Newyddion

Traveline Cymru Logo

Dim trenau’n teithio rhwng gorsaf Canol Caerdydd a Chasnewydd y penwythnos hwn

23 Mehefin 2015

Gan fod Network Rail yn gwneud gwaith hanfodol i wella signalau, bydd y rheilffyrdd rhwng gorsaf Canol Caerdydd a Chasnewydd ar gau drwy’r dydd ddydd Sadwrn 27 Mehefin a dydd Sul 28 Mehefin.

Mae hynny’n golygu na fydd gwasanaethau trên yn rhedeg rhwng gorsaf Canol Caerdydd a Chasnewydd drwy gydol y penwythnos.

Bydd hynny’n effeithio ar yr holl gwmnïau trenau (Trenau Arriva Cymru, CrossCountry a First Great Western) sy’n rhedeg gwasanaethau rhwng y gorsafoedd hyn, a bydd yn effeithio ar wasanaethau rhwng de Cymru a Llundain, Bryste, Birmingham, Manceinion a gogledd Cymru.

Bydd gwasanaeth bws rheolaidd yn rhedeg i’r ddau gyfeiriad rhwng gorsaf Canol Caerdydd a Chasnewydd, a bydd arwyddion clir i ddangos ble mae’r arosfannau bysiau – Gorsaf Canol Caerdydd (Heol Penarth/ger allanfa’r maes parcio).

Dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith a chwilio am ragor o wybodaeth gan Trenau Arriva Cymru.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon