Newyddion

Nato Summit

Uwchgynhadledd NATO 2014 – Gwybodaeth am deithio

20 Awst 2014

Uwchgynhadledd NATO 2014 – Gwybodaeth am deithio

Bydd Uwchgynhadledd NATO yn cael ei chynnal yng Nghymru ddydd Iau 4 Medi a dydd Gwener 5 Medi. Fodd bynnag, mae’r trefniadau eisoes yn amharu’n sylweddol ar draffig a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio, ewch bob dydd i’n tudalen gwybodaeth am deithio adeg Uwchgynhadledd NATO neu gallwch ein dilyn hefyd ar Twitter @TravelineCymru

Dylech ddisgwyl oedi a chaniatáu digon o amser ar gyfer eich taith.

C. Sut gallaf gael gwybod a fydd Uwchgynhadledd NATO yn effeithio ar fy nhaith ar drafnidiaeth gyhoeddus?

A. Yn anffodus, ni allwn ddiweddaru’r tudalennau Cynlluniwr Taith, Darganfod Amserlen a Chwiliwr Arosfannau Bws ar ein gwefan â gwybodaeth amser real am y gwasanaethau bws a thrên y bydd Uwchgynhadledd NATO yn effeithio arnynt.

Gallwch wirio’r wybodaeth uchod, neu gallwch geisio ein ffonio ar 0871 200 22 33 rhwng 7am ac 8pm bob dydd (bydd galwadau o linell ffôn BT mewn tŷ’n costio 10c y funud yn ogystal â chost cysylltu, sef 6c, a gallai cost galwadau o rwydweithiau eraill a ffonau symudol fod dipyn yn uwch na hynny).

**I gael y wybodaeth ddiweddaraf dros y penwythnos, dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru neu ffoniwch ni ar 0871 200 22 33**

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Llywodraeth y DU ar gyfer Uwchgynhadledd NATO.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon