Newyddion

Traveline Cymru Logo

Rydym wedi penderfynu newid!

21 Awst 2014

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn bwriadu newid i enw parth .cymru gyda llond llaw o sefydliadau cychwynnol eraill sydd wedi penderfynu mabwysiadu’r cyfeiriadau rhyngrwyd newydd yn nes ymlaen eleni.

Rydym yn ymuno â deg ar hugain o sefydliadau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol ac S4C, mewn Rhaglen Sefydlwyr, sy’n dangos ein hymrwymiad i fabwysiadu’r enwau parth .cymru a .wales cyn iddynt gael eu lansio’n swyddogol.

Yn gynharach eleni rhoddodd ICANN, sef cydlynwyr holl system enwau parth y we, ganiatâd i fusnesau a defnyddwyr gael cyfeiriadau rhyngrwyd a oedd yn gorffen â .cymru a .wales.

Bwriad y ddau enw parth hyn ar y lefel uchaf yw helpu i farchnata Cymru i’r byd, a byddant yn cael eu rheoli a’u gweithredu gan Nominet, sef y bobl sydd wedi bod yn rhedeg .co.uk yn llwyddiannus ers 1996.

Gan ein bod wedi darparu dros 3.88 miliwn o ddarnau o wybodaeth i bobl yn 2013, rydym yn gwybod bod y galw am wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn tyfu’n aruthrol. Mae ein hystod o wasanaethau a’n hamrywiaeth o sianelau’n eich galluogi chi, ein cwsmeriaid, i gael gafael ar y wybodaeth y mae arnoch ei hangen, pan fydd arnoch ei hangen ac yn y man lle mae arnoch ei hangen, boed gartref, yn y gwaith neu wrth deithio o le i le.

Mae newid i enw parth .cymru yn cyd-fynd â’n brand ac yn adlewyrchu’r gwasanaeth unigryw a hanfodol yr ydym yn ei ddarparu i’r sawl sy’n teithio yng Nghymru.

Bydd yn cyd-daro â’r gwaith o ddiweddaru ein brand a’n gwefan, a bydd yn ein galluogi i barhau i fod yn wahanol i weithredwyr eraill Traveline ledled y DU, gan sicrhau ei bod yn hawdd i’n defnyddwyr yng Nghymru adnabod ein gwasanaethau.

Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y manylion diweddaraf am gynnydd, felly cadwch eich llygaid ar agor am hynny!

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon