Newyddion

Cardiff Council Logo

Ymgynghoriad ar Orsaf Fysus Ganolog Caerdydd 2014

14 Awst 2014

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio’n agos â phartneriaid i gyflawni ‘cyfnewidfa drafnidiaeth’ newydd o’r radd flaenaf i’r ddinas. Bydd hyn yn cynnwys datblygiad newydd i integreiddio teithio ar drenau, bysus, tacsis a beicio, gyda chyfleusterau gollwng/casglu teithwyr a mynediad rhwydd i gerddwyr symud o amgylch y ddinas.

Bydd y gyfnewidfa newydd yn ei gwneud hi’n haws i drigolion, ymwelwyr a chymudwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn annog pobl sy’n teithio i ganol y ddinas i beidio â defnyddio’u ceir. Mae’r Cyngor bellach yn berchen ar y Sgwâr Ganolog, sef y tir i’r gogledd o’r rheilffordd bresennol yn Orsaf Caerdydd Canolog, ac yn ei rheoli, ac mae’r ardal adfywio hon yn flaenoriaeth bwysig i’r Cyngor.

Dweud eich dweud

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon