Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Newyddion

Latest Tweets

@TravelineCymru It’s now mandatory to wear a face covering whilst travelling on all public transport services in Wales. Visit our n… https://t.co/vzBlQ13c6f
@TravelineCymru Bellach, rhaid i bawb wisgo gorchudd wyneb wrth deithio ar bob gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Ewch… https://t.co/NUnOAsP7GO
@TravelineCymru RT it is mandatory to wear a 3 layer face covering on public transport in Wales following Welsh Government guidance. F… https://t.co/U3cMQQeJEw
@TravelineCymru Transport for Wales have put together a list of FAQs on using public transport during the coronavirus crisis. This… https://t.co/Zpl16Cn9ob
@TravelineCymru Mae gan Trafnidiaeth Cymru gwestiynau cyffredin am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig coronafeir… https://t.co/hRPanz0hTR
Swansea Bay Trans

Bay Trans yn cyflwyno gwefan newydd ar gyfer teithio o gwmpas Bae Abertawe

23 Mehefin 2015

Mae Bay Trans wedi cyflwyno gwefan newydd ar gyfer dod o hyd i wybodaeth yn sydyn am ffyrdd o gyrraedd atyniadau yn ardal Bae Abertawe.

Gallwch weld y wefan newydd ar www.swanseawithoutacar.com. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i deithwyr, gan gynnwys awgrymiadau ynghylch gweithgareddau ac atyniadau yn yr ardal a’r opsiynau sydd ar gael o ran trafnidiaeth leol er mwyn gallu teithio iddynt.

Mae’r wefan newydd hefyd yn cynnig gwybodaeth am wahanol fathau o docynnau bws y gallwch eu cael er mwyn teithio o le i le, yn ogystal â gwybodaeth am rai prisiau ar gyfer tocynnau lleol. P’un a ydych am fynd i rywle am y dydd gyda’ch teulu neu’n gobeithio trefnu penwythnos i ffwrdd, mae llawer o leoedd diddorol i’w gweld a llawer o bethau diddorol i’w gwneud ym Mae Abertawe, ac mae gwefan newydd Bay Trans yn ffynhonnell o wybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr.

Pob stori newyddion