Newyddion

Traveline Cymru contact centre

Traveline Cymru yn ennill contractau i ddelio â galwadau’n ymwneud â gwasanaethau cwsmeriaid yn Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaer

16 Ebrill 2015

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Canolfan Gyswllt ddwyieithog ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd wedi ennill contractau i ddelio ag ymholiadau’n ymwneud â gwasanaethau cwsmeriaid ar ran Traveline Swydd Gaerhirfryn a Traveline Swydd Gaer.

Bydd y contract dwy flynedd yn golygu 50,000 o alwadau’r flwyddyn yn ychwanegol â’n Canolfan Gyswllt lle mae gennym dîm o asiantiaid cymwys iawn ym maes gwasanaethau cwsmeriaid, sy’n delio â thros 200,000 o alwadau’r flwyddyn gan y cyhoedd sy’n teithio yng Nghymru. Rydym yn deall pwysigrwydd darparu gwasanaeth o safon uchel i bobl sy’n teithio o le i le, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn i’r sawl sy’n byw yn Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaer.

Meddai Rheolwr ein Canolfan Gyswllt, Emma Lockett, “Rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill y contractau hyn gan Traveline Swydd Gaerhirfryn a Traveline Swydd Gaer. Mae’n glod i’n tîm talentog yn y ganolfan alwadau, sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau lefelau bodlonrwydd mor uchel yn gyson ymhlith cwsmeriaid.”

Meddai Andrew Varley o PTI Limited wrth ddyfarnu’r contract, “Roedd yr hyn yr oedd Traveline Cymru yn ei gynnig yn bodloni ein holl ofynion o ran darparu gwasanaethau yn Swydd Gaerhirfryn, ac o ran gwerth am arian hefyd. Roeddem eisoes yn ymwybodol o’r modd yr oedd Traveline Cymru yn gweithredu ac o ansawdd y gwasanaethau yr oedd yn eu darparu’n rhan o rwydwaith cenedlaethol Traveline. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Traveline Cymru yn y dyfodol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Lynda Jones, yr Aelod Gweithredol dros Dwf ac Arloesedd yng Nghyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, “Rwy’n falch o ddweud, ar ôl i ni fod yn gweithio mewn partneriaeth, bod y galwadau wedi’u trosglwyddo i Traveline Cymru yn ddidrafferth. Mae Traveline Cymru yn cynnig gwasanaeth cwsmer ardderchog i drigolion ac mae’n ddolen gyswllt hollbwysig yn y broses o ddarparu gwybodaeth i deithwyr.”

Gallwch ddarllen rhagor ar walesonline.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon