Newyddion

2014

17 Tac

Richard Workman yn cael ei benodi’n Gadeirydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr

Mae Richard Workman wedi cael ei benodi’n Gadeirydd newydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Traveline Cymru.
Rhagor o wybodaeth
10 Tac

Agor Gorsaf Reilffordd Pye Corner ddydd Sul 14 Rhagfyr 2014

Mae’r Farwnes Susan Kramer, Gweinidog y DU dros Drafnidiaeth, wedi cyhoeddi bod disgwyl i orsaf reilffordd newydd agor yn Pye Corner ddydd Sul 14 Rhagfyr.
Rhagor o wybodaeth
29 Hyd

Newidiadau i amserlenni er mwyn gwella gwasanaethau bws First Cymru

O ddydd Sul 2 Tachwedd ymlaen, bydd First Cymru yn cyflwyno rhai newidiadau er mwyn helpu i wella gwasanaethau a helpu bysiau i gyrraedd yn brydlon.
Rhagor o wybodaeth
10 Hyd

Seremoni Wobrwyo ar gyfer gwaith Cynllunio Teithio yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd

Ddydd Iau 16 Hydref, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal ail Seremoni Wobrwyo flynyddol y De-ddwyrain ar gyfer gwaith Cynllunio Teithio.
Rhagor o wybodaeth
21 Aws

Rydym wedi penderfynu newid!

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn bwriadu newid i enw parth .cymru gyda llond llaw o sefydliadau cychwynnol eraill sydd wedi penderfynu mabwysiadu’r cyfeiriadau rhyngrwyd newydd yn nes ymlaen eleni.
Rhagor o wybodaeth
20 Aws

Uwchgynhadledd NATO 2014 – Gwybodaeth am deithio

Bydd Uwchgynhadledd NATO yn cael ei chynnal yng Nghymru ddydd Iau 4 Medi a dydd Gwener 5 Medi. Fodd bynnag, mae’r trefniadau eisoes yn amharu’n sylweddol ar draffig a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Rhagor o wybodaeth
14 Aws

Ymgynghoriad ar Orsaf Fysus Ganolog Caerdydd 2014

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio’n agos â phartneriaid i gyflawni ‘cyfnewidfa drafnidiaeth’ newydd o’r radd flaenaf i’r ddinas.
Rhagor o wybodaeth
07 Aws

Lansio gwasanaeth bws T1 newydd

Ar 4 Awst 2014, lansiodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart y gwasanaeth bws T1 newydd rhwng Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth ym Mhrifysgol Llambed.
Rhagor o wybodaeth
09 Gor

Gwaith datblygu systemau a chyfle i gymryd rhan mewn arolwg ynghylch ein ap

Ar ôl llawer o gynllunio ac ymchwilio, mae ffurfiau modwlar newydd ar yr holl systemau wedi’u harchebu a dylent fod ar waith yn llawn erbyn mis Chwefror 2015.
Rhagor o wybodaeth
30 Mai

Mapiau Google yn cynnwys gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus

Mae Google wedi diweddaru ei wefan fapiau drwy ychwanegu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer Prydain Fawr i gyd.
Rhagor o wybodaeth
30 Mai

Cwmni Bysiau Padarn yng Ngwynedd yn cau nos Wener 30 Mai 2014

Bydd cwmni Bysiau Padarn, sy’n rhedeg gwasanaethau bws o Fangor, Caernarfon, Llanberis a draw i Fiwmares ar Ynys Môn, yn cau am hanner nos, nos Wener 30 Mai. Mae’n debyg y bydd hynny’n golygu rhai newidiadau i wasanaethau bws lleol yn ardaloedd Arfon ac Ynys Môn yn ystod yr ychydig ddiwrnodau nesaf.
Rhagor o wybodaeth
14 Mai

Traveline Cymru yn cipio un o wobrau cenedlaethol y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) ar gyfer 2014

Ddydd Gwener 9 Mai, roeddem yn bresennol yn y seremoni ar gyfer cyflwyno Gwobrau Cenedlaethol Trafnidiaeth a Logisteg 2014 CILT yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwella Profiadau Cwsmeriaid, ar ôl i ni gyflwyno ein gwasanaeth gwybodaeth am brisiau tocynnau.
Rhagor o wybodaeth
08 Mai

Wythnos Cerdded i’r Ysgol

Rydym yn annog teuluoedd o bob cwr o Gymru i roi cynnig ar gerdded i’r ysgol yn rhan o’r Wythnos Cerdded i’r Ysgol, gan annog rhieni ac athrawon plant ysgol i adael y car gartref a cherdded rhan o’r ffordd neu’r holl ffordd i’r ysgol.
Rhagor o wybodaeth
01 Mai

Gwasanaethau trên newydd rhwng Aberystwyth ac Amwythig

Ym mis Ebrill, cafwyd cyhoeddiad ynghylch gwasanaethau trên newydd rhwng Aberystwyth ac Amwythig, ac mae’r rhai a fu’n ymgyrchu dros y gwasanaethau newydd yn dweud y byddant yn rhoi hwb i economi’r canolbarth, sydd i’w groesawu’n fawr.
Rhagor o wybodaeth
15 Ebr

Map ardal newydd Bwcabus

Bellach, gallwch weld map ardal newydd Bwcabus, y ceir cip ohono isod, sy’n cynnwys dolenni cyswllt i amserlenni gwasanaethau bysiau er mwyn eich helpu i gynllunio eich taith.
Rhagor o wybodaeth
07 Ebr

Arolwg Bysiau Lleol Gwynedd 2014

Rhwng y 1af Ebrill a’r 31ain o Fai 2014 fe fydd Cyngor Gwynedd yn ymgymryd ag arolwg i fesur bodlonrwydd teithwyr gyda gwasanaethau bws lleol yn y Sir.
Rhagor o wybodaeth
04 Ebr

Cymerwch ran yng nghystadleuaeth Llythyr Newyddion y Pasg Traveline Cymru!

I ddiolch i bob un ohonoch sydd wedi tanysgrifio i’n e-lythyr newyddion misol, rydym wedi penderfynu lansio Gwobrau Llythyr Newyddion y Pasg!
Rhagor o wybodaeth
27 Maw

Stagecoach yn cyflwyno cerdyn disgownt newydd i bobl ifanc dan 19 oed

Mae Stagecoach yn ne Cymru ar fin lansio cynllun disgownt newydd sbon i deithwyr dan 19 oed.
Rhagor o wybodaeth
21 Maw

Cystadleuaeth Sul y Mamau Bws Caerdydd

Mae Bws Caerdydd wedi lansio cystadleuaeth unigryw er mwyn talu teyrnged i famau ar draws Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth
13 Maw

Panel Cynghorol Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus

Yn dilyn adolygiad o'r Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus presennol yn 2013, penderfynodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth sefydlu trefn newydd i roi cyngor iddi ar faterion sy'n effeithio ar ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus.
Rhagor o wybodaeth