng Nghymru, cynnig gwybodaeth am brisiau tocynnau oedd y cam nesaf o safbwynt darparu gwasanaeth cyflawn, llawn gwybodaeth i’n cwsmeriaid. Edrychwn ymlaen at barhau i ymateb i anghenion ein cwsmeriaid yn y dyfodol.

General Manager Graham Walter Accepting the Award

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon